Canllawiau

Hawlio Treth Incwm yn ôl ar daliad buddiant marwolaeth pensiwn a gyrchir yn hyblyg P55(DB)

Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth bresennol ar gyfandaliad buddiant marwolaeth.

Gallwch hawlio’n ôl y dreth sydd arnom i chi os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cymryd taliad budd-dal marwolaeth pensiwn a gyrchir yn hyblyg
  • rydych wedi cymryd rhan o’ch cronfa budd-dal marwolaeth pensiwn yn unig, ac ni fyddwch yn cymryd taliadau rheolaidd
  • nid yw’r corff pensiwn yn gallu gwneud ad-daliad treth

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i gael gwybod am incwm yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth y cawsoch eich daliad buddiant marwolaeth pensiwn a gyrchir yn hyblyg (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Cadwch unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad nes ein bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:

  • peidiwch â chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad
  • bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
  • dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
  • mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Os oes gennych incwm TWE (Talu Wrth Ennill) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • enw a chyfeiriad eich enwebai — os nad ydych am i’r ad-daliad cael ei anfon i’ch cyfeiriad

Bydd angen i chi hefyd rhoi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael o’r canlynol:

  • incwm o gyflogaeth
  • incwm o hunangyflogaeth
  • incwm o bensiynau’r DU
  • budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth — megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd
  • llog wedi’i drethu ar incwm o gynilion a buddsoddiadau yn y DU
  • llog heb ei drethu ar gynilion yn y DU
  • difidendau o gwmnïau yn y DU
  • unrhyw incwm arall
  • taliadau Rhodd Cymorth

Dylech ddefnyddio:

  • ffigurau wedi’u hamcangyfrif os nad oes gennych y ffigurau terfynol
  • rhifau cyfan, wedi’u talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf

Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.

Dulliau o hawlio

I ddechrau eich hawliad ar-lein.

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch ffurflen P55(DB).

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein


Ffurflen P55(DB)

  1. Argraffwch y ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi hawlio

Unwaith bod eich hawliad (wedi’i gwblhau) yn dod i law, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Gall gymryd 30 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld hynt eich hawliad.

Byddwn yn anfon siec atoch chi neu’ch enwebai.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Ebrill 2025 show all updates
  1. A link has been added to find out when you can expect to receive a reply from HMRC to a query or request you've made.

  2. The P55 form has been updated for the 2024 to 2025 tax year.

  3. The P55(DB) form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon