Rhaglenni Chwiliad gwaith

Gall eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith rhoi mwy o wybodaeth i chi am raglenni gall eich helpu i baratoi am, dod o hyd i ac aros mewn gwaith.

Y Rhaglen Waith

Ers 1 Ebrill 2017, nid yw’r Rhaglen Waith wedi bod yn derbyn cyfranogwyr newydd. Os ydych yn cymryd rhan eisoes, gallwch barhau i wneud hyn hyd at 2 flynedd i’r dyddiad y gwnaethoch ymuno.

Bydd angen i chi fynychu cyfweliad asesu gyda’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych wedi bod ar y Rhaglen Waith am 2 flynedd. Bydd y cyfweliad yn eich helpu i gynllunio, paratoi a dod o hyd i waith.

Help ar gyfer mathau penodol o waith

Mae academïau gwaith sy’n seiliedig ar y sector yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith am hyd at 6 wythnos mewn diwydiant neu faes gwaith penodol.

Mae’r rhan fwyaf o academïau hefyd yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer swydd neu brentisiaeth.

Maent ar gael i chi os ydych yn hawlio unrhyw un o’r canlynol oherwydd eich bod yn ddi-waith:

Clybiau gwaith

Gall unrhyw un sy’n ddi-waith ymuno â Chlwb Gwaith. Maent yn cael eu rhedeg gan sefydliadau lleol fel cyflogwyr a grwpiau cymunedol ac yn rhoi’r cyfle i chi rhannu gwybodaeth, profiad ac awgrymiadau chwilio am waith.