Canllawiau

Dewisiadau dewislen ffôn Cofrestrfa Tir EF

Defnyddiwch y dewisiadau hyn i'ch helpu i lywio'n dewislen ffôn

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Cymorth ar gyfer defnyddio’n gwasanaethau ar-lein

Y porthol ac e-wasanaethau busnes

Os ydych yn gwsmer busnes ac mae angen cymorth gyda’r porthol neu e-wasanaethau busnes arnoch:

  • ffoniwch 0300 006 0411

  • dewiswch 1 ar gyfer gwasanaethau ar-lein

  • dewiswch 1 ar gyfer y porthol ac e-wasanaethau busnes

  • dewiswch 1 ar gyfer cynnal a chadw eich cyfrif, problemau defnyddiwr na all eich gweinyddwr eu datrys, neu ymholiadau’n ymwneud a thalu

  • dewiswch 2 ar gyfer gwybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaethau

  • dewiswch 3 ar gyfer anawsterau wrth gyflwyno cais ar-lein

Gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu forgeisi digidol

Os ydych yn defnyddio gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu Sign your mortgage deed:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Mae angen cyfeiriad ebost arnoch i gael cyfrif.

Os oes cwestiwn gennych am archeb, bydd yn rhaid ichi ddarparu:

  • cyfeiriad neu rif teitl yr eiddo

  • cyfeirnod 10 neu 11 digid World Pay

Ceisiadau

I wybod beth sy’n digwydd gyda chais (gan gynnwys ceisiadau ar gyfer chwiliadau, chwiliadau o’r map mynegai neu gopïau swyddogol):

  • ffoniwch 0300 006 0422

Dim ond gyda’r sawl a anfonodd y cais atom y gallwn drafod manylion cais.

Gweler y diweddariad diwethaf i’n gwasanaethau.

I drafod unrhyw beth arall yn ymwneud â chais:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Sylwer: ni fyddwn yn cyflymu chwiliad swyddogol oni bai bod y safon gwasanaeth ar gyfer y cais wedi mynd heibio. Dylech wneud cais o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn cwblhau er mwyn cael y dystysgrif chwiliad swyddogol mewn pryd.

Cael gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF

Perchnogaeth tir ac eiddo

Nid ydym yn cadw gweithredoedd gwreiddiol. Gallwch gael copi o gofrestri, cynlluniau a dogfennau am ffi fach.

I gael gwybodaeth am sut i gael gweithredoedd, dogfennau neu wybodaeth arall am berchnogaeth tir ac eiddo:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Manylion cysylltu

Dim ond arweiniad ar sut i newid enw neu gyfeiriad ar y gofrestr y gallwn ei roi.

I gael gwybodaeth am gadw enwau a manylion cyswllt yn gyfredol:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Terfynau

Nid ydym yn cadw gwybodaeth am berchnogaeth terfynau fel rheol. Os oes gwybodaeth gennym, ni allwn:

  • ddweud wrthych pwy sy’n berchen ar derfyn neu’n gyfrifol am derfyn dros y ffôn

  • datrys neu gynnig cyngor cyfreithiol ynghylch anghydfodau

I gael gwybodaeth am berthi, waliau, coed a ffensys:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Cymorth pan fydd rhywun yn marw

I gael gwybodaeth am yr hyn i’w wneud pan fydd rhywun yn marw:

  • ffoniwch 0300 006 0422

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Hydref 2024 show all updates
  1. Page updated to reflect the changes to our phone messaging, providing shorter and clearer menu options to callers.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon