Canllawiau

Hawlio rhyddhad treth ar eich taliadau pensiwn preifat

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i hawlio rhyddhad treth ar eich cynllun pensiwn gweithle a’ch pensiwn personol neu newid hawliad presennol.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth (ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol ac unrhyw flynyddoedd blaenorol). Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych yn hawlio rhyddhad treth drwy’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol yn unig.

Pwy all hawlio

I fod yn gymwys i hawlio rhyddhad treth, mae’n rhaid bod y canlynol yn wir:

Mae cynllun cyflog net yn golygu bod y cyflogwr yn tynnu’ch cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog cyn didynnu unrhyw dreth.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I hawlio rhyddhad treth ar eich taliadau pensiwn gweithle a thaliadau pensiwn personol, bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y math o bensiwn
  • enw’r darparwr pensiwn
  • swm net y cyfraniadau pensiwn ar gyfer pob blwyddyn dreth yr ydych yn gwneud hawliad ar ei chyfer
  • eich rhif ar y gyflogres neu’ch cyfeirnod

Bydd angen i chi uwchlwytho neu anfon tystiolaeth gan eich darparwr pensiwn o’r taliadau rydych wedi’u gwneud ar gyfer pob blwyddyn dreth rydych yn hawlio ar eu cyfer, lle bo unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • maen nhw’n fwy na £10,001
  • roeddech chi wedi talu cyfandaliad
  • rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol ac ni hawliwyd unrhyw ryddhad treth wrth y ffynhonnell

Sut i hawlio

Hawlio ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).

Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.

Hawlio nawr

Hawlio drwy’r post 

Mae’n rhaid i chi anfon llythyr atom:

  • os nad ydych yn gallu hawlio ar-lein
  • os ydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran cleient

Bydd yn rhaid i chi gynnwys yr holl wybodaeth o’r adran ‘Yr hyn y bydd ei angen arnoch’ yn eich llythyr.

Ar ôl i chi hawlio

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 28 diwrnod gwaith.

Os oes angen i chi newid eich hawliad

Gallwch wneud newid i’ch hawliad ar ôl ei chyflwyno, er enghraifft, oherwydd bod angen i chi ychwanegu pensiwn arall. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd angen i chi roi manylion am yr holl bensiynau y gwnaethoch ychwanegu’n flaenorol, gan gynnwys unrhyw rai newydd. Bydd hyn yn cymryd lle eich hawliad blaenorol ar gyfer y flwyddyn dreth rydych wedi’i dewis yn unig.

Os oes angen i chi wneud newidiadau i fwy nag un flwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud newid ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth dan sylw.

Gallwch hefyd ddileu manylion pensiwn ar gyfer blwyddyn dreth rydych wedi’i dewis, ond bydd hyn yn canslo’ch hawliad am y flwyddyn honno.

Hawlio ar-lein

Bydd angen i chi ddefnyddio’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a wnaethoch ddefnyddio i wneud eich hawliad gwreiddiol.

Gallwch wneud newidiadau i’r wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno. Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl drwy fewngofnodi i’r gwasanaeth a dewis yr opsiwn perthnasol i wneud newidiadau.

Hawlio drwy’r post

Mae’n rhaid i chi anfon llythyr atom gyda’r holl fanylion hoffech ychwanegu neu ddileu o’ch hawliad ar gyfer pob blwyddyn dreth dan sylw.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2025 show all updates
  1. A link has been added to find out when you can expect to receive a reply from HMRC to a query or request you've made.

  2. A new section 'If you need to change your claim' has been added to tell users what to do if they need to change or remove their claim.

  3. The 'Who can claim' section has been updated to include eligible basic rate taxpayers and the 'What you'll need' section tells users when they must send or upload evidence.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon