Canllawiau

Cael help gydag Enillion Cyfalaf ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘Enillion Cyfalaf’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw a wnewch pan fyddwch yn gwerthu rhywbeth sydd wedi cynyddu mewn gwerth.

Cyn i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth, gallwch wirio yr hyn yr ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf arno a gwirio a oes angen i chi dalu.

Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Cewch wybodaeth o’r taflenni cymorth a fydd yn eich helpu i lenwi adrannau penodol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys sut i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad penodol a sut i gyfrifo ffigurau efallai y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Defnyddiwch y taflenni cymorth ynghylch Enillion Cyfalaf i’ch helpu chi i lenwi adran ‘Enillion Cyfalaf’ eich Ffurflen Dreth:

Rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Treth Enillion Cyfalaf ar gyfranddaliadau, buddsoddiadau a dyledion

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Treth Enillion Cyfalaf ar dir, eiddo a meddiannau personol

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ymddiriedolaethau

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Taflenni cymorth eraill ynghylch Enillion Cyfalaf

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Fideos YouTube CThEF

Gwarediadau eiddo

Gwyliwch fideo ynghylch sut i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu ar warediadau eiddo.

Sut ydw i’n rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu ar warediadau eiddo? (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • ar gyfer pwy y mae Enillion Cyfalaf ar warediadau eiddo yn berthnasol

  • yr hyn i’w wneud os nad ydych yn breswyl yn y DU

  • sut i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu ar warediadau eiddo

Gwariant caniataol

Gwyliwch fideo ynghylch y gwariant caniataol y gallwch ei hawlio.

Y gwariant caniataol y gallaf ei hawlio yn erbyn Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • gwariant caniataol

  • costau na chaniateir

  • rheolau arbennig ar gyfer defnyddio’r gwerth marchnadol fel y gost

Cryptoasedion

Gwyliwch fideo ynghylch sut y mae trafodion crypto yn cael eu trethu ar gyfer unigolion.

Cryptoasedion a thalu treth (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • categorïau o gryptoasedion

  • mathau o warediadau

  • cael crypto

  • rhoi gwybod am enillion neu incwm o gryptoasedion

Cofrestru ar gyfer gweminarau

Mae gweminarau yn rhoi rhagor o wybodaeth am adrannau o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar fyw nesaf ynghylch enillion cyfalaf.

Ffurflen Dreth ar bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio tudalennau atodol SA108 er mwyn cofnodi colledion ac enillion cyfalaf ar eich Ffurflen Dreth SA100.

Rhagor o wybodaeth am Enillion Cyfalaf

Dysgwch sut i roi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu.

Os gwnaethoch werthu cryptoasedion (gan gynnwys crypto-arian neu bitcoin), neu eu rhoi i ffwrdd, gallwch wirio a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Ebrill 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon