Canllawiau

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm o blatfformau ar-lein

Dysgwch a oes angen i chi ddatgan incwm o werthu meddiannau personol, nwyddau neu wasanaethau ar-lein, creu cynnwys ar-lein neu roi eiddo ar osod gan ddefnyddio platfformau digidol.

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn cael incwm drwy farchnadoedd ar-lein neu’r cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn fod yn wir p’un ai dyma’ch prif ffynhonnell incwm neu ei fod yn ffynhonnell arall — a elwir yn ‘prosiect pres poced’.

Gallai incwm fod yn arian, rhoddion neu wasanaethau rydych yn eu cael o wneud y canlynol:

  • gwerthu meddiannau personol
  • gwerthu nwyddau
  • darparu gwasanaeth
  • creu cynnwys ar-lein
  • rhoi tir neu eiddo ar osod

Pe byddech yn cael rhodd neu wasanaethau yn lle arian, byddech yn defnyddio gwerth yr hyn y byddai wedi’i gostio pe bai’n rhaid i chi dalu amdanynt.

Bydd yr offeryn hwn yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi roi gwybod i ni am eich incwm, a sut i roi gwybod amdano.

Gwerthu meddiannau personol

‘Meddiannau personol’ yw’r eitemau hynny sy’n perthyn i chi at eich defnydd eich hun. Efallai eich bod chi wedi’u prynu neu eu cael yn rhodd.

Gall meddiannau personol gynnwys pethau fel y canlynol:

  • eich dillad
  • eich addurnau
  • offer eich cegin
  • eich bwrdd a’ch cadeiriau
  • eich gemwaith
  • eich cyfrifiaduron a’ch ffonau

Os ydych yn gwerthu meddiannau personol, ni fyddwch yn debygol o orfod talu Treth Incwm ar y meddiannau hyn.

Os ydych yn gwerthu eitem am fwy na £6,000, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy ar unrhyw feddiannau personol a werthir am fwy na £6,000 — p’un ai gwerth un eitem sydd dan sylw, neu os oes sawl eitem yn ffurfio set, er enghraifft:

  • darnau gêm gwyddbwyll
  • llyfrau gan yr un awdur neu ar yr un pwnc
  • addurnau sy’n mynd gyda’i gilydd, fel fasys neu gerfluniau bach

Enghraifft — gwerthu eitemau diangen

Rydych yn clirio’ch atig ac yn penderfynu gwerthu’ch eitemau diangen gan ddefnyddio marchnadoedd ar-lein. Nid yw’r un o’r eitemau rydych yn eu gwerthu yn werth mwy na £6,000.

Mae’n annhebygol y bydd angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn na thalu unrhyw dreth, ni waeth faint o eitemau rydych chi’n eu gwerthu.

Enghraifft — gwerthu meddiant personol am elw

Rydych yn adnewyddu’ch tŷ ac yn penderfynu gwerthu llun rydych yn berchen arno gan ddefnyddio marchnad ar-lein. Gwnaethoch brynu’r llun 5 mlynedd yn ôl am £4,600 ac rydych yn ei werthu am £7,000.

Rydych yn defnyddio’r offeryn er mwyn gweld a oes angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn gan eich bod wedi gwerthu un eitem o’ch meddiannau personol am fwy na £6,000.

Gwerthu nwyddau

Mae’n debyg eich bod yn masnachu os byddwch yn gwerthu nwyddau:

  • rydych wedi’u prynu gyda’r bwriad o’u gwerthu am elw
  • rydych wedi’u gwneud, gan gynnwys eitemau rydych yn eu gwneud fel rhan o hobi

Bydd angen ychwanegu’r incwm hwn at eich incwm o weithgareddau masnachu eraill, fel darparu gwasanaethau neu greu cynnwys ar-lein. Os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na’r lwfans masnachu o £1,000 ar gyfer y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), bydd angen i roi gwybod i ni amdano.

Enghraifft — uwchgylchu a gwerthu

Rydych yn uwchgylchu darnau o ddodrefn ail law fel hobi gyda’r bwriad o’u hailwerthu. Rydych yn cael £900 wrth werthu’r eitemau ar farchnadoedd ar-lein, a dyma’ch unig incwm o weithgareddau masnachol.

Rydych yn defnyddio’r offeryn er mwyn gweld a allwch ddefnyddio’r lwfans masnachu o £1,000, a gallai olygu nad oes rhaid i chi roi gwybod i ni amdano.

Enghraifft — mewnforio eitemau i’w gwerthu

Rydych yn mewnforio camerâu ac ategolion ar-lein o dramor. Rydych yn cael £550 wrth werthu’r eitemau ar farchnadoedd ar-lein.

Yn ogystal, rydych yn cael incwm o weithgareddau masnachol eraill, felly rydych yn defnyddio’r offeryn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn.

Enghraifft — ailwerthu dillad ac eitemau eraill

Ar ôl ennill peth arian o werthu dillad diangen, rydych yn dechrau prynu eitemau o arwerthiannau cist car a siopau elusen. Rydych yn gwerthu’r eitemau hyn drwy farchnad ar-lein, gyda’r bwriad o’u gwerthu am fwy o arian nag oeddech wedi’u prynu nhw. Dyma rywbeth rydych yn ei wneud yn rheolaidd.

Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Darparu gwasanaeth

Gwasanaethau yw’r pethau rydych yn eu gwneud i bobl eraill, er enghraifft:

  • gyrru tacsi
  • danfon bwyd
  • garddio a gwaith atgyweirio
  • cerdded cŵn
  • rhoi gwersi
  • glanhau
  • llogi offer

Bydd angen ychwanegu’r incwm hwn at eich incwm o weithgareddau masnachu eraill, fel gwerthu nwyddau neu greu cynnwys ar-lein. Os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na’r lwfans masnachu o £1,000 ar gyfer y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), bydd angen i roi gwybod i ni amdano.

Er enghraifft — garddio a gwaith atgyweirio

Rydych yn darparu gwasanaethau garddio a gwaith atgyweirio. Rydych yn defnyddio platfformau ar-lein i greu proffil ac i hysbysebu a gwerthu eich gwasanaethau.

Rydych yn cyfuno eich incwm o’r ddau wasanaeth ac yn defnyddio’r offeryn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn.

Creu cynnwys ar-lein

Gallai cynnwys ar-lein fod yn un o’r canlynol:

  • creu fideos ar-lein
  • cynhyrchu podlediadau
  • gwaith dylanwadu ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae incwm o greu cynnwys ar-lein yn cynnwys rhoddion a gwasanaethau a gewch o hyrwyddo cynhyrchion ar-lein.

Bydd angen ychwanegu’r incwm hwn at eich incwm o weithgareddau masnachu eraill, fel gwerthu nwyddau neu greu cynnwys ar-lein. Os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na’r lwfans masnachu o £1,000 ar gyfer y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), bydd angen i roi gwybod i ni amdano.

Enghraifft — gwaith dylanwadu ar y cyfryngau cymdeithasol

Rydych yn grëwr cynnwys a dylanwadwr â sianel ar y cyfryngau cymdeithasol lle’r ydych yn adolygu cynhyrchion harddwch. Rydych yn cael incwm o hysbysebu ar eich fideos. Rydych hefyd yn cael rhoddion gan y cwmnïau yr ydych yn adolygu eu cynhyrchion.

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn.

Rhoi tir neu eiddo ar osod

Gallai tir neu eiddo fod yn un o’r canlynol:

  • ystafell yn eich prif gartref, gan gynnwys defnydd fel gwely a brecwast
  • eich prif gartref
  • eiddo nad yw’n brif gartref i chi
  • tir, er enghraifft eich dreif

Enghraifft — rhoi ystafell sbâr ar osod

Rydych yn rhoi eich ystafell sbâr ar osod am gyfnodau byr dymor gan ddefnyddio platfformau ar-lein. Rydych yn cael taliadau rheolaidd o’r platfform ar-lein ar ôl i’ch gwesteion gyrraedd.

Rydych wedi cael incwm rhent o blatfform ar-lein, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn.

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni am incwm a gewch o ddefnyddio platfformau ar-lein. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn dal i fod angen i chi roi gwybod i ni am eich incwm, hyd yn oed os nad oes angen i chi dalu unrhyw dreth arno.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen rhywfaint o wybodaeth am eich incwm arnoch. Gallai hyn gynnwys:

  • faint a gawsoch, neu faint yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth
  • p’un a ydych yn rhannu’r incwm hwn â rhywun arall
  • a oes gennych incwm o ffynonellau eraill y mae angen i chi ei ddatgan

Bydd angen i chi wybod beth yw’ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth, sydd rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Bydd rhai platfformau ar-lein yn dangos eich incwm ar gyfer y flwyddyn galendr, sef o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr. Os felly, bydd angen i chi gyfrifo’r incwm ar gyfer y flwyddyn dreth cyn defnyddio’r offeryn.

Bydd yr offeryn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn. Ni chaiff yr wybodaeth a nodwch ei storio na’i defnyddio gan CThEF.

Gwirio nawr

Gwybodaeth y mae platfformau ar-lein yn ei chasglu

Os byddwch yn gwerthu ar blatfformau digidol, efallai y bydd angen i weithredwr y platfform wneud y canlynol:

  • casglu a gwirio manylion penodol amdanoch
  • rhoi gwybod i ni am rai manylion

Dysgwch ragor am werthu nwyddau a gwasanaethau ar blatfformau digidol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am y dudalen ‘Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm o blatfformau ar-lein’.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Chwefror 2025 show all updates
  1. Selling goods, providing a service and creating online content sections have been updated. If your total income is more than the £1,000 trading allowance for the tax year (6 April to 5 April), you'll need to tell us about it.

  2. A link has been added to leave feedback about this guidance. Information has been added to make it clearer when you must tell HMRC about income you've received.

  3. Added translation

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon