Gofal plant y gallwch gael help i dalu amdano

Gallwch gael help gyda chost gofal plant drwy’r canlynol:

  • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn y DU
  • gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio yn Lloegr

Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ddim yn gallu’ch helpu chi i dalu am ofal plant os caiff ei ddarparu gan:

  • gwarchodwr plant cofrestredig, nani, cynllun chwarae, meithrinfa neu glwb
  • gwarchodwr plant neu nani gydag asiantaeth gwarchodwyr plant gofrestredig neu asiantaeth gofal plant
  • ysgol gofrestredig
  • gweithiwr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref gofrestredig

Mae hyn yn cael ei alw’n ‘ofal plant cymeradwy’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r rheolau ynghylch sut mae darparwyr gofal plant yn cael eu cymeradwyo’n amrywio’n ôl ble rydych yn byw.

Gallwch wirio a yw darparwr gofal plant wedi’i gymeradwyo, neu chwilio am un yn:

Os ydych am hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio yn Lloegr, bydd angen i’r darparwr hefyd fod ar Gofrestr Blynyddoedd Cynnar gydag Ofsted neu gydag asiantaeth gwarchodwyr plant blynyddoedd cynnar gofrestredig – holwch eich darparwr am hyn.

O fis Medi 2024, byddwch yn gallu cael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim ar gyfer eich plentyn o 9 mis oed os ydych chi’n gweithio. Gallwch wneud cais o 12 Mai ymlaen.

Gofal plant yn yr ysgol

Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth helpu i dalu am ofal y tu allan i oriau ysgol, er enghraifft clybiau ar ôl ysgol neu glybiau brecwast.

Os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol gynradd, gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan ysgol. Mae hyn yn cynnwys ffioedd ysgolion meithrin.

Ni allwch gael help i dalu am y canlynol:

  • addysg orfodol eich plentyn
  • gwersi preifat yn ystod amser ysgol (er enghraifft, gwersi cerddoriaeth preifat yn ystod oriau ysgol)

Nid oes modd hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ar gyfer gofal y tu allan i oriau ysgol os yw’ch plentyn yn mynychu dosbarth meithrin neu ddosbarth derbyn mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio os yw’ch plentyn yn mynychu dosbarth meithrin neu ddosbarth derbyn mewn ysgol annibynnol.

Gofal plant a ddarperir gan berthnasau

Os ydych yn byw yn Lloegr neu’r Alban

Dim ond os yw perthynas (er enghraifft, nain neu daid) yn warchodwr plant cofrestredig ac yn gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref y gallwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan y perthynas hwnnw.

Ni allwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ar gyfer gofal plant a ddarperir gan berthynas (er enghraifft, nain neu daid).

Ni allwch gael help ar gyfer gofal plant sy’n cael ei ddarparu gan eich partner. Nid yw hyn yn cael ei dderbyn fel ‘gofal plant cymeradwy’.

Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, gallwch dalu’r darparwr gofal plant gan ddefnyddio Credyd Cynhwysol, credydau treth, talebau gofal plant neu Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan berthynas:

Os ydych yn byw yng Nghymru

Dim ond os yw’n warchodwr plant cofrestredig a’i fod yn gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref y gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan berthynas.

Gofalwyr maeth

Os ydych yn rhiant maeth i blentyn rhwng 2 a 4 oed, gallwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio cyn belled a bod y canlynol yn wir:

I wneud cais, siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol â’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg).

Gofal plant a ddarperir gan ofalwr maeth

Gallwch ond a hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych wedi’ch cofrestru fel darparwr gofal plant ac yn byw yn Lloegr.

Gallwch hawlio, o bosib, os yw gofalwr maeth yn darparu gofal plant yng Nghymru (yn agor tudalen Saesneg), yn darparu gofal plant yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) neu’n darparu gofal plant yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).