Canllawiau

Treth cerbyd ar gyfer cerbydau trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel

Sut mae'r newidiadau treth cerbyd (VED) yn effeithio ar eich cerbyd.

Mae ceir, faniau a beiciau modur trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel bellach yn ddarostyngedig i’r cyfraddau treth cerbyd a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2025.

Mae’r newid hwn yn berthnasol i gerbydau newydd a phresennol. Mae’r swm y bydd angen ichi ei dalu yn dibynnu ar y math o gerbyd a phryd y cafodd ei gofrestru.

Sut mae’r newidiadau yn effeithio ar eich cerbyd

Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025

Bydd angen ichi dalu’r gyfradd blwyddyn gyntaf isaf o dreth cerbyd wedi’i gosod ar £10 o 1 Ebrill 2025. O’r ail daliad treth ymlaen, byddwch yn talu’r gyfradd safonol o £195.

Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Ebrill 2017 ac 31 Mawrth 2025

Byddwch yn talu’r gyfradd safonol o £195.

Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 ac 31 Mawrth 2017

Y gyfradd dreth ar gyfer y cerbydau hyn yw £20.

Cerbydau hybrid a cherbydau a daniwyd mewn ffordd amgen (AFVs)

Mae’r gostyngiad blynyddol o £10 ar gyfer cerbydau hybrid ac AFVs wedi cael ei ddileu. Mae’r gyfradd rydych yn ei thalu yn dibynnu ar bryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf. Os cofrestrwyd y cerbyd:

Faniau trydan

Mae’r rhan fwyaf o faniau trydan wedi symud i’r gyfradd flynyddol safonol ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn. Gwiriwch y cyfraddau ar gyfer y cerbydau hyn.

Beiciau modur trydan

Mae beiciau modur trydan a beiciau tair olwyn trydan wedi symud i’r gyfradd flynyddol ar gyfer maint lleiaf yr injan. Gwiriwch y cyfraddau ar gyfer y cerbydau hyn.

Cyfradd ychwanegol (atodiad ceir drud)

Mae cerbydau trydan a di-allyriadau newydd a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025 gyda phris catalog sy’n fwy na £40,000 yn dwyn y gyfradd safonol, ynghyd â’r atodiad ceir drud am y 5 mlynedd gyntaf o ddechrau’r ail drwydded.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2025 show all updates
  1. Updated information for electric, zero and low emission cars, vans and motorcycles in line with the latest vehicle tax rates.

  2. Updated vehicle tax information for electric, zero or low emission vehicles

  3. The page has been updated to improve legibility following user feedback.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon