Canllawiau

Grwpiau sy’n ymgysylltu ȃ Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF

Grwpiau defnyddwyr proffesiynol a chyhoeddus sy’n gweithio gyda ni i wella a diweddaru ein gwasanaethau yn barhaus.

Rydym yn parhau i foderneiddio gwasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i’w gwneud yn symlach, yn fwy hygyrch ac yn fwy effeithlon i bawb.

Rydym yn ymwneud â nifer o fforymau ymgysylltu i sicrhau ein bod yn ymgynghori ȃ grwpiau defnyddwyr proffesiynol a chyhoeddus ar gynigion, datblygiadau a gwasanaethau o fewn GLlTEF, i ddeall eu hanghenion yn well.  

Grwpiau Ymgysylltu Cyfiawnder Troseddol

Mae Grwpiau Ymgysylltu Cyfiawnder Troseddol yn dod â’r heddlu ac asiantaethau carchardai a phrawf ynghyd fel y gallwn gydlynu ein cynlluniau ar gyfer gwella.

Mae GLlTEF a chynrychiolwyr o’r proffesiwn cyfreithiol hefyd yn cyfrannu at Grŵp Gwella Llys y Goron sydd dan arweiniad barnwyr, sy’n cael ei gadeirio gan yr Uwch Farnwr Llywyddol, i wella perfformiad Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr. Mae cynrychiolwyr o ar draws y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, a’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn cyfarfod yn fisol ac yn adrodd yn uniongyrchol i’r Arglwydd Brif Ustus.

Mae’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn dod â sefydliadau cyfiawnder troseddol o ar draws Cymru a Lloegr ynghyd, ac maent yn aml yn cael eu cadeirio gan gomisiynwyr heddlu a throseddu lleol neu brif gwnstabliaid. Mae GLlTEF yn cael ei gynrychioli yn y cyfarfodydd hyn drwy Benaethiaid Gweithrediadau (Trosedd) Rhanbarthol sy’n cyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau plismona sy’n ymwneud â’r llysoedd troseddol o fewn ardal pob heddlu.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Grwpiau Gweithredu Lleol (LITs) y Platfform Cyffredin Mae amlder y cyfarfodydd yn amrywio Ymgysylltu â llysoedd lleol, y farnwriaeth, asiantaethau partner, yr heddlu a rhanddeiliaid (gan gynnwys cyfreithwyr yr amddiffyniad) sy’n defnyddio’r Platfform Cyffredin yn yr ardal leol. Mae cynrychiolwyr LIT yn rhannu newyddion gyda’u cydweithwyr yn yr ardal ac maent yn rhannu adborth gyda GLlTEF. Yr Heddlu, Y Gwasanaeth Carchardai, Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, PECs, Y Swyddfa Farnwrol, Arweinydd Digidol yr Ynadon, Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, Y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth yr Amddiffynnydd Cyhoeddus, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSC), Arweinydd Cyfathrebiadau Trosedd, Tîm Rhaglen y Platfform Cyffredin

Grwpiau Ymgysylltu Gweithwyr Proffesiynol ym Maes y Gyfraith

Rydym yn ymwneud yn gyson ȃ chyrff proffesiynol cyfreithiol fel Cyngor y Bar, Cymdeithas y Gyfraith, a Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ar lefel Prif Weithredwyr ac ar lefel bolisi. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cyrff hyn i sicrhau bod safbwyntiau ymarferwyr yn cael eu hystyried.

Mae pob awdurdodaeth hefyd yn cynnal fforymau ad-hoc ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i gyflwyno gwybodaeth am weithgareddau ymgysylltu ar faterion penodol a phrosiectau, yn seiliedig ar amserlenni prosiectau awdurdodaethol a meysydd sydd o ddiddordeb allweddol i’r proffesiwn.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Cyfarfod Gweithwyr Proffesiynol ym Maes y Gyfraith Cadeirydd: Cyfarwyddwr Datblygu, GLlTEF Amlder y cyfarfodydd: misol Diweddaru ac ymgysylltu â’r aelodau ar faterion perfformiad gweithredol ar draws pob awdurdodaeth, gyda mewnbwn gan y proffesiwn cyfreithiol i hysbysu a herio’r penderfyniadau a wneir. GLlTEF, Cyngor y Bar, Cymdeithas y Gyfraith, Support Through Court a chwmnïau bargyfreithwyr.
Grŵp Ymgysylltu Strategol Cadeirydd: Pennaeth Perthnasau Corfforaethol. GLlTEF Amlder y cyfarfodydd: chwarterol. Rhoi trosolwg strategol o weithgareddau ymgysylltu yn ogystal ȃ chynllunio gweithgareddau ar draws pob awdurdodaeth. Grŵp llywio yw hwn sy’n cynnwys arweinyddion gweithredol a strategol GLlTEF ac arweinyddion polisi o sefydliadau allweddol sy’n darparu cynrychiolaeth gyfreithiol. GLlTEF, Cyngor y Bar, Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Gyfraith.

Grwpiau Ymgysylltu - Defnyddwyr Cyhoeddus

Mae Grŵp Strategol Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn goruchwylio pedwar grŵp ymgysylltu â defnyddwyr cyhoeddus ar gyfer yr awdurdodaeth sifil, teulu, y tribiwnlysoedd a throsedd. Mae bob un o’r grwpiau yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn.

Pwrpas y grwpiau hyn yw cael cipolwg ar brofiadau defnyddwyr ac adborth ar wasanaethau. Mae aelodau’r grŵp strategol yn uwch gynrychiolwyr traws-awdurdodaethol o’r trydydd sector, ac mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Bennaeth Cynhwysiant Defnyddwyr a Mr Ustus Robin Knowles.

