Help gyda chyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Cael gwybodaeth ynghylch sut i lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Fel cyflogai, mae’n bosibl:
-
y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar fuddiannau’r cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
-
y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer treuliau gwaith
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau gwahanol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gall y taflenni cymorth canlynol eich helpu i lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth. Er enghraifft, rhoi gwybod i CThEF am y treuliau a dalwyd gan eich cyflogwr a chyfrifo’r ffigurau y gallai fod angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.
Treuliau a buddiannau a dalwyd gan eich cyflogwr
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
talu treth ar eich llety byw (HS202) (yn agor tudalen Saesneg)
-
taliadau neu fuddiannau nad ydynt yn drethadwy i gyflogeion (HS207) (yn agor tudalen Saesneg)
-
buddiannau a throsglwyddiadau o asedau (HS213) (yn agor tudalen Saesneg)
Hawlio am lwfansau cyfalaf
Dysgwch ragor o wybodaeth am lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (HS252) (yn agor tudalen Saesneg) fel:
-
lwfansau offer a pheiriannau
-
gwaredu cyfarpar
-
ceir
-
cyfnodau cyfrifyddu sy’n wahanol i’r flwyddyn dreth
Didyniad Enillion Morwr
Dysgwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Didyniad Enillion Morwr (HS205) (yn agor tudalen Saesneg). (Mae’n cwmpasu gwaith ar longau, ond nid gosodiadau alltraeth eraill.).
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU
Defnyddiwch Materion ynghylch cyflogaeth, preswylio a domisil (HS211) (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r symiau a gawsoch o bob cyflogaeth nad ydynt yn atebol am Dreth Incwm y DU.
Cydraddoldeb treth
Bwriad cydraddoldeb treth (HS212) (yn agor tudalen Saesneg) yw cynorthwyo ymgynghorwyr proffesiynol a chyflogwyr sy’n paratoi Ffurflenni Treth ar gyfer unigolion sy’n cael eu cyfatal â threth. Mae’n darparu:
-
disgrifiad byr o gydraddoldeb treth
-
cyfarwyddiadau diwygiedig i helpu i lenwi’r adran Cyflogaeth o’ch Ffurflen Dreth
Fideos YouTube CThEF
Gwyliwch weminar wedi’i recordio am lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth.
Adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
cadw cofnodion
-
sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth
-
rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth
-
ad-daliadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig
-
slipiau cyflog
Ffurflen Dreth bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio tudalen atodol SA102 er mwyn cofnodi incwm o gyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth SA100.