Carchar Brynbuga
Mae Brynbuga yn garchar i ddynion yn nhref Brynbuga, De Cymru. Mae’n cael ei reoli ar y cyd â Charchar Prescoed.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Brynbuga
I ymweld â rhywun ym Mrynbuga, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- archebu eich ymweliad ymlaen llaw
- bod â’r dogfennau adnabod gofynnol gyda chi pan fyddwch yn ymweld
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Brynbuga.
Cysylltwch â Brynbuga os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Frynbuga
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.
Llinell archebu dros y ffôn: 01291 673 730
Mae’r llinell archebu ar agor: Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener, rhwng 5pm a 7pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth: 2pm i 4pm.
- Dydd Mercher: 2pm i 4pm a 5pm i 7pm
- Dydd Iau: 2pm i 4pm.
- Dydd Gwener: 2pm i 4pm.
- Dydd Sadwrn: 2pm i 4pm.
- Dydd Sul: 2pm i 4pm.
Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol
Trefnu ymweliadau cyfreithiol dros y ffôn.
Llinell archebu:
01291 671 730
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 11am a 2pm i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth a dydd Mercher: 9am tan ganol dydd
Cyrraedd Brynbuga
Casnewydd yw’r orsaf drenau agosaf. O’r fan honno gallwch gael tacsi neu fynd ar y bws yn syth i dref Brynbuga.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr.
Mae maes parcio i ymwelwyr anabl y tu allan i’r carchar hefyd.
Mynd i mewn i Frynbuga
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Bydd swyddogion yn cynnal chwiliad gyda’u dwylo ar bob ymwelydd, gan gynnwys plant. Gall cŵn diogelwch fod yn bresennol hefyd. Bydd y broses yn cael ei hesbonio’n llawn i chi cyn y chwiliad.
Rhaid i ymwelwyr ddilyn cod gwisg perthnasol y carchar. Gallwch ofyn am ragor o fanylion ar eich ymweliad cyntaf.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Frynbuga. Gofynnir i chi adael eich holl eiddo wedi’i gloi yn eich cerbyd. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.
I’r rheini sydd heb gerbyd, mae nifer fach o loceri ar gael.
Mae rheolau sylfaenol y mae’n rhaid i chi eu dilyn yn ystod eich ymweliad. Mae’r rhain yn amlwg yn yr ystafell ymweliadau a byddant yn cael eu hegluro i chi ar eich cais.
Os byddwch yn torri’r rheolau hyn, gallai eich ymweliad gael ei ganslo ac, os yw’n ddifrifol, gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Cyfleusterau ymweld
Nid oes canolfan ymwelwyr ym Mrynbuga. Mae ystafell dderbynfa fach yn ardal y giât.
Diwrnodau teulu
Mae Brynbuga yn cynnal ymweliadau diwrnod teulu Oedolion a Phlant ychwanegol drwy gydol y flwyddyn.
Bydd carcharorion yn cael gwybod dyddiadau’r rhain yn fewnol.
Nid oes angen i chi drefnu’r ymweliadau hyn; bydd y carcharor rydych chi’n ymweld ag ef yn eu harchebu.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun ym Mrynbuga
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser ym Mrynbuga.
Galwadau fideo diogel
Mae pob carcharor yn cael un alwad fideo 30 munud y mis.
Os nad yw’n cael ymweliadau yn y carchar, gall wneud cais am alwad fideo ychwanegol bob mis.
Mae sesiynau fideoalwad (slotiau 30 munud) ar gael:
- Dydd Llun, 1:45pm i 6:15pm
- Dydd Iau, 1:45pm i 6:15pm
- Dydd Sadwrn, 8:45am i 11:45am
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan bob cell ym Mrynbuga ffôn ynddynt i garcharorion eich ffonio.
Dim ond pobl sydd ar eu rhestr gymeradwy y gallant eu ffonio.
Mae carcharorion yn cael cyfle bob wythnos i brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Rhaid i garcharorion wneud cais i ychwanegu rhifau at eu rhestr.
Pan fyddant yn gwneud hynny, bydd y carchar yn cysylltu â’r unigolyn hwnnw i sicrhau ei fod yn hapus i gael cyswllt. Os ydych chi am roi’r gorau i dderbyn galwadau gan garcharor, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Carcharorion Dieisiau.
Mae swyddogion yn gwrando ar alwadau ffôn ar hap fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Mae’r ffonau ymlaen:
- O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 7am ac 8:15am, rhwng 11:15am ac 1:45pm a rhwng 4pm a 9:30pm
- Rhwng 8am a 10pm ar ddydd Sadwrn
- Rhwng 8am a 10pm ar ddydd Sul
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun ym Mrynbuga drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau ym Mrynbuga.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Brynbuga.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Gallwch hefyd anfon archebion post a sieciau. Dylid gwneud y rhain yn daladwy i ‘NOMS Agency’ a chynnwys enw a rhif y carcharor ar y cefn.
Rhoddion a pharseli
Mae carcharorion ym Mrynbuga yn cael rhestr o gyfleusterau sy’n rhoi manylion eitemau y gellir eu hanfon atynt drwy’r post. Cysylltwch â Brynbuga i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.
Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.
Peidiwch ag anfon parsel nes bydd y carcharor yn cadarnhau ei fod wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.
Bywyd ym Mrynbuga
Mae Brynbuga wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor ym Mrynbuga hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Brynbuga am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a lles sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Brynbuga yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 280 o garcharorion yn byw ym Mrynbuga. Mae’r rhan fwyaf yn byw mewn celloedd a rennir ar draws y 3 prif adain, o’r enw A, B a C. Gall carcharorion ar y lefel ymddygiad ‘uwch’ wneud cais i fyw yn yr Uned Comber, sy’n uned ddortur ar wahân. Mae setiau teledu ym mhob cell.
Gall carcharorion ar y lefel ymddygiad ‘uwch’ wneud cais i fyw yn Adain D, sy’n uned ystafell aml-wely ar wahân.
Mae cyfleusterau campfa dan do ac awyr agored sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i garcharorion o bob gallu corfforol.
Mae gan Frynbuga dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.
Addysg a gwaith
Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu, yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel llythrennedd, rhifedd sgiliau cyfrifiadurol a chyflogadwyedd, i ddysgu a chymwysterau uwch. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant mewn amrywiaeth o grefftau a phroffesiynau, yn cynnwys:
- iechyd a diogelwch
- diogelwch bwyd
- llesiant
- astudiaethau busnes
- crefft trin coed
- gosod brics
Mae gwaith ar gael drwy’r carchar ac yn y gweithdai diwydiannol.
Mae Brynbuga hefyd yn rhedeg nifer o gyrsiau raglenni ymddygiad troseddol achrededig.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd ym Mrynbuga, anfonwch e-bost at: resettlement.usk@justice.co.uk.
Cefnogaeth ym Mrynbuga
Darperir gwasanaethau teulu ym Mrynbuga gan G4S.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01291 671731 os oes gennych bryder brys am les carcharor a gofynnwch am y swyddog negesau neu’r llywodraethwr ar ddyletswydd.
Llinell gymorth dalfa mwy diogel
Os oes gennych bryderon am ddiogelwch neu les carcharor ym Mrynbuga nad ydynt yn bryderon uniongyrchol, ffoniwch y llinell gymorth dalfa mwy diogel.
Ffôn: 0808 808 2003
Peiriant ateb 24 awr
Gwybodaeth am gostau galwadau
Gadewch neges sy’n rhoi cymaint o fanylion â phosibl gan gynnwys enw’r carcharor, rhif y carcharor a’r adain mae wedi’i lleoli arni os ydych chi’n gwybod hynny. Os ydych chi’n dymuno, gallwch adael eich manylion a’ch rhif cyswllt eich hun er mwyn i’r carchar allu rhoi adborth i chi, os yw hynny’n briodol.
Gallwch hefyd ddarllen mwy o wybodaeth am bryderon am garcharu mwy diogel ar wefan Teuluoedd Carcharorion.
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Brynbuga. Os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Brynbuga mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Brynbuga
Llywodraethwr: Rob Denman
Ffôn (24 awr): 01291 671 600
Ffacs: 01291 671 752
Gwybodaeth am gost galwadau
Cyfeiriad
Carchar EF Brynbuga
47 Maryport Street
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1XP
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Added translation
-
Revisions to: entering Usk, visiting facilities, family days, secure video call, phone calls, gifts and parcels, arrival and first night, and accommodation.
-
Added translation
-
Updated emergency contact number to 01291 671731
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
New visiting times and booking information added.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated: HMP Usk visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.
-
Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.
-
added survey link
-
COVID19 Update
-
First published.