Cymhwyster

I fod yn gymwys am JSA Dull Newydd bydd angen i chi fod wedi:

  • gweithio fel cyflogai
  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf. Gall (Credydau Yswiriant Gwladol hefyd gyfrif)

Ni fyddwch yn gymwys os oeddech yn hunangyflogedig a dim ond wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, oni bai roeddech yn gweithio fel pysgotwr ar y cyd neu weithiwr datblygu gwirfoddol.

Bydd angen i chi hefyd:

  • bod yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych yn 16 oed neu’n 17 oed - cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith am gyngor)
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • peidio â bod mewn addysg llawn amser
  • bod ar gael i weithio
  • peidio â bod yn gweithio ar hyn o bryd, neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • bod heb salwch neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio
  • byw yn y DU

Tra rydych yn cael JSA, bydd angen i chi gymryd camau rhesymol i chwilio am waith fel y cytunwyd gyda’ch anogwr gwaith.

Ni fydd eich cynilion ac incwm a chynilion eich partner yn effeithio ar eich cais.

Gallwch gael JSA Dull Newydd (JSA) am hyd at 182 diwrnod (tua 6 mis). Ar ôl hyn gallwch siarad â’ch anogwr gwaith am eich opsiynau.

Hawlio Credyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle JSA Dull Newydd.

Os ydych yn cael y ddau fudd-dal, bydd eich taliadau JSA Dull Newydd yn:

  • cyfrif fel incwm wrth hawlio Credyd Cynhwysol
  • lleihau swm y Credyd Cynhwysol a gewch

Bydd eich JSA Dull Newydd fel arfer yn cael ei dalu’n fwy rheolaidd na Chredyd Cynhwysol. Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol gwahanol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich helpu i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol