Canllawiau

Rhowch wybod i CThEM os ydych wedi tandalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn y sector gofal cymdeithasol

Gallwch gael cymorth i weithio allan a ydych wedi tandalu'ch gweithwyr am sifftiau cysgu preswyl, a rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM, drwy ddefnyddio'r cynllun cydymffurfio gofal cymdeithasol.

This guidance was withdrawn on

The Social Care Compliance Scheme closed on 31 December 2018.
Contact HMRC if you need help to decide if your workers are working during sleep-in shifts.

Tynnwyd yn ôl

Daeth y Cynllun Cydymffurfio Gofal Cymdeithasol i ben ar 31 Rhagfyr 2018.
Cysylltwch â CThEM os oes angen help arnoch i benderfynu a yw’ch gweithwyr yn gweithio yn ystod sifftiau cysgu preswyl.

Trosolwg

Mae angen i chi wirio’ch bod yn talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ar gyfartaledd, i’ch gweithwyr am yr amser a weithiwyd ym mhob cyfnod yr ydych yn eu talu ar eu cyfer (a elwir y cyfnod cyfeirnod cyflog). Mae’n bosibl eich bod wedi tandalu’ch gweithwyr os nad ydych wedi cynnwys unrhyw oriau a weithiwyd yn ystod sifftiau dros nos pan allant gysgu ar y safle (sifftiau cysgu preswyl).

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM (CThEM) os oes angen help arnoch i benderfynu a yw’ch gweithwyr yn gweithio yn ystod sifftiau cysgu preswyl.

Os ydych o’r farn eich bod, o bosib, wedi talu llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’ch gweithwyr, gallwch wneud cais i ymuno â chynllun cydymffurfio gofal cymdeithasol CThEM. Os cewch eich derbyn i’r cynllun, a’ch bod yn datgan unrhyw dandaliadau, ni fyddwch:

  • yn gorfod talu’r gosb ariannol sef, ar hyn o bryd, 200% o’r swm sydd arnoch i’ch gweithwyr, hyd at uchafswm o £20,000 y gweithiwr
  • yn cael eich enwi’n gyhoeddus am dandalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cewch eich ystyried i fod yn gyflogwr yn y sector gofal cymdeithasol os ydych yn rhoi gofal personol a chymorth ymarferol arall i blant neu oedolion er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol, neu i wella ansawdd eu bywydau. Gall hyn fod oherwydd oedran, salwch, anabledd, beichiogrwydd, genedigaeth, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu unrhyw amgylchiadau tebyg.

Gallwch hefyd fod yn unigolyn sy’n gyflogwr, os ydych yn cyflogi rhywun i roi gofal i chi.

Yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn weithiwr gofal ac o’r farn eich bod wedi cael eich talu llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Pwy all ymuno â’r cynllun

Gallwch wneud cais i ymuno â’r cynllun os ydych yn gyflogwr gofal cymdeithasol sy’n darparu sifftiau cysgu preswyl. Dylech fod yn un o’r canlynol:

  • cyflogwr
  • rhywun sy’n ariannu’i ofal ei hun
  • rhywun sy’n cael arian i ariannu’i ofal ei hun (er enghraifft drwy daliad uniongyrchol, cyllideb gofal cymdeithasol personol neu gyllideb iechyd personol)

Gall cynrychiolydd un o’r rhain hefyd ddefnyddio’r cynllun ar ei ran.

Ni allwch ymuno â’r cynllun os ydych, cyn hyn, wedi:

  • cael eich erlyn am dandalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • gwrthod gwahoddiad gan CThEM i ymuno â’r cynllun

Derbynnir ceisiadau yn ôl disgresiwn CThEM.

Cysylltwch â CThEM os ydych yn ariannu’ch gofal eich hun, neu’n cael arian i ariannu’ch gofal, a bod angen cymorth ychwanegol arnoch.

Sut i ymuno â’r cynllun

Os cewch eich derbyn, bydd CThEM yn cysylltu â chi ynglŷn â’ch camau nesaf.

Os oes gennych gyfeirnod Talu Wrth Ennill neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, bydd angen y manylion hyn arnoch er mwyn llenwi’r ffurflen.

31 Rhagfyr 2018 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymuno â’r cynllun.

Ar ôl i chi ymuno â’r cynllun

Ar ôl i chi gael eich derbyn ar y cynllun, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • adolygu’r swm yr ydych wedi’i dalu i’ch gweithwyr - bydd CThEM yn eich helpu gyda’r broses hon
  • dychwelyd y datganiad, fel arfer cyn pen 12 mis, neu erbyn 31 Rhagfyr 2018 os yw hynny’n gynt
  • talu unrhyw dandaliad i’ch gweithwyr am sifftiau cysgu preswyl, fel arfer cyn pen 3 mis o ddychwelyd eich datganiad neu erbyn 31 Mawrth 2019, p’un bynnag sydd gynharaf
  • talu unrhyw dandaliadau Isafswm Cyflog Cenedlaethol eraill i’ch gweithwyr cyn i chi ddychwelyd eich datganiad
  • talu unrhyw dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ychwanegol sy’n codi o ganlyniad i unrhyw dandaliad
  • gwneud yn siŵr eich bod yn talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’ch gweithwyr am yr amser a weithiwyd yn ystod sifftiau cysgu preswyl o’r adeg pan wnaethoch sylweddoli eich bod wedi tandalu
  • cadw cofnodion o sut yr ydych wedi penderfynu a ydych wedi tandalu’ch gweithwyr, a chyfrifo’r hyn sydd arnoch

Cysylltiadau

Cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cymraeg ar 0300 200 1900 (8:30 i 17:00, dydd Llun i ddydd Gwener) er mwyn cael y canlynol:

  • rhagor o wybodaeth am y cynllun
  • help i benderfynu a yw’ch gweithwyr yn gweithio yn ystod sifft cysgu preswyl
  • help i gyfrifo unrhyw dandaliad y gallech ddod o hyd iddo
Cyhoeddwyd ar 1 November 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 July 2018 + show all updates
  1. The 'Decide if sleep-in shifts are counted as work' section of the guide has been removed.

  2. Added translation