Canllawiau

Cyfrifo faint o Doll Alcohol y mae angen i chi ei thalu

Dewch o hyd i’r gyfradd lawn o doll, ac enghreifftiau o gyfrifiadau sy’n berthnasol i chi os ydych yn cynhyrchu, mewnforio, neu’n dal cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill.

Cynhyrchion y mae’n rhaid i chi dalu Toll Alcohol arnynt

Mae’n rhaid i chi dalu Toll Alcohol ar gynhyrchion alcohol sydd ag alcohol yn ôl cyfaint (ABV) yn fwy na 1.2% ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:

  • cwrw
  • seidr, gan gynnwys perai
  • gwirodydd, gan gynnwys diodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw ac yn barod-i-yfed
  • gwin, gan gynnwys gwin pefriog a gwin cadarn
  • cynhyrchion eplesedig eraill (a elwir yn ‘gwin a wnaed’ yn flaenorol), megis seidr ffrwythau

Mae’r doll yn ddyledus pan mae’r cynhyrchion alcohol wedi’u rhyddhau i’w defnyddio yn y DU.

Sut i gyfrifo Toll Alcohol

Mae Toll Alcohol yn seiliedig ar faint o alcohol pur sydd yn y cynnyrch alcoholig.

I gyfrifo swm y Doll Alcohol sy’n ddyledus ar eich cynnyrch alcoholig, lluoswch nifer y litrau o alcohol pur sydd yn eich cynnyrch â’r gyfradd briodol o doll.

  1. Cyfrifwch sawl litr o’r cynnyrch gorffenedig sydd gennych.

  2. Cyfrifwch sawl litr o alcohol pur sydd gennych.

  3. Gwiriwch dabl y cyfraddau Toll Alcohol sydd yn yr arweiniad hwn i ddod o hyd i’r gyfradd briodol ar gyfer eich cynnyrch chi, gan ystyried ei gryfder o ABV.

  4. Cyfrifwch faint yw’r Doll Alcohol ar gyfer eich cynnyrch — lluoswch nifer y litrau o alcohol pur sydd yn eich cynnyrch â’r gyfradd briodol o doll.

  5. Cyfrifwch faint o Doll Alcohol y mae’n rhaid i chi ei thalu ar eich cynnyrch drwy dalgrynnu i lawr i’r geiniog agosaf.

Cyfraddau tollau (fesul litr o alcohol pur) o 1 Chwefror 2025 ymlaen

Cwrw

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.61
o 3.5% i 8.4% 21.78
o 8.5% i 22% 29.54
ABV dros 22% 32.79

Seidr (oni bai am seidr pefriog)

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.61
o 3.5% i 8.4% 10.02
o 8.5% i 22% 29.54
ABV dros 22% 32.79

Seidr pefriog

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.61
o 3.5% i 5.5% 10.02
o 5.6% i 8.4% 25.67
o 8.5% i 22% 29.54
ABV dros 22% 32.79

Gwirodydd, neu ddiodydd gwirodol sydd wedi’u cymysgu ymlaen llaw

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.61
o 3.5% i 8.4% 25.67
o 8.5% i 22% 29.54
ABV dros 22% 32.79

Gwin (gan gynnwys gwin pefriog)

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob
litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.61
o 3.5% i 8.4% 25.67
o 8.5% i 22% 29.54
ABV dros 22% 32.79

Cynhyrchion eplesedig eraill, megis seidr ffrwythau

Alcohol yn ôl cyfaint (ABV) Mewn £ (punnoedd), swm y doll byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
0 i 1.2% 0.00
o 1.3% i 3.4% 9.61
o 3.5% i 8.4% 25.67
o 8.5% i 22% 29.54
ABV dros 22% 32.79

Gwirio a allwch dalu llai o Toll Alcohol

Gallwch wirio a ydych yn gymwys am y canlynol:

Enghreifftiau o sut i gyfrifo swm y Doll Alcohol y mae’n rhaid i chi ei thalu

Enghraifft o gyfrifiad syml

Mae gennych 573 cynhwysydd o gwrw.

Mae pob cynhwysydd yn dal 7.5 litr o gwrw.

ABV eich cwrw yw 8.4%. Mae hyn yn golygu, am bob litr o alcohol pur sydd yn eich cwrw, y gyfradd o doll yw £21.78.

  1. Cyfrifwch sawl litr o gwrw sydd gennych.

    573 x 7.5 = 4,297.5 litr o gwrw.

  2. Cyfrifwch sawl litr o alcohol pur sydd gennych.

    4,297.5 litr x 8.4% (ABV) = 360.99 litr o alcohol pur.

  3. Cyfrifwch faint yw’r Doll Alcohol ar gyfer eich cwrw.

    360.99 x £21.78 (y gyfradd o doll) = £7,862.3622.

  4. Cyfrifwch faint o Doll Alcohol mae’n rhaid i chi ei thalu ar eich cwrw drwy dalgrynnu i lawr.

    £7,862.3622 wedi’i dalgrynnu i lawr i’r geiniog agosaf = £7,862.36.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Chwefror 2025 show all updates
  1. Rates of Alcohol Duty have been updated. Information about the temporary arrangement for wine has been removed, as this ended on 31 January 2025.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon