Canllawiau

Hawlio ad-daliad os ydych wedi talu treth ar eich cynilion a’ch buddsoddiadau

Os yw Treth Incwm wedi’i thynnu o’ch cynilion a’ch buddsoddiadau, gallwch ddefnyddio ffurflen R40 i gael ad-daliad.

Gallwch hawlio ad-daliad treth gan ddefnyddio’r ffurflen hon os yw’ch:

  • incwm gros o gynilion a buddsoddiadau yn £10,000 neu lai
  • incwm gros o dir ac eiddo yn £10,000 neu lai
  • incwm net o dir ac eiddo yn £2,500 neu lai
  • incwm o ddifidendau tramor o fewn y lwfans difidend y flwyddyn hon

Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon i hawlio’n ôl treth os:

Cyn i chi ddechrau

Gallwch wneud hawliad am y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blynedd flaenorol. Mae angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth.

Bydd angen i chi roi manylion o’ch incwm o’r canlynol:

  • cyflogaeth, pensiynau a budd-daliadau’r wladwriaeth
  • llog a difidendau
  • ymddiriedolaethau, setliadau ac ystadau
  • tir ac eiddo
  • ffynonellau tramor

I ddod o hyd i’r wybodaeth hon, gwiriwch y canlynol:

  • eich P60 neu P45
  • cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu
  • llythyrau rydych wedi’u cael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • datganiadau incwm o ymddiriedolaethau ac ystadau
  • talebau difidend

Hawlio ad-daliad o dreth a ddidynnwyd o’r llog

I gael ad-daliad o dreth a ddidynnwyd o log, mae angen i chi roi tystiolaeth o’r dreth rydych wedi’i thalu.

Anfonwch ddogfen atom gan y cwmni a wnaeth eich talu sy’n dangos y canlynol:

  • llog gros
  • treth a ddidynnwyd o’r llog
  • llog net

Os nad yw hon gennych, gallwch ofyn am gael y ddogfen gan y cwmni a wnaeth eich talu chi.

Mae’n rhaid i chi anfon y ddogfen drwy’r post, at:

Talu Wrth Ennill
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Os yw’ch hawliad ar gyfer unrhyw fath arall o ad-daliad, peidiwch ag anfon tystiolaeth atom. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen unrhyw beth arnom.

Gwneud hawliad ar ran rhywun arall

Mae’n rhaid i chi wneud hawliad drwy’r post i wneud hawliad ar ran rhywun arall. Dechreuwch eich hawliad ar-lein a byddwch yn cael cysylltiad i’r ffurflen bost.

Llenwch y ffurflen gyda’i fanylion a llofnodwch eich enw eich hun yn y datganiad.

Os ydych am i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, darganfyddwch sut i gael ad-daliadau treth ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).

Cyflwyno’ch hawliad

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

Dechrau nawr

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn cysylltu â chi unwaith y byddwn wedi prosesu eich hawliad — gwiriwch bryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes gennych hawl i gael ad-daliad. Os ydych, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y bydd yn cael ei dalu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2025 show all updates
  1. The R40 notes document within the online tool has been updated.

  2. Guidance for Payment Protection Insurance (PPI) claims has been removed, and replaced with guidance for claiming back tax deducted from interest.

  3. Interactive guidance has been added to replace the existing PDF version of the R40 form and the associated notes.

  4. The R40 notes have been updated.

  5. Information has been added to confirm the details that must be provided to claim tax back on interest paid on a Payment Protection Insurance (PPI) claim. An updated R40 form, and information on what to do when claiming on behalf of someone else from 30 April 2024 has been added.

  6. Added Welsh translation.

  7. Information about Payment Protection Insurance (PPI) claims has been added. HMRC will accept digital signatures on the R40 print and post form.

  8. We have updated the link to form R43.

  9. Added translation

  10. First published.

Argraffu'r dudalen hon