Mae’r grwpiau awdurdodaethol yn cael eu cadeirio gan benaethiaid gwasanaeth GLlTEF a Phennaeth Cynhwysiant Defnyddwyr. Maent yn cynnwys ymarferwyr sy’n cefnogi defnyddwyr yn rheolaidd ac maent yn arbenigwyr o fewn yr awdurdodaethau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag unrhyw un o’r grwpiau, os hoffech gael rhagor o wybodaeth amdanynt neu os hoffech weld y rhestr o rhanddeiliaid, cysylltwch â ni yn publicengagement@justice.gov.uk.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Grŵp Strategol Ymgysylltu â’r Cyhoedd Cadeirydd(ion): Mr Ustus Robin Knowles CBE GLlTEF, Pennaeth Cynhwysiant Defnyddwyr Amlder y cyfarfodydd: Tair gwaith y flwyddyn gyda chyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Rhoi perspectif strategol, adborth a chipolwg ar faterion traws-awdurdodaethol ar gyfer defnyddwyr y system gyfiawnder. Uwch arweinwyr o sefydliadau cyngor a chymorth allanol gan gynnwys, Advice UK, Autism Alliance, Cyngor ar Bopeth, JUSTICE, Law Centres Network, LawWorks, Revolving Doors, Shelter, Support Through Court, , Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol Cymru, Young Legal Aid Lawyers, Rethink.
Grŵp Ymgysylltu â’r Cyhoedd yr Awdurdodaeth Sifil Cadeirydd(ion): Penaethiaid gwasanaeth awdurdodaethol a Phennaeth Cynhwysiant Defnyddwyr Amlder y cyfarfodydd: Tair gwaith y flwyddyn, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Darparu cipolwg awdurdodaethol i brofiad defnyddwyr o ddarpariaeth gwasanaethau ac adborth ar newidiadau a mentrau yn yr awdurdodaeth sifil. Aelodau ar lefel ymarferydd o’r sector cyngor a chymorth allanol, gan gynnwys; Advice UK, Cyngor ar Bopeth, Community Law Services, federasiwn Busnesau Bach, The Intermediary Cooperative, Justice, Support Through Court
Grŵp Ymgysylltu â’r Cyhoedd yr Awdurdodaeth Teulu Cadeirydd(ion): Penaethiaid gwasanaeth awdurdodaethol a Phennaeth Cynhwysiant Defnyddwyr Amlder y cyfarfodydd: Tair gwaith y flwyddyn, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Darparu cipolwg awdurdodaethol i brofiad defnyddwyr o ddarpariaeth gwasanaethau ac adborth ar newidiadau a mentrau yn yr awdurdodaeth teulu. Aelodau ar lefel ymarferydd o’r sector cyngor a chymorth allanol, gan gynnwys; Community Law Services, Volunteer Support & Advice Services, y Family Mediation Council, The Intermediary Cooperative, Mayor’s Office for Policing and Crime, Support Through Court.
Grŵp Ymgysylltu â’r Cyhoedd yr Awdurdodaeth Troseddol Cadeirydd(ion): Penaethiaid gwasanaeth awdurdodaethol a Phennaeth Cynhwysiant Defnyddwyr Amlder y cyfarfodydd: Tair gwaith y flwyddyn, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Darparu cipolwg awdurdodaethol i brofiad defnyddwyr o ddarpariaeth gwasanaethau ac adborth ar newidiadau a mentrau yn yr awdurdodaeth troseddol. Aelodau ar lefel ymarferydd o’r sector cyngor a chymorth allanol, gan gynnwys; Community Law Services, Volunteer Support & Advice Services, Cyngor ar Bopeth, The Intermediary Cooperative, Mayor’s Office for Policing and Crime, Cymorth i Ddioddefwyr, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

Gweithgor Cyfryngau GLlTEF

Mae’r grŵp yn dod â newyddiadurwyr a chynrychiolwyr y cyfryngau at ei gilydd â chynrychiolwyr polisi a materion gweithredol GLlTEF i drafod materion sy’n ymwneud â mynediad y cyfryngau at ein safleoedd a gwrandawiadau.

Fforwm Cylch Gorchwyl Aelodaeth
Gweithgor y Cyfryngau Cyd-gadeiryddion: Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau a Chyfarwyddwr Rhagoriaeth Gwasanaethau, GLlTEF Amlder cyfarfodydd: Dwywaith y flwyddyn neu fel sy’n ofynnol gan y grŵp Cefnogi ymgysylltiad parhaus rhwng cynrychiolwyr y cyfryngau a’r rhai sydd â chyfrifoldebau am faterion polisi a gweithredol o ran mynediad y cyfryngau at wasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn ogystal â gwrandawiadau a gwybodaeth GLlTEF, Y Swyddfa Farnwrol, BBC, Crime Reporters Association, ITN, JPI Media, Media Lawyers Association, National Union of Journalists, News Media Association, Newsquest Media Group, Press Association, Reach Plc, Society of Editors, a newyddiadurwyr a gohebwyr yn y llys sy’n ymarfer.

Am wybodaeth bellach am unrhyw un o’r grwpiau hyn cysylltwch ȃ: HMCTS.Communications@justice.gov.uk

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mawrth 2025 show all updates
  1. Criminal Justice Engagement Groups updated to reflect end of reform

  2. Added translation

  3. Updated link

  4. Updated page

  5. Updated Public Engagement Groups section

  6. Updated information about public user engagement groups.

  7. Updated information about our engagement groups.

  8. Updated contact email address

  9. Added translation

  10. Added translation

  11. Crown Court working group removed as it has now been dissolved.

  12. Information on Media Working Group updated.

  13. COVID-19 engagement groups updated.

  14. New stakeholder group: Engagement during COVID-19.

  15. Added translation

  16. Media working group added.

  17. First published.

Argraffu'r dudalen hon