Canllawiau

Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith: hysbysiad preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn egluro pa ddata personol sy'n cael ei gasglu drwy wasanaeth cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith a sut mae’r data personol hwnnw’n cael ei ddefnyddio.

Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (EPR) yn rhan o raglen ehangach Diwygiadau Casglu a Phecynwaith (CPR) a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr penodol pecynwaith gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ei waredu a’i ailgylchu. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio pa ddata personol sy’n cael ei gasglu drwy’r gwasanaethau (gan gynnwys ‘data adroddiadau pecynwaith’) a ddarperir o dan yr EPR dros becynwaith a sut mae’r data personol hwnnw’n cael ei ddefnyddio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd yma, anfonwch neges ebost at:

pEPRdataandserviceownerteam@Defra.gov.uk

Pwy sy’n casglu’ch data personol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw rheolwr y data personol rydyn ni’n ei gasglu:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth am sut mae Defra yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau perthynol, gallwch gysylltu â rheolwr diogelu data Defra yn y cyfeiriad post uchod neu drwy’r ebost:

data.protection@Defra.gov.uk

Mae swyddog diogelu data Defra yn gyfrifol am wirio bod Defra yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Gallwch gysylltu â rheolwr diogelu data Defra yn y cyfeiriad post uchod neu drwy’r ebost:

DefraGroupDataProtectionOfficer@Defra.gov.uk

Mae Defra hefyd yn gweithredu fel ‘prosesydd data’ ar gyfer y data personol sy’n cael ei gasglu drwy rai gwasanaethau. Yn rhinwedd ein swydd fel prosesydd data, rydyn ni’n casglu ac yn rhannu data ar ran y pedwar corff rheoleiddio amgylcheddol a ganlyn:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd (EA)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA)
  • Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)

Pa ddata personol mae Defra yn ei gasglu

Gan ddibynnu ar y gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio, mae Defra yn casglu:

  • eich enw
  • eich manylion cysylltu
  • enw’ch sefydliad
  • eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP), a manylion pa fersiwn o borwr gwe a ddefnyddiwyd gennych
  • gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio’r wefan, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau
  • cwestiynau, ymholiadau neu sylwadau rydych chi’n eu gadael

Sut bydd y data yma yn cael ei ddefnyddio

Rydyn ni’n casglu’r data hwn at y dibenion a ganlyn:

Sut bydd rheoleiddwyr amgylcheddol yn defnyddio’ch data

Bydd y rheoleiddwyr amgylcheddol yn defnyddio’ch data i ymgymryd â’u rôl fonitro statudol ar gyfer yr EPR dros becynwaith. Mae hyn yn cynnwys:

  • cymeradwyo neu wrthod cais i fod yn ‘berson a gymeradwywyd’ neu’n rhywun ag ‘awdurdod dirprwyedig’
  • Olrhain pwy sydd wedi cyflwyno data am y sefydliad a data pecynwaith.
  • Cyfrifo rhwymedigaethau ailgylchu

Sut bydd gweinyddwr y cynllun yn defnyddio’ch data

Bydd gweinyddwr y cynllun yn defnyddio’r data:

  • i gyfrifo ffioedd lle bo hynny’n gymwys, er enghraifft cyfrifo rhwymedigaethau’r cynhyrchwyr i dalu costau gwaredu
  • i anfon anfonebau a rheoli taliadau sy’n dod i mewn ac sy’n mynd allan
  • i gyfrifo’r grantiau sy’n daladwy i’r awdurdodau lleol
  • i rannu data gyda sefydliad trydydd parti sydd wedi’i gontractio i reoli’r broses o  anfonebu sefydliadau am eu rhwymedigaethau i dalu costau gwaredu
  • i atal a chanfod troseddau
  • i gasglu adborth gan anelu at wella’n gwasanaethau ac ymateb iddo
  • i fonitro perfformiad a diogelwch y gwasanaethau ar-lein
  • i brosesu’ch cwyn neu’ch cais testun am weld gwybodaeth (DSAR) ac ymateb iddyn nhw

  • i gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth
  • i roi gwybod ichi pan fydd dogfen newydd ar gael yn eich cyfrif ar-lein

Sut bydd Defra yn defnyddio’ch data

Bydd Defra yn defnyddio’ch data:

  • i’ch gwahodd i ymuno ag un neu fwy o wasanaethau
  • er mwyn ichi allu sefydlu cyfrif a chael mynediad at y gwasanaethau hynny
  • er mwyn i weinyddwr y cynllun gysylltu â chi am y gwasanaethau hynny
  • i gysylltu â chi am eich cais
  • i roi gwybod ichi pan fydd dogfen newydd ar gael yn eich cyfrif ar-lein

Data sy’n cael ei sicrhau oddi wrth drydydd partïon

Gan ddibynnu ar y gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio, mae Defra yn sicrhau’ch data personol oddi wrth:

  • un neu fwy o’r rheoleiddwyr amgylcheddol
  • eich cynrychiolydd
  • awdurdod lleol
  • y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd

Y sail gyfreithlon dros brosesu’ch data personol

Y sail gyfreithlon dros brosesu’ch data personol yw bod angen hynny:

  • er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd fel rhan o’r EPR dros becynwaith
  • er mwyn gwneud gwaith fel adran o’r llywodraeth o dan yr EPR dros becynwaith

Y ddeddfwriaeth sy’n ategu’r sail yma

Cyflwynwyd yr EPR dros becynwaith i ategu Cynllun Amgylchedd 25 Mlynedd y Llywodraeth. Mae hyn wedi’i seilio ar adrannau 50 a 51 o Ran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 ac Atodlen 4 ac Atodlen 5 iddi.

Fe’i hategir hefyd gan ddeddfwriaeth ym mhob un o’r pedair gwlad:

Cydsyniad i brosesu’ch data personol

Nid yw’r gwaith o brosesu’ch data personol wedi’i seilio ar gydsyniad. Allwch chi ddim tynnu’ch cydsyniad yn ôl.

Rhannu’ch data personol

Byddwn yn rhannu’r data personol sy’n cael ei gasglu o dan yr hysbysiad preifatrwydd yma gyda’r rheoleiddwyr amgylcheddol. Rydyn ni’n gwneud hyn i ddarparu gwasanaethau fel rhan o’r EPR dros becynwaith.

Mae’r rheoleiddwyr amgylcheddol yn rheolwyr data yn eu hawl eu hunain. Gallwch ddysgu mwy am sut mae’ch data personol yn cael ei brosesu drwy ddarllen hysbysiad preifatrwydd ar y cyd gan y rheoleiddwyr amgylcheddol.

Byddwn yn cyhoeddi rhestr gyhoeddus o gynhyrchwyr mawr (PLLP) yn unol â’r ddeddfwriaeth ym mhob gwlad a diwygiadau dilynol.

Mae Defra yn parchu’ch preifatrwydd personol wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth. Dim ond pan fo angen hynny er mwyn bodloni gofynion statudol Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth.

Pa mor hir mae Defra yn cadw data personol

Byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd yn unol â gofynion yr EPR dros becynwaith, ac eithrio data sy’n gysylltiedig â gweithgareddau anfonebu a fydd yn cael ei gadw am 11 mlynedd.

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n darparu’r data personol

Fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio gwasanaethau’r EPR dros becynwaith.

Defnyddio penderfyniadau awtomataidd neu broffilio awtomataidd

Nid yw’r data personol rydych chi’n ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:

  • gwneud penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol)
  • proffilio (prosesu data personol yn awtomatig i werthuso pethau personol ynghylch unigolyn)

Trosglwyddo’ch data personol y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Dim ond i wlad arall y bernir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y bydd Defra’n trosglwyddo’ch data personol.

Eich hawliau

Ar sail y prosesu cyfreithlon uchod, yr hawliau unigol sydd gennych yw:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i weld gwybodaeth
  • yr hawl i gywiro
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • yr hawl i wrthwynebu
  • hawliau mewn perthynas â phenderfyniadau awtomataidd a phroffilio awtomataidd

Rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol Diogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018).

Cwynion

Mae gennych chi hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw bryd.

Siarter gwybodaeth bersonol Defra

Mae siarter gwybodaeth bersonol Defra yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Ionawr 2025 show all updates
  1. Small update: the scheme administrator and Defra may use your data to contact you about your submission or new documents in your account.

  2. This updates the privacy notice to cover aspects of the extended producer responsibility for packaging programme beyond the report packaging data service.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon