Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF eich bod am hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Gwirio a oes angen i chi gyflwyno ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am eich hawliad rhyddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu, pa wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi a sut i’w hanfon.

Mae’n bosibl y bydd camau eraill y bydd yn rhaid i chi eu cymryd cyn cyflwyno’r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am eich hawliad. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.

Pwy ddylai gyflwyno’r ffurflen

Os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod am eich hawliad os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn hawlio am y tro cyntaf
  • cafodd eich hawliad diwethaf ei wneud mwy na 3 blynedd cyn dyddiad olaf y ‘cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am eich hawliad’ — defnyddiwch yr arweiniad ar y dudalen hon i gael gwybod a yw hyn yn berthnasol i chi

Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol er mwyn llenwi a chyflwyno’r ffurflen:

  • yn gynrychiolydd i’r cwmni
  • yn asiant sy’n gweithredu ar ran y cwmni

Pryd i gyflwyno’r ffurflen — y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen yn ystod cyfnod penodol o’r enw ‘y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad’. Os na wnewch hynny, bydd eich hawliad am ryddhad Ymchwil a Datblygu’n annilys.

 Mae eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yn dibynnu ar y canlynol:

  • y ‘cyfnod rhoi cyfrif’ — y cyfnod a gwmpesir gan eich datganiadau ariannol (gall hyn gwmpasu cyfnod yn hirach na 12 mis)
  • y ‘cyfnod cyfrifyddu’ neu’r cyfnodau sy’n cael eu cwmpasu gan eich cyfnod cyfrifyddu chi  — y cyfnod a gwmpesir gan eich Ffurflen Dreth y Cwmni (ni all hyn gwmpasu cyfnod yn hirach na 12 mis)

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch am gyfnodau cyfrifyddu ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfrifo’ch cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad

Mae eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad:

  • yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y ‘cyfnod rhoi cyfrif’ — dyma’r dyddiad cyntaf o’ch cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad
  • yn dod i ben 6 mis ar ôl diwedd ‘y cyfnod cyfrifyddu’ — dyma ddyddiad olaf eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad

Os ydych yn hawlio am ‘gyfnod rhoi cyfrif’ sy’n 12 mis neu lai, bydd eich ‘cyfnod cyfrifyddu’ fel arfer yn cwmpasu’r un amser â’ch ‘cyfnod rhoi cyfrif’.

Os ydych yn hawlio am ‘gyfnod rhoi cyfnod rhoi cyfrif’ sy’n fwy na 12 mis, bydd yn cynnwys 2 neu fwy o ‘gyfnodau cyfrifyddu’. Mae’r cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yr un peth ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Os ydych yn hawlio rhyddhad treth R&D am y tro cyntaf

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yn ystod y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad.

Os ydych yn hawlio ar gyfer ‘cyfnod rhoi cyfrif’ sy’n fwy na 12 mis, dylech gyflwyno’r ffurflen ar gyfer un o’r cyfnodau cyfrifyddu’n unig.

Os ydych wedi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn flaenorol

Os ydych wedi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn y tair 3 blynedd cyn dyddiad olaf eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad, does dim angen i chi anfon ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am eich hawliad, oni bai bod unrhyw un o’r eithriadau canlynol yn berthnasol:

  • gwrthododd CThEF eich hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu drwy dynnu’r hawliad o’ch Ffurflen Dreth y Cwmni
  • gwnaethoch hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu am gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2023 drwy ddiwygio eich Ffurflen Dreth a daeth y diwygiad i law ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

Os gwnaethoch hawliad mwy na 3 mlynedd cyn dyddiad olaf eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am eich hawliad, neu os yw unrhyw un o’r eithriadau’n berthnasol, bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cyflwyno’r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad erbyn ‘dyddiad olaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad’
  • anfon yr hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni neu fel diwygiad i’r ffurflen honno, fel y bydd yn dod i law erbyn ‘dyddiad olaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad’

Enghraifft o gyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad ar gyfer ‘cyfnod rhoi cyfrif’ sy’n 12 mis neu lai

Mae:

  • cyfnod rhoi cyfrif cwmni — yn cwmpasu 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024
  • cyfnod cyfrifyddu cwmni — hefyd yn cwmpasu 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024

Mae hyn yn golygu:

  • mai dyddiad cyntaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yw 1 Ionawr 2024
  • dyddiad olaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yw 30 Mehefin 2025 (sef 6 mis ar ôl diwedd y ‘cyfnod rhoi cyfrif’)

Os yw’r cwmni’n gwneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu am y tro cyntaf, mae’n rhaid iddo gyflwyno’r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad rhwng 1 Ionawr 2024 a 30 Mehefin 2025.

