Lwfans Gofalwr: hysbysu newidiadau

Mae’n rhaid i chi hysbysu newid mewn amgylchiadau os ydych yn hawlio neu wedi gwneud cais am Lwfans Gofalwr, er enghraifft os:

  • rydych yn newid, dechrau neu gadael eich swydd
  • rydych yn dechrau ennill mwy na £139 yr wythnos
  • rydych yn stopio bod yn ofalwr
  • rydych yn stopio darparu o leiaf 35 awr o ofal yr wythnos
  • rydych yn cymryd gwyliau neu’n mynd i’r ysbyty – hyd yn oed os ydych yn trefnu gofal tra rydych i ffwrdd
  • mae’r person rydych yn gofalu amdanynt yn mynd i’r ysbyty, i gartref gofal neu’n cymryd gwyliau

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i hysbysu am farwolaeth rhywun rydych yn gofalu amdanynt. Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn lle hynny.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhoi gwybod am newidiadau ar-lein

Gwnewch yn siwr bod gennych:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion y person rydych yn gofalu amdanynt
  • manylion eich newidiadau

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd hyn yn cymryd tua 10 munud.

Ffyrdd eraill o hysbysu

Gallwch hefyd hysbysu newid mewn amgylchiadau i’r Uned Lwfans Gofalwr dros y ffôn neu drwy’r post.

Oherwydd coronafeirws (COVID-19) mae’n gyflymach i roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau ar-lein.