Cofrestrfa Tir EF: Gwasanaethau lliniaru risg ar gyfer rhoddwyr benthyg morgais
Gwasanaethau ar gyfer rhoddwyr benthyg a thrydydd partïon sy’n gweithio ar eu rhan sy’n lleihau’r risg o forgeisi ac sy’n cefnogi diwydrwydd dyladwy.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Fel ffynhonnell ddiffiniol o fwy na 26 miliwn o deitlau eiddo ar gyfer Cymru a Lloegr, mae Cofrestrfa Tir EF yn diogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth mwy na £7 triliwn, gan gynnwys mwy na £1 triliwn o forgeisi.
Gwasanaeth dilysu arwystl
Gallwn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich portffolio morgais, trwy gadarnhau blaenoriaeth a statws eich morgeisi yn y gofrestr.
Os ydych yn ystyried prynu llyfr cefn cwmni arall, neu wedi prynu un, gallwn eich helpu i gynnal eich diwydrwydd dyladwy.
Darllenwch ragor am ein Gwasanaeth dilysu arwystl
Gwasanaeth cysoni data
Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatáu ichi gysoni’ch systemau â’n un ni, felly:
- cewch hysbysiadau awtomatig pan fydd eich morgeisi yn cael eu cofrestru neu eu rhyddhau
- rydych yn gwybod yn syth pan fydd newidiadau yn digwydd o fewn eich portffolio morgais, gan eich helpu i ganfod risg yn gynnar
Ceir opsiynau ychwanegol i:
- ryddhau eich morgeisi yn electronig, er mwyn arbed amser gweinyddol a chost ichi
- cadarnhau blaenoriaeth eich morgeisi, i’ch helpu i fodloni meini prawf rhoi benthyg
Darllenwch ragor am ein gwasanaeth cysoni data
Gwasanaethau eraill i roddwyr benthyg
Os ydych yn gwsmer e-wasanaethau Busnes, gallwch ryddhau eich morgeisi ar-lein trwy’r porthol.
Rhagor o wybodaeth
I drafod eich anghenion busnes presennol neu ar gyfer y dyfodol, cysylltwch â ni:
Data Services Team
HM Land Registry
Rosebrae Court
Woodside Ferry Approach
Birkenhead
Merseyside
CH41 6DU
Ebost data.services@mail.landregistry.gov.uk
Ffurflen gysylltu https://customerhelp.l…
Ffôn 0300 006 0478