Os yw’r cwmni wedi gwneud hawliad blaenorol am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu a bod ei hawliad blaenorol cyn 30 Mehefin 2022 (mae hyn yn fwy na 3 mlynedd cyn 30 Mehefin 2025), bydd yn rhaid iddo wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cyflwyno’r ffurflen yn rhoi gwybod i CThEF am hawliad rhwng 1 Ionawr 2024 a 30 Mehefin 2025
  • anfon yr hawliad ar ei Ffurflen Dreth y Cwmni neu fel diwygiad i’r ffurflen honno fel ei bod yn dod i law cyn 30 Mehefin 2025

Enghraifft o gyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad ar gyfer ‘cyfnod rhoi cyfrif’ sy’n fwy na 12 mis

Mae ‘cyfnod rhoi cyfrif’ cwmni yn cwmpasu 1 Ionawr 2024 i 30 Mehefin 2025.

Cyfnodau cyfrifyddu y cwmni yw:

  • 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024
  • 1 Ionawr 2025 i 30 Mehefin 2025

Mae hyn yn golygu:

  • mai dyddiad cyntaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yw 1 Ionawr 2024
  • dyddiad olaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yw 31 Rhagfyr 2025 (sef 6 mis ar ôl diwedd y ‘cyfnod rhoi cyfrif’)

Os yw’r cwmni’n gwneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu am y tro cyntaf, mae’n rhaid iddo gyflwyno’r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2025.

Os yw’r cwmni wedi gwneud hawliad blaenorol am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu a bod ei hawliad blaenorol cyn 31 Rhagfyr 2022 (mae hyn yn fwy na 3 mlynedd cyn 31 Rhagfyr 2025), bydd yn rhaid iddo wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cyflwyno’r ffurflen yn rhoi gwybod i CThEF am hawliad rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2025
  • anfon yr hawliad ar ei Ffurflen Dreth y Cwmni neu fel diwygiad i’r ffurflen honno fel ei bod yn dod i law cyn 31 Rhagfyr 2025

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch

Er mwyn cwblhau’r ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer y cwmni — mae’n rhaid i hwn gyfateb i’r un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni
  • manylion cyswllt ar gyfer prif uwch swyddog Ymchwil a Datblygu mewnol y cwmni sy’n gyfrifol am yr hawliad Ymchwil a Datblygu, er enghraifft un o gyfarwyddwyr y cwmni
  • manylion cyswllt ar gyfer pob asiant sydd ynghlwm â’r hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu — gan gynnwys unrhyw asiant sydd wedi rhoi cyngor, dadansoddi costau, helpu i baratoi asesiadau technegol, rhoi gwybodaeth neu wedi llenwi’r ffurflenni ar-lein neu Ffurflen Dreth y Cwmni
  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn hawlio’r rhyddhad treth neu gredyd gwariant ar ei gyfer – mae’n rhaid i hwn gyfateb i’r un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni
  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod rhoi cyfrif
  • crynodeb o’r gweithgareddau lefel uchel a gynlluniwyd, er enghraifft, os ydych wedi datblygu meddalwedd, sut y caiff ei ddefnyddio er mwyn dangos bod y prosiect yn bodloni’r safon diffiniad o Ymchwil a Datblygu — does dim rhaid i chi gynnwys tystiolaeth ar y ffurflen rhoi gwybod am hawliad, ond bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth cyn i chi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a datblygu ar eich Ffurflen Dreth

Os ydych yn gwsmer sy’n fusnes mawr

Os ydych yn fusnes mawr a bod gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Pan fyddwch yn anfon e-bost, cofiwch gynnwys eich rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid.

Cyflwyno’ch ffurflen

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol: 

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Ni fyddwch yn gallu cael at y ffurflen unwaith y byddwch wedi ei chyflwyno, felly cadwch gopi cyn gwneud hynny.

Dechrau nawr

Yr hyn i’w ddisgwyl ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen

Cewch e-bost a fydd yn:

  • cadarnhau bod y ffurflen wedi dod i law
  • rhoi cyfeirnod i chi 

Cadwch nodyn o’r cyfeirnod hwn am y rhesymau canlynol:

  • gallwch drafod eich ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad gyda CThEF
  • os oes angen, gallwn wirio eich bod wedi cyflwyno’ch ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf

Os ydych yn penderfynu peidio â pharhau â’ch hawliad ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen i roi gwybod am yr hawliad, does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall.

Os ydych yn penderfynu parhau â’ch hawliad, bydd angen i chi gyfrifo eich rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Hydref 2024 show all updates
  1. Clarification and improved explanations added for when to submit the form and working out your claim notification period. Also clarified guidance on 'what you need to do next' added.

  2. Clarification added of who needs to submit a claim notification form, the statutory deadline for doing so and which agents involved in the claim need to provide contact details.

  3. The guidance on when you must notify and when you may need to notify HMRC by submitting a claim notification form has been clarified. A new section 'Before you start' has been added to help you check your understanding of when to submit a claim notification form. The information on when you must submit an additional information form has been updated from 1 August 2023 to 8 August 2023, and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed.

  4. The dates in example 1 and example 2 in the section 'When you must notify by' have been amended to show the correct periods of account and submission dates.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon