Canllawiau

Defnyddio'r ap GOV.UK ID Check app

Sut i ddefnyddio'r ap GOV.UK ID Check i brofi eich hunaniaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap a sut i sganio'ch wyneb a'ch ID gyda llun.

Mae’r ap GOV.UK ID Check ar gyfer profi eich hunaniaeth pan fyddwch yn mewngofnodi i wasanaeth y llywodraeth gyda GOV.UK One Login. I ddefnyddio’r ap, rhaid i chi ddechrau ar y gwasanaeth llywodraeth rydych yn ceisio cael mynediad iddo. Byddwch yn cael eich tywys i’r ap pan fydd yn amser ei ddefnyddio.

Bydd yr ap yn gwirio bod:

  • eich ID gyda llun yn un go iawn
  • rydych yn berson go iawn
  • rydych yr un person ag yn eich ID gyda llun

Lawrlwytho’r ap

I ddefnyddio’r ap byddwch angen ffôn gyda chamera sy’n gweithio.

Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn rhedeg iOS 14 neu uwch a bod naill ai yn:

  • iPhone 6s neu fwy newydd os yw’ch ID gyda llun yn drwydded yrru y DU
  • iPhone 7 neu fwy newydd os ydych yn defnyddio unrhyw fath arall o ID gyda llun

Ar gyfer ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.

Byddwch hefyd angen un o’r mathau canlynol o ID gyda llun:

  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • pasbort y DU
  • pasbort o’r tu allan i’r DU gyda sglodyn biometrig
  • trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
  • cerdyn preswylio biometreg y DU
  • trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)

Gwnewch yn siwr nad ydych yn defnyddio pori preifat, a elwir hefyd yn ‘incognito’, yn eich porwr gwe wrth lawrlwytho’r ap.

Os ydych angen help i lawrlwytho’r ap ar eich ffôn, mae cyngor ar y canlynol:

Os yw’n well gennych beidio â defnyddio’r ap, gallwch brofi eich hunaniaeth mewn ffordd arall.

Sganio’r codau QR

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu lechen a’ch bod am ddefnyddio’r ap GOV.UK ID Check i brofi eich hunaniaeth, bydd yn dangos i chi sut i newid i’ch ffôn clyfar.

Bydd angen i chi sganio cod QR i lawrlwytho’r ap. Os gwnaethoch lawrlwytho’r ap i’ch ffôn clyfar o’r blaen, gallwch sganio’r un cod QR i’w agor.

Cysylltu’r ap GOV.UK ID Check i GOV.UK

Bydd angen i chi gysylltu’r ap GOV.UK ID Check â GOV.UK pan fyddwch yn ei agor. Mae hyn yn rhoi gwybod i ni mai chi yw’r un person a mewngofnodwyd i wasanaeth y Llywodraeth gyda GOV.UK One Login yn gynharach.

I gysylltu’r ap:

  1. Tapiwch ‘Parhau’ pan rydych yn agor yr ap a derbyn unrhyw awgrymiadau mewngofnodi.
  2. Tapiwch y botwm ‘Cysylltu’r ap i barhau’ ar y sgrin ‘Cysylltu’r ap hwn â GOV.UK.

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu dabled

Os gwnaethoch fewngofnodi i GOV.UK One Login ar gyfrifiadur neu lechen cyn agor yr ap, efallai y gofynnir i chi fynd yn ôl i’ch cyfrifiadur neu dabled a sganio ail god QR. Bydd ar yr un dudalen â’r cod QR cyntaf ond ymhellach i lawr.

Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar

Os gwnaethoch fewngofnodi i GOV.UK One Login ar eich ffôn, efallai y gofynnir i chi fynd yn ôl i ffenestr y porwr lle gwelsoch gyfarwyddiadau i lawrlwytho ac agor GOV.UK Check ID. Bydd ail fotwm ymhellach i lawr y dudalen sy’n dweud ‘Cysylltu GOV.UK ID Check’. Cliciwch y botwm hwn i gysylltu’r ap â llaw.

Os ydych yn cael trafferth cysylltu’r ap â GOV.UK

Os yw’r ap ddal ddim yn cysylltu â GOV.UK, ceisiwch wirio:

  • bod adblock wedi ei ddiffodd ar eich ffôn
  • os ydych yn defnyddio iPhone 7 neu fwy newydd ac yn rhedeg iOS 13 neu’n uwch gyda Safari neu Chrome fel eich porwr gwe diofyn, neu ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel) sy’n rhedeg 10 neu’n uwch gyda Chrome fel eich porwr gwe diofyn
  • nid ydych yn defnyddio pori preifat, a elwir hefyd yn ‘incognito’, yn eich porwr gwe

Os ydych yn parhau i fethu cysylltu’r ap, gallwch ddychwelyd i wefan y gwasanaeth rydych am ei ddefnyddio a chwilio am ffyrdd eraill o brofi eich hunaniaeth.

Sut i sganio eich ID gyda llun

Os ydych yn defnyddio trwydded yrru y DU

Gofynnir i chi dynnu llun o’ch trwydded yrru. Bydd y llun yn cael ei dynnu’n awtomatig, felly peidiwch â chyffwrdd â’ch sgrin tra bod hyn yn digwydd.

Gwnewch yn siwr eich bod yn:

  • dal eich trwydded yrru yng nghledr un llaw a bod eich ffôn yn y llaw arall - os ydych yn cael trafferth tynnu llun o’r drwydded tra mae yn eich llaw, rhowch hi ar gefndir ‘matte’ tywyll
  • symud y drwydded i ffwrdd o ffynonellau golau llachar er mwyn lleihau disgleirdeb
  • cael eich trwydded gyfan y tu mewn i’r ffrâm wen

Os ydych yn defnyddio pasbort

Gwnewch yn siwr bod gan y pasbort rydych yn ei ddefnyddio sglodyn biometrig. I wirio a oes gan eich pasbort sglodyn biometrig, edrychwch am y symbol sglodyn biometrig petryal ar y clawr blaen.

Gofynnir i chi:

  1. Dynnu llun o’ch pasbort.
  2. Sganio y sglodyn biometrig yn eich pasbort gan ddefnyddio’ch ffôn.
  3. Sganio eich wyneb gan ddefnyddio’ch ffôn.

Os ydych yn defnyddio BRP

Os yw’ch ID gyda llun yn BRP, gofynnir i chi:

  1. Dynnu llun o’ch BRP.
  2. Sganio y sglodyn biometrig yn eich BRP gan ddefnyddio’ch ffôn.
  3. Sganio eich wyneb gan ddefnyddio’ch ffôn.

Sganio’r sglodyn biometrig yn eich pasbort neu BRP

Gall y sgan fethu oherwydd:

  • nid yw’ch ffôn yn cyffwrdd â’ch ID gyda llun
  • mae gan eich ffôn gas neu ategolyn arno – ceisiwch dynnu’r rhain a sganio’ch ID gyda llun eto
  • mae cysylltiad rhyngrwyd wedi ei gollu am gyfnod byr
  • cafodd y ffôn ei symud tra bod y sgan yn digwydd
  • mae dogfen arall, ac eithrio eich pasbort neu drwydded breswylio, yn cael ei sganio

Gallech roi cynnig arall a dylech weld animeiddiad cymorth. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a, pan fyddwch yn barod, dewiswch ‘Dechrau sganio’ neu rhowch eich ffôn ar ben eich pasbort i ddechrau’r sgan yn awtomatig.

Sganio eich wyneb

Byddwch yn defnyddio eich camera sy’n wynebu’r blaen (hunlun) i wneud hyn. I sganio’ch wyneb gyda’r ap GOV.UK Check ID, gwiriwch:

  • fod eich wyneb wedi’i alinio’n llwyr â’r hirgrwn ar eich sgrin
  • eich bod yn edrych yn syth ymlaen
  • yn cadw mor llonydd ag y gallwch tra bo’r sgan yn digwydd

Beth i’w wneud os nad yw’r gwiriad hunaniaeth ar yr ap yn gweithio

Os nad oeddech yn gallu cytuno ar eich hunaniaeth gyda’r ID gyda llun cyntaf rydych wedi’i ddewis, gallwch geisio eto gan ddefnyddio ID gyda llun arall.

Ewch yn ôl i’r gwasanaeth roeddech yn ceisio ei ddefnyddio i ddechrau profi eich hunaniaeth eto.

Gallwch hefyd geisio profi eich hunaniaeth mewn ffordd arall gyda GOV.UK One Login.

Cyhoeddwyd ar 26 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 April 2024 + show all updates
  1. Updated the iPhone model and operating system for using the GOV.UK Check ID app.

  2. Update on how to link the app to your browser session, and on the mobile phones and operating systems that work with the app

  3. Added translation