Help a chymorth
Dewch o hyd i help, gan gynnwys help gan CThEF, os oes ei angen arnoch.
Gall unig fasnachwyr, landlordiaid a’u hasiantau cael gwahanol fathau o gymorth gyda’r cynllun Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Cyn cofrestru, darllenwch drwy ein harweiniad yn gyntaf i ddysgu’r canlynol:
-
pwy all defnyddio’r gwasanaeth a phryd
-
sut i ddewis meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
-
sut y gallwch gofrestru
-
beth sy’n digwydd ar ôl i chi gofrestru
Gallwch hefyd ddefnyddio ein canllawiau cam wrth gam i’ch helpu i ddeall ym mha drefn y dylech ei ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:
-
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unigolion: cam wrth gam
-
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel asiant: cam wrth gam
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â CThEF ar gyfer ymholiadau cyffredinol.
Os oes angen help arnoch neu’ch cleient i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ystod y cyfnod profi, gallwch gysylltu â thîm cymorth penodedig CThEF. Byddwn yn cynnwys y rhif ffôn pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i’ch croesawu ac i gadarnhau eich bod wedi cofrestru.
Sut all y tîm helpu
Gall y tîm helpu gyda’r canlynol:
-
incwm a threuliau i’w cynnwys mewn cyflwyniadau
-
taliadau ac ad-daliadau
-
dyddiadau cyflwyno
-
cosbau
-
rhoi gwybod am wallau ar gyfrifiadau, datganiadau a thaliadau yn deillio o gyflwyniadau
-
Hunanasesiad a Threth Enillion Cyfalaf yn cynnwys blynyddoedd cyn y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
-
TWE yn cynnwys codau treth
Ni allant helpu gyda Threth Gorfforaeth, TAW, neu Yswiriant Gwladol (ac eithrio Hunanasesiad). Ni allant gynnig cyngor cynnyrch meddalwedd chwaith.
Gall y tîm dim ond helpu gydag ymholiadau treth ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Ni all y tîm cymorth penodedig CThEF rhoi cymorth ynghylch cynhyrchion meddalwedd penodol. Bydd pob cynnyrch yn gweithio’n wahanol yn dibynnu ar faint mae’r darparwr meddalwedd wedi ei ddatblygu. Dylai’ch darparwr meddalwedd gael arweiniad ar sut i ddefnyddio ei feddalwedd.
Cysylltwch eich darparwr os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch.