Rhannu gwybodaeth y tu allan i’r llys mewn achosion teulu
Pryd y gallwch chi rannu gwybodaeth am eich achos, beth allwch chi ei rannu a beth i’w wneud os bydd rhywun arall yn rhannu gwybodaeth.
Trosolwg
Dylech ddarllen y canllaw hwn os ydych yn cymryd rhan mewn achosion teulu yn ymwneud â phlant. Mae’n esbonio:
- pam y ceir rheolau am rannu gwybodaeth am achos y tu allan i’r llys
- pryd y gallwch rannu gwybodaeth am eich achos
- sut y gallwch rannu gwybodaeth am eich achos yn ddiogel
Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth am achos pan na ddylent wneud hynny.
Nid yw’r canllaw hwn yn berthnasol i geisiadau am orchmynion rhieni (o dan Ddeddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008).
Pam y ceir cyfyngiadau am rannu gwybodaeth am achos y tu allan i’r llys
Weithiau, gelwir rhannu gwybodaeth am achos yn ‘datgelu gwybodaeth’ neu ‘cyfathrebu gwybodaeth’.
Mae’r gyfraith yn caniatáu i chi rannu gwybodaeth am eich achos ond dim ond mewn amgylchiadau penodol. Mae hyn er mwyn diogelu preifatrwydd pobl sy’n rhan o’ch achos chi, yn enwedig plant.
Os ydych chi’n rhannu gwybodaeth benodol am achos sy’n ymwneud â phlentyn mae’n bosibl y gallech chi gael eich dirwyo neu eich carcharu am ddirmygu’r llys. Neu efallai y byddwch yn cyflawni trosedd, os byddwch yn rhannu gwybodaeth benodol tra bod achos yn dal i fynd rhagddo.
Pryd y gallwch rannu gwybodaeth am eich achos
Gallwch rannu gwybodaeth am eich achos yn ddiogel:
- â’ch cynrychiolwyr cyfreithiol
- â phobl eraill sy’n bartïon yn yr achos a’u cynrychiolwyr cyfreithiol
- ag arbenigwr sydd wedi’i benodi gan y llys
- swyddogion Cafcass neu Cafcass Cymru sy’n ymwneud â’r achos
- swyddog adolygu annibynnol awdurdod lleol
- yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
Gallwch rannu gwybodaeth ag unrhyw berson arall lle mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i chi gael:
- cyngor cyfrinachol preifat i’ch cynorthwyo i gyflwyno’ch achos neu gael cymorth yn ystod achos
- gwasanaeth cyfryngu neu gymorth i ddatrys anghytundeb rhyngoch chi ac unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r achos
- cyngor neu gymorth gyda chwyn am yr achos neu rywun sy’n ymwneud â’r achos (fel tyst arbenigol sy’n ymwneud â’r achos)
Rhesymau eraill dros rannu gwybodaeth
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle caniateir i chi rannu gwybodaeth benodol am eich achos. Mae rheolau llys (Rheolau Trefniadaeth Teulu 2010 a chyfarwyddiadau ymarfer) sy’n nodi gyda phwy y gallwch rannu pa wybodaeth, ac at ba ddiben. Er enghraifft, gallwch rannu copi o’r dyfarniad yn eich achos gyda swyddog heddlu at ddibenion ymchwiliad troseddol. Neu gallwch rannu unrhyw wybodaeth o’r achos gyda pherson sy’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael gofal iechyd neu gwnsela ar eich cyfer chi neu’r plentyn.
Os ydych am rannu gwybodaeth am eich achos am reswm, neu gyda pherson, nad yw wedi’i gynnwys yn y canllaw hwn, rhaid i chi yn gyntaf ofyn i’ch cynrychiolydd cyfreithiol am gyngor.
Os ydych yn cynrychioli eich hun, yn gyntaf rhaid i chi ofyn i’r barnwr neu’r ynadon sy’n ymwneud â’r achos am gyngor a chaniatâd.
Hefyd, gallai’r barnwr neu’r ynadon sy’n delio â’ch achos wneud gorchymyn gan y llys yn nodi pa wybodaeth y gellir, neu na ellir, ei rhannu am eich achos.
Beth allwch chi ei rannu am achos
Gall yr hyn y gallwch ac na allwch ei rannu fod yn gymhleth. Er mwyn bod yn sicr o’r hyn y gallwch ei rannu, dylech yn gyntaf wirio hyn gyda’ch cynrychiolydd cyfreithiol.
Os nad oes gennych chi gynrychiolydd cyfreithiol, dylech wirio Rheolau Trefniadaeth Teulu 2010 ac unrhyw orchmynion a wnaed yn eich achos.
Os ydych chi’n parhau i fod yn ansicr, dylech ofyn i’r llys am eglurhad ac, os oes angen, am ganiatâd i rannu.
Fodd bynnag, mae yna rai pwyntiau pwysig y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Pan fydd rhannu gwybodaeth yn drosedd
Mae’n drosedd i rannu gwybodaeth gydag unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n adnabod neu’n debygol o adnabod:
- plentyn sy’n gysylltiedig ag achos dan Ddeddf Plant 1989 neu Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 *cyfeiriad neu ysgol plentyn o’r fath
Mae hyn yn berthnasol pan fydd achos llys ar y gweill. Dim ond os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn yn dweud y gallwch rannu’r wybodaeth hon y bydd yr uchod yn amherthnasol.
Os byddwch yn cyflawni’r drosedd hon, gellir eich dirwyo.
Pan all rhannu gwybodaeth fod yn dirmygu’r llys
Gall dirmygu’r llys ddigwydd pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth y mae’r barnwr yn penderfynu sy’n dwyn anfri ar y llys neu sy’n tarfu ar yr achos.
Efallai y bydd barnwr yn penderfynu bod y llys wedi’i ddirmygu os bydd gwybodaeth o achos llys sy’n ymwneud â phlentyn yn cael ei rhannu gyda phobl nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â’r achos llys, gan ddibynnu ar y math o wybodaeth a gyda phwy y’i rhennir.
Mae hyn yn berthnasol pan fydd achos ar y gweill ac ar ôl iddo ddod i ben.
Os byddwch yn cyflawni dirmyg llys, gellir eich dirwyo neu eich anfon i garchar.
Ni chaniateir i chi rannu unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud ag achos neu ddweud wrth bobl beth sydd ynddynt, oni bai bod y rheolau neu’r llys yn caniatáu hynny. Golyga hyn na allwch, fel arfer, rannu neu ddweud wrth bobl am:
- ddogfennau ar ffeil y llys
- datganiadau tyst
- disgrifiad o’r hyn a ddywedwyd neu a wnaed mewn gwrandawiadau llys
- y rhesymau a roddwyd gan y llys dros wneud ei benderfyniad (gelwir hyn yn ‘dyfarniad’ os cafodd y penderfyniad ei wneud gan farnwr neu’n ‘ffeithiau a rhesymau ysgrifenedig’ os mai ynadon wnaeth benderfynu’r achos)
- ni ddylid rhannu unrhyw wybodaeth y mae’r llys wedi’i gorchymyn
Ni fyddwch yn dirmygu’r llys os byddwch yn rhannu gwybodaeth:
- pan fo rheolau’r llys yn caniatáu i chi wneud hynny
- pan fydd llys wedi gwneud gorchymyn yn dweud y gellir ei rhannu
Oni bai bod y llys wedi gwneud gorchymyn yn dweud na chaniateir gwneud hynny yn eich achos chi, gallwch rannu:
-
y gorchymyn a wnaed gan y llys - mae’n rhaid i chi dal amddiffyn hunaniaeth y plentyn sy’n gysylltiedig â’r achos
- dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiadau yn y dyfodol
- gwybodaeth am natur yr anghydfod yn yr achos llys - ond nid gwybodaeth am beth sy’n digwydd mewn gwrandawiadau neu gynnwys dogfennau llys
Os nad ydych chi’n siŵr beth sydd yn ‘natur yr anghydfod’ a beth sydd ddim, dylech wirio hyn gyda’ch cynrychiolydd cyfreithiol neu’r llys.
Gallwch ddod o hyd i restr o wybodaeth arall y gallwch rannu, a gyda phwy y gallwch ei rhannu, yn y Rheolau Trefniadaeth Teulu.
Gall y barnwr wastad addasu’r rheolau hyn. Efallai y byddant yn dweud y gallwch rannu rhywbeth nad yw’r rheolau fel arfer yn ei ganiatáu, neu na allwch rannu rhywbeth y mae’r rheolau fel arfer yn caniatáu.
Fodd bynnag, gall rhannu unrhyw wybodaeth gydag unrhyw aelod o’r cyhoedd dal fod yn drosedd os yw’r achos dal ar y gweill ac y mae’r wybodaeth yn debygol o adnabod y plentyn sy’n rhan o’r achos.
Os yw dyfarniad yn eich achos chi wedi’i gyhoeddi, sydd ddim yn cynnwys gwybodaeth bersonol am y partïon, ni ddylech ddweud unrhyw beth a fyddai’n adnabod unrhyw un o aelodau’r teulu tra bo’r achos dal yn mynd rhagddo.
Beth mae ‘rhannu gwybodaeth am achos’ yn ei olygu
Mae rhannu gwybodaeth yn cynnwys siarad amdano neu ei ysgrifennu i lawr. Mae hyn yn cynnwys anfon dogfennau at rywun drwy’r post neu e-bost. Mae hefyd yn cynnwys rhannu gwybodaeth ar-lein, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.
Dim ond ar adegau penodol y mae’r rheolau’n caniatáu ichi rannu gwybodaeth a dim ond gyda rhai pobl yn dibynnu ar amgylchiadau a statws yr achos. Os ydych yn dal yn ansicr ar ôl darllen y canllaw hwn, dylech ofyn i’r llys – yn enwedig os ydych am ei rannu’n gyhoeddus, megis ar gyfryngau cymdeithasol.
Rhannu gwybodaeth yn ddiogel
Hyd yn oed os caniateir i chi rannu gwybodaeth am eich achos, rhaid i chi ei rannu mewn ffordd ddiogel yn unig. Y rheswm am hyn yw oherwydd y gallai’r wybodaeth gynnwys manylion sensitif neu bersonol amdanoch chi neu unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r achos, gan gynnwys plant.
Hefyd, os ydych yn rhannu gwybodaeth mewn modd nas caniateir gan y gyfraith, gallech fod yn dirmygu’r llys. Efallai eich bod wedi cyflawni trosedd a gallech wynebu cosbau difrifol.
Mae rhai canllawiau syml i’w dilyn wrth rannu gwybodaeth am eich achos a ble y caniateir i chi ei rannu:
Anfonwch yr wybodaeth at y person cywir
Os ydych yn anfon gwybodaeth drwy’r post neu drwy e-bost, gwnewch yn siŵr:
- y gellir adnabod y person rydych yn ei hanfon ato yn ôl ei enw
- eich bod yn nodi ‘preifat a chyfrinachol’ ar yr wybodaeth
- nad ydych yn anfon e-bost i gyfeiriad cyswllt cyffredinol sefydliad
Byddwch yn glir ac yn benodol
Gwnewch yn glir iddynt pam eu bod yn ei derbyn ac mai dim ond am y rheswm y maent yn ei derbyn y gallant ddefnyddio’r wybodaeth.
Gwnewch yn siŵr eu bod yn deall y canlynol:
- bod yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda nhw yn gyfrinachol
- a allant rannu’r wybodaeth gyda phobl eraill
- a oes angen eich caniatâd arnynt i wneud hynny
Dylech esbonio’r wybodaeth hon yn ysgrifenedig fel ei bod yn glir i’r ddau ohonoch.
Cadwch gofnod
Cadwch gofnod cywir o ba ddogfennau neu wybodaeth arall rydych wedi’u rhannu a gyda phwy rydych wedi rhannu’r rhain, gan gynnwys eu:
- henwau
- teitl eu swydd
- manylion cyswllt
Dylech hefyd wneud nodyn o’r rheswm pam y gwnaethoch benderfynu rhannu’r wybodaeth gyda nhw a’r hyn y gwnaethoch ei ddweud wrthynt am basio’r wybodaeth ymlaen.
Pwy all rannu gwybodaeth am achos
Gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r achos llys rannu gwybodaeth am eich achos yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y canllaw hwn. Mae hyn yn cynnwys:
- rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y plentyn sy’n rhan o’r achos
- yr awdurdod lleol mewn achosion gofal
- plentyn sy’n rhan o’r achos
- cynrychiolydd cyfreithiol unrhyw un o’r uchod.
Os oes angen caniatâd y barnwr neu’r ynad ar rywun i rannu gwybodaeth am yr achos, efallai y bydd y llys yn gofyn i chi am eich barn ar rannu’r wybodaeth.
Y cyfryngau
Gall y cyfryngau fynychu’r rhan fwyaf o achosion teulu mewn unrhyw lys. Ni allant fynychu rhai gwrandawiadau, er enghraifft y rhai sy’n ymwneud â mabwysiadu, gorchmynion lleoli, neu orchmynion rhianta.
Hyd yn oed pan all aelodau o’r cyfryngau fynychu gwrandawiad, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallant ei adrodd. Er enghraifft, efallai na fyddant bob amser yn gallu cyhoeddi manylion yr hyn a ddigwyddodd yn y llys a’r hyn a ddywedwyd yn y dystiolaeth – yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud â phlant. Efallai y bydd angen iddynt gadw manylion y bobl sy’n gysylltiedig â’r achos yn ddienw.
Am ragor o wybodaeth, gweler Presenoldeb y cyfryngau mewn gwrandawiadau llys teulu.
Pobl eraill yn rhannu gwybodaeth am yr achos
Os ydych wedi siarad â rhywun am eich achos at ddibenion cyfryngu neu ymchwilio i gŵyn, efallai y bydd angen iddynt basio’ch gwybodaeth ymlaen. Yr enw ar hyn yw ‘datgelu ymlaen’. Dim ond i’r un diben ag y cawsant yr wybodaeth y gallant ei rhannu - er enghraifft, ymchwilio i gŵyn.
Yn dibynnu ar y rheswm pam y rhannwyd yr wybodaeth, efallai y bydd angen i chi gytuno cyn y gall y person rannu gwybodaeth ymlaen. Cewch roi eich cytundeb ar lafar neu yn ysgrifenedig. Er hynny, mae’n well rhoi eich caniatâd yn ysgrifenedig fel na cheir camddealltwriaeth am yr hyn y cytunwyd arno. Os mai’ch rheswm am siarad â rhywun am eich achos oedd dim ond i gael cyngor neu gymorth, ni chaiff yr unigolyn hwnnw rannu unrhyw wybodaeth ag unrhyw un arall. Mae hyn oherwydd bod rhaid i’r wybodaeth hon aros yn gyfrinachol.
Gall pobl eraill sy’n ymwneud â’r achos hefyd rannu gwybodaeth am yr achos, os ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau a amlinellir yn y canllaw hwn. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth a ddarparwyd gennych yn yr achos. Nid oes angen eich caniatâd arnynt i wneud hynny. Mae modd i’r wybodaeth hon hefyd gael ei phasio ymlaen heb eich caniatâd.
Pryd i gael caniatâd gan y barnwr neu’r llys
Gall y barnwr yn eich achos wneud gorchymyn llys sy’n nodi’n glir pa wybodaeth am eich achos y gellir ei rhannu a gyda phwy y gellir ei rhannu. Os bu’n rhaid i chi gael caniatâd gan y barnwr i rannu gwybodaeth am eich achos, bydd angen i chi hefyd ofyn i’r barnwr a all eraill ei rannu a sut y gallant wneud hynny.
Os ydych chi, neu unigolyn arall, eisiau cyhoeddi gwybodaeth am achosion sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd i’r cyhoedd, bydd angen i chi geisio caniatâd y barnwr. Byddai hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Ar ôl yr achos, gallwch gyhoeddi gwybodaeth o dan yr amgylchiadau a nodir yn y canllaw hwn, oni bai bod y barnwr wedi gorchymyn na allwch wneud hynny.
Gall y llys gyfyngu neu awdurdodi pa wybodaeth y gellid ei phasio ymlaen mewn unrhyw achos. Os oes gennych bryderon am wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen i rywun arall, dylech ofyn i’r llys ystyried cyfyngu ar wybodaeth y gellid ei phasio ymlaen.
Os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth am achos heb ganiatâd y llys
Os bydd rhywun wedi rhannu gwybodaeth am achos pan na ddylent wneud hynny, dylech ddweud wrth y llys ar unwaith. Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sydd gennych am:
- yr hyn a ddywedodd y person
- gyda phwy y gwnaethant siarad
- yr hyn a wyddant am yr achos
- pa wybodaeth neu ddogfennau maent wedi’u rhannu
Os yw’r person yn rhywun yr ydych wedi rhannu gwybodaeth â nhw, dylech hefyd ddweud wrth y llys am:
- unrhyw gyfathrebu rydych wedi’i gael â nhw
- y rhesymau y gwnaethoch drafod eich achos â nhw
- a roesoch eich caniatâd i basio’r wybodaeth ymlaen.
Os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth am achos pan na ddylent wneud, efallai ei fod yn dirmygu’r llys neu efallai ei fod wedi cyflawni trosedd. Os ydych yn gwybod bod hyn wedi digwydd, dylech ddweud wrth y llys cyn gynted â phosibl i ddiogelu’r bobl sy’n ymwneud â’r achos, yn enwedig unrhyw blant.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch fwy am y Rheolau Trefniadaeth Teulu.
Dylech gyfeirio at:
- cyfarwyddyd ymarfer 12G
- cyfarwyddyd ymarfer 12R
- cyfarwyddyd ymarfer 14E
- cyfarwyddyd ymarfer 14G
- rheol trefniadaeth 12.73
- rheol trefniadaeth 12.73A
- rheol trefniadaeth 12.75
- rheolau trefniadaeth 14.14 ac 14.14A
Pobl ag anabledd
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn cynnig cymorth a gall wneud addasiadau rhesymol i bobl ag anableddau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau tribiwnlysoedd a llysoedd heb unrhyw rwystrau. Dylech gysylltu â’r llys sy’n delio â’r achos os:
- oes gennych anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd mynd i’r llys neu gyfathrebu
- rydych eisiau unrhyw wybodaeth mewn fformat arall – er enghraifft, print bras
Updates to this page
-
Updated the Welsh translations of the 'What you can share about a case' and 'More information' sections
-
Changes to the what you can share about a case and more information sections
-
Added a Welsh version of the page
-
First published.