Canllawiau

Cyflwyno’ch Datganiad Toll Alcohol

Defnyddiwch y gwasanaethau ar-lein i gyflwyno datganiadau Toll Alcohol ar gyfer cynnyrch alcoholaidd, yn cynnwys cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill.

Pwy sy’n gorfod cyflwyno datganiad

Mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy cyflwyno datganiad Toll Alcohol misol, drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Toll Alcohol.

Mae toll yn ddyledus pan fo cynhyrchion sydd ag alcohol yn ôl cyfaint (ABV) o fwy na 1.2% yn cael eu rhyddhau i’w defnyddio yn y DU.

Os nad oes unrhyw Doll Alcohol yn ddyledus, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ‘dim’.

Does dim rhaid i chi gyflwyno datganiad os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych ond yn cynhyrchu cynhyrchion seidr
  • gwnaethoch gynhyrchu 5 hectolitr neu lai o alcohol yn ystod y flwyddyn calendr blaenorol
  • rydych yn amcangyfrif y byddwch yn cynhyrchu 5 hectolitr neu lai o alcohol yn ystod y flwyddyn galendr bresennol

Cynhyrchwyr gwirodydd

Ynghyd â’ch datganiad misol, bydd hefyd angen i chi rhoi gwybod am waith cynhyrchu gwirodydd bob chwarter. Nid oes modd i chi ddefnyddio’r Datganiad Distyllfa Chwarterol (W21) i wneud hyn mwyach. Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer rheoli’ch Toll Alcohol.

Yn y gwasanaeth, mae hefyd angen i chi lenwi datganiad ‘dim’ yn yr adran ynghylch gwaith cynhyrchu gwirodydd, hyd yn oed os yw’r canlynol yn dal i fod yn berthnasol amdanoch:

Pryd y dylech gyflwyno Datganiad 

Mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy cwblhau Datganiad Toll Cwrw erbyn 15fed diwrnod y mis ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu, sy’n fis calendr. 

Os nad ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, neu’n talu, mewn pryd 

Gallwn godi cosb arnoch ar gyfer y canlynol:

  • datganiad hwyr

  • datganiad anghywir gyda gwallau

  • taliad hwyr

Os na fyddwch yn cyflwyno datganiad erbyn y dyddiad cau, gan gynnwys datganiad ‘dim’, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Darllenwch drosolwg o gosbau (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gyflwyno datganiad

Cyn i chi gwblhau eich datganiad Toll Alcohol cyntaf, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol ar-lein.

Bydd y gwasanaeth y cyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu.

Gallwch hefyd ei ddefnyddio i roi gwybod i ni am y canlynol:

  • cyfanswm y litrau o gynhyrchion alcoholig gorffenedig

  • cyfanswm y litrau o alcohol pur mewn cynhyrchion wedi’u grwpio gan fandiau cryfder ABV

  • cynhyrchion rydych wedi’u tan-ddatgan mewn datganid blaenorol 

  • cynhyrchion rydych wedi’u gor-ddatgan mewn datganid blaenorol 

  • cynhyrchion y mae angen i chi hawlio anfantais arnynt 

  • cynnyrch y mae angen i chi ei ddatgan i fod yn alcohol wedi’i ddifetha

  • cynhyrchion o’r gasgen wedi’u hail-becynnu

Bydd angen i chi rhoi gwybod i ni os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach neu cyfradd is ar gynhyrchion o’r gasgen.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am eich cynhyrchion alcohol sydd â tholl wedi’i ohirio:

  • a fewnforiwyd i’r DU 

  • a allforiwyd y tu allan i’r DU

  • a ddosbarthwyd i, ac a gafwyd o, safleoedd eraill sydd wedi’u cofrestru yn y DU neu warysau ecséis

Cyflwyno’ch datganiad 

I gyflwyno’ch datganiad ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth ymrestru â’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol.

Os gwnaethoch gofrestru mwy nag un endid, bydd gan bob un Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân.

Dechrau nawr

Os na allwch wneud cais ar-lein

Cysylltwch ag ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis er mwyn cyflwyno’ch datganiad ar bapur, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiadur ar sail rhesymau crefyddol

  • ni allwch ddefnyddio cyfrifiaduron oherwydd eich oed, anabledd neu oherwydd nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd lle’r ydych yn byw

Yr hyn i’w wneud ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad

Ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad Toll Alcohol, byddwch yn cael cyfeirnod datganiad Toll Alcohol, sy’n 14 cymeriad, a’r swm sydd angen i chi ei dalu. Defnyddiwch y cyfeirnod hwn i dalu Toll Alcohol.

Mae’n rhaid i chi dalu Toll Alcohol erbyn y 25ain diwrnod o’r mis. Byddwn yn codi llog arnoch os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad hwn.

Rhagor o wybodaeth

Gwiriwch gyfraddau Toll Alcohol a dysgwch am bandiau cryfder ABV a’u mathau o dreth (yn agor tudalen Saesneg).

Gael gwybodaeth fanwl am Doll Alcohol, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mawrth 2025 show all updates
  1. A link to submit Alcohol Duty returns has been added to the section 'Submit your return'. The section 'Get help with your return' has been renamed 'If you cannot submit your return online'.

  2. Information about submitting quarterly spirits returns using the Manage your Alcohol Duty online service has been updated.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon