Canllawiau

Canllawiau a chymorth i weithwyr proffesiynol ym maes eiddo

Canllawiau, cymorth a manylion cysylltu i weithwyr proffesiynol ym maes eiddo

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

E-wasanaethau busnes

Y porthol

Gallwch gyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio’r porthol os oes cyfrif gennych.

Os cyflwynwyd eich cais trwy’r porthol, defnyddiwch y gwasanaeth View Applications i wneud y canlynol:

  • gweld datblygiad eich cais

  • gweld dyddiad cwblhau amcangyfrifedig cais

  • ateb ymholiadau (hyd yn oed os postiwyd eich cais atom)

  • gofyn am estyniad amser i ddelio ag ymholiad

Darllenwch ein canllawiau am y gwasanaeth ‘View Applications’.

Gall defnyddwyr y porthol ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Application Enquiry’ i wneud y canlynol hefyd:

  • gofyn i gyflymu cais os oes angen rhoi cais ar lwybr carlam

  • gweld unrhyw geisiadau sy’n aros i’w prosesu blaenorol sy’n effeithio ar gais  

  • gweld unrhyw ryddhadau

Darllenwch am sut i wneud ymholiad am gais yn y porthol.

Peidiwch â defnyddio’r swyddogaeth ‘Reply to requisition’ i anfon cais i gyflymu.

Os nad oes cyfrif porthol gennych, anfonwch eich ateb i’n hymholiadau i’n cyfeiriad safonol.

Arweiniad a hyfforddiant

Mae llu o dudalennau canllaw, fideos, rhestrau gwirio, siartiau llif ac awgrymiadau, ynghyd â’n holl gyfarwyddiadau ymarfer ar gael i gwsmeriaid proffesiynol trwy ein hyb hyfforddi – i’ch helpu i gyflwyno ceisiadau clir, cyflawn a chywir.

Gwasanaethau cymorth arbenigol

Gweler ein cymorth ac arweiniad arbenigol wrth gyflwyno ceisiadau ar raddfa fawr a chymhleth (mae meini prawf yn gymwys).

Fforwm cymorth ar-lein

Defnyddiwch ein fforwm cymorth ar-lein i ofyn cwestiynau neu i ddod o hyd i atebion i ymholiadau cyffredinol.

Ffurflen gysylltu

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani ar-lein, defnyddiwch y ffurflen gysylltu yn y lle cyntaf i’n galluogi i gyfeirio’ch ymholiad yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Mae ein tîm yn trin pob neges yn sensitif, ond sylwer na allwn dderbyn negeseuon wedi eu marcio’n breifat neu’n gyfrinachol.

Lle bo modd, rydym yn ateb ymholiadau brys a gyflwynir trwy’r ffurflen gysylltu ar yr un diwrnod.

Ffôn

Er mwyn cynnal gwasanaeth cwsmeriaid a safonau ansawdd, mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau. 

Ein horiau agor ar hyn o bryd yw dydd Llun i ddydd Iau (ac eithrio Gwyliau Banc), 8am i 5pm. 8am i 9am yw adeg dawelaf ein gwasanaeth ffôn fel rheol. Ar ddyddiau Gwener, nid yw ein gwasanaeth ar gael dros dro fel rhan o’n nod i brosesu rhagor o waith cais. Gallwch gysylltu â ni o hyd trwy ein ffurflen gysylltu ar-lein neu fforwm cymorth, gan y byddwn yn eu monitro’n ofalus am unrhyw ymholiadau brys.

Darllenwch am sut rydym yn cyflenwi’n gwasanaethau a pha mor hir a gymerir i brosesu ceisiadau.

Darllenwch am gostau galwadau.

Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid

Os oes angen ichi siarad â gweithiwr cais hyfforddedig, gall ein cydweithwyr cymorth i gwsmeriaid* helpu. Ffoniwch:

0300 006 0422 am wasanaeth Cymraeg
0300 006 0411 am wasanaeth Saesneg

Byddwch yn clywed rhestr o opsiynau pan fyddwch yn ein ffonio. Dewiswch yr opsiwn priodol i siarad â rhywun i’ch helpu gyda’ch ymholiad.

*Mae timau cymorth i gwsmeriaid wedi eu hyfforddi yng ngweithdrefnau gwaith cais Cofrestrfa Tir EF. Maent yn cyfeirio ymholiadau at ein perchnogion cais dim ond pan fo angen.

Methdaliad

I gael gwybodaeth am lythyrau ymholiad methdaliad a beth i’w wneud os byddwch yn derbyn un galwad:

  • 0300 006 0422

Gwasanaethau Data

Gweler y gwasanaethau masnachol a gynigir gan Gofrestrfa Tir EF neu ffoniwch:

  • 0300 006 0422

Pridiannau tir

I gael gwybodaeth am bridiannau tir ffoniwch:

  • 0300 006 0422

Pridiannau Tir Lleol

Mae’r cyfrifoldeb am gofrestrau Pridiannau Tir Lleol yn cael ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EM. Gweler y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol.

I gael gwybodaeth am Bridiannau Tir Lleol ffoniwch:

  • 0300 006 0422

Diogelu eich eiddo rhag twyll

I helpu i amddiffyn eich eiddo rhag twyll, defnyddiwch ein gwasanaeth Property Alert neu ffoniwch:

  • 0300 006 0422

Rhoi gwybod am dwyll

Rhowch wybod i Gofrestrfa Tir EF am dwyll cofrestru eiddo.

Post

Anfonwch eich ceisiadau a’ch gohebiaeth trwy’r post i’n cyfeiriad safonol. Os ydych yn gwsmer y porthol neu Business Gateway, gallwch anfon y rhain yn electronig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Awst 2024

Argraffu'r dudalen hon