Sut i godi pryder
Ynglŷn ag atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sut i godi pryder
Y ffordd gyflymaf i ni ymateb i’ch pryder yw os byddwch yn llenwi ein ffurflen codi pryderon. Llenwch y ffurflen gyda chymaint o wybodaeth ag sydd gennych, ac yna e-bostiwch y ffurflen atom yn
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk
Dylech gynnwys y canlynol:
- manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
- y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
- beth rydych chi’n ei wybod am [alluedd meddyliol] y person (https://www.gov.uk/make-decisions-for-someone/assessing-mental-capacity), gan gynnwys copïau o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau’r rheini sy’n dal yr adroddiadau hyn
- eich manylion cyswllt
Yna bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried a oes ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.
Hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, bydd dal yn bosib i chi roi gwybod inni am bryder sydd gennych.
Fel arall, gallwch anfon e-bost atom, ysgrifennu atom neu ein ffonio.
Anfonwch neges e-bost at Uned Ddiogelu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk
Ffôn: 0115 934 2777
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm
Sylwer, oherwydd diffyg staff sy’n siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau â’ch galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a’i anfon i opgcasework@publicguardian.gov.uk Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ffyrdd eraill o godi pryder
Gallwch hefyd gysylltu â’r canlynol:
- Jobcentre Plus for concerns about benefits
- your local adult social services for concerns about care or safeguarding
- the Care Quality Commission or the Care Inspectorate Wales if you’re concerned about someone who’s living in a care home
Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu eich heddlu lleol os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd.