Gwirio a oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn derbyn ffioedd ysgolion preifat
Os ydych chi’n ddarparwr addysg, gwiriwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW — a phryd y dylech wneud hynny — er mwyn paratoi ar gyfer talu TAW ar ffioedd ysgol a phreswylio.
Mae CThEF yn cynnal gweminarau byw ynghylch TAW ar ffioedd ysgolion preifat. Yn y rhain gallwch ddysgu am y canlynol:
-
sut i wirio a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW fel darparwr addysg, a phryd i wneud hynny
-
adnabod y nwyddau a gwasanaethau y mae angen i chi godi TAW arnynt ac adhawlio TAW ar eu cyfer
Darllenwch y canllaw ar ddiweddariadau gan CThEF drwy e-byst, fideos a gweminarau ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael gwybod sut i gofrestru ar gyfer y gweminarau sydd i ddod.
Ers 1 Ionawr 2025, mae holl wasanaethau a hyfforddi galwedigaethol y mae ysgolion preifat yn y DU yn eu cyflenwi am dâl wedi bod yn agored i TAW ar y gyfradd safonol o 20%. Mae hyn hefyd yn berthnasol i wasanaethau ysgol breswyl y mae ysgolion preifat yn eu cyflenwi.
Mae’n rhaid i ddarparwyr addysg sy’n codi ffioedd ysgol a phreswylio wirio a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer TAW oherwydd y newidiadau hyn.
Pwy sy’n gorfod cofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn ysgol breifat, neu’n berson cysylltiedig, sy’n darparu gwasanaethau addysg neu hyfforddiant galwedigaethol, neu’n darparu gwasanaethau preswylio sy’n ymwneud yn agos ag addysg neu hyfforddiant galwedigaethol, a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf dros £90,000
-
rydych yn disgwyl cael taliadau dros £90,000 yn ystod y cyfnod 30 diwrnod nesaf
Trosiant trethadwy yw cyfanswm gwerth popeth rydych chi’n ei werthu nad yw wedi’i esemptio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas’.
Gweler y ffordd i brofi a yw person yn berson cysylltiedig yn adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n bosibl y gall corff cymwys hefyd gael ei drin fel corff cysylltiedig os roddir trefniadau ar waith gan yr ysgol breifat a’r corff cymwys hwnnw i elwa’n bennaf o gael esemptiad TAW ar nwyddau y dylai fod yn drethadwy. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyrff hynny sy’n agored i TAW yn adran 4 o Addysg a hyfforddiant galwedigaethol (Hysbysiad TAW 701/30) (yn agor tudalen Saesneg).
At ddibenion TAW, diffinnir ‘ysgol breifat’ fel unrhyw ysgol neu sefydliad sy’n darparu addysg amser llawn am ffi i’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
disgyblion sydd o oedran ysgol gorfodol
-
disgyblion 16 i 19 oed, lle mae’r sefydliad hwnnw’n ymwneud yn bennaf, neu’n gyfan gwbl, â darparu addysg sy’n addas ar gyfer yr oedrannau hyn
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
-
ysgolion preifat
-
ysgolion annibynnol
-
colegau chweched dosbarth preifat
Bydd dosbarthiadau meithrin a ddarperir gan ysgolion preifat sy’n cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol yn bennaf, neu’n gyfan gwbl, wedi’u heithrio rhag TAW. Er enghraifft, bydd dosbarth meithrin sy’n cynnwys 90% o blant o dan oedran ysgol gorfodol wedi’i heithrio rhag TAW. Os ydych yn ysgol sydd ond yn darparu addysg ar lefel dosbarth meithrin yn unig, ni fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru
Bydd yr union ddyddiad pan fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar y canlynol:
-
gwerth y taliadau ffioedd ysgol a gewch ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025
-
y dyddiad y bydd y taliadau’n dod i law
Mae’r taliadau’n cynnwys ffioedd cofrestru a delir yn ystod y broses ymgeisio i fynychu ysgol.
Os ydych yn rhedeg ysgol breifat, dysgwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Os ydych yn cofrestru oherwydd eich bod wedi mynd dros y trothwy TAW, sef £90,000, yn ystod y 12 mis blaenorol, mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis pan aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd diwrnod cyntaf yr ail fis ar ôl i chi fynd dros y trothwy.
Os ydych yn cofrestru oherwydd eich bod yn disgwyl cael taliadau sy’n fwy na £90,000 yn ystod y cyfnod 30 diwrnod nesaf, mae’n rhaid i chi gofrestru yn ystod y 30 diwrnod nesaf. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd y dyddiad pan wnaethoch sylweddoli y byddwch yn mynd dros y trothwy.
Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW nes eich bod wedi cofrestru ar gyfer TAW.
Os oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW, ac os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb am gofrestru’n hwyr.
Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio pryd mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW ar gyfer ffioedd ysgol preifat. Mae ar gyfer arweiniad yn unig.
Taliadau a ddaeth i law cyn 29 Gorffennaf 2024
Bydd y ffordd y caiff taliadau a wnaed cyn 29 Gorffennaf 2024 eu trin yn dibynnu ar delerau penodol unrhyw gytundeb ar gyfer y taliad dan sylw.
Lle bo’r taliad yn creu pwynt treth at ddibenion TAW pan fydd y taliad hwnnw’n cael ei wneud, ni fydd TAW yn ddyledus. Bydd pwynt treth fel arfer yn cael ei greu pan fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu pan fydd taliad yn cael ei gymryd am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau.
I gael rhagor o wybodaeth am bwyntiau treth, darllenwch:
-
adran 14 o Hysbysiad TAW 700 (yn agor tudalen Saesneg)
-
VATTOS3000 o lawlyfr mewnol CThEF, Amser cyflenwi mewn perthynas â TAW (yn agor tudalen Saesneg)
Taliadau a ddaeth i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024
Bydd unrhyw daliadau ffioedd a ddaeth i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 ar gyfer tymhorau ysgol sy’n dechrau o 1 Ionawr 2025 ymlaen yn agored i TAW o’r naill neu’r llall o’r dyddiadau canlynol, p’un bynnag sydd hwyraf:
-
dyddiad cyntaf y tymor ysgol y talwyd y ffioedd amdano
-
1 Ionawr 2025
Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW nes eich bod wedi cofrestru ar gyfer TAW.
Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif cofrestru TAW, ond gallwch godi’ch prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.
Enghraifft
Ar 28 Hydref 2024, cawsoch £100,000 ar gyfer addysg ysgol breifat ar gyfer y tymor ysgol sy’n dechrau ar 6 Ionawr 2025.
Gan nad yw hwn yn cael ei ystyried yn agored i TAW eto, nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW ar unwaith.
Bydd y taliadau hyn yn agored i TAW o 6 Ionawr 2025 ymlaen, pan fydd tymor yr ysgol yn dechrau. Mae hyn yn golygu, ar 8 Rhagfyr 2024 — 30 diwrnod cyn 6 Ionawr 2025 — eich bod yn ymwybodol y byddwch yn mynd dros y trothwy TAW sef £90,000 ar 6 Ionawr 2025, ac mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru ar gyfer TAW o 8 Rhagfyr 2024 ymlaen, gan mai dyna’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Mae’n rhaid i chi hefyd dalu unrhyw TAW a allai fod yn ddyledus ar ffioedd a dalwyd o 8 Rhagfyr 2024 ymlaen, er na fyddwch wedi cael eich rhif cofrestru TAW eto.
Taliadau i ysgolion arbennig nas cynhelir
Caiff taliadau a wnaed i ysgolion arbennig nas cynhelir rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 eu trin yn wahanol yn dibynnu ar delerau penodol unrhyw gytundeb ar gyfer y taliad dan sylw.
Lle bo’r taliad yn creu pwynt treth at ddibenion TAW pan fydd y taliad hwnnw’n cael ei wneud, ni fydd TAW yn ddyledus. Bydd pwynt treth fel arfer yn cael ei greu pan fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu pan fydd taliad yn cael ei gymryd am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau.
I gael rhagor o wybodaeth am bwyntiau treth, darllenwch:
-
adran 14 o Hysbysiad TAW 700 (yn agor tudalen Saesneg)
-
VATTOS3000 o lawlyfr mewnol CThEF, Amser cyflenwi mewn perthynas â TAW (yn agor tudalen Saesneg)
Taliadau a ddaw i law ar ac ar ôl 30 Hydref 2024
Bydd unrhyw ffioedd a ddaw i law o 30 Hydref 2024 ymlaen ar gyfer tymhorau ysgol o 1 Ionawr 2025 ymlaen yn agored i TAW ar y dyddiad y cawsoch y taliad.
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod os ydych yn sylweddoli y bydd swm y taliadau y byddwch yn eu cael yn fwy na £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
Os na fyddant yn fwy na £90,000 bydd angen i chi roi gwybod i CThEF, cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis, bod cyfanswm y taliadau y byddwch yn eu cael — ynghyd ag unrhyw gyflenwadau trethadwy eraill y gallech fod yn eu gwneud — yn fwy na £90,000.
Wrth gyfrifo’ch trosiant trethadwy o’r 12 mis diwethaf, mae angen i chi gynnwys y canlynol:
-
y ffioedd ysgol sy’n berthnasol i dymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025 yn unig
-
y ffioedd o 30 Hydref 2024 pan fyddant yn dod i law
-
y ffioedd a gawsoch rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 a hynny naill ai o 1 Ionawr 2025 neu ddechrau’r tymor hwnnw – pa un bynnag sydd hwyraf
Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif cofrestru TAW, ond gallwch godi’ch prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.
Enghraifft
Ar 5 Tachwedd 2024, rydych yn ymwybodol y byddwch yn cael taliadau ffioedd ysgol dros £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf, ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025.
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW, a rhoi roi gwybod i CThEF erbyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod hwnnw — hynny yw, erbyn 4 Rhagfyr 2024.
Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd 5 Tachwedd 2024, gan mai dyma’r dyddiad pan wnaethoch sylweddoli y byddech yn mynd dros y £90,000 cyn pen y 30 diwrnod nesaf.
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw TAW a allai fod yn ddyledus ar ffioedd a dalwyd o 5 Tachwedd 2024 ymlaen, er na fyddwch wedi cael eich rhif cofrestru TAW eto.
Cyfanswm y taliadau sy’n mynd dros y trothwy TAW yn ystod cyfnod treigl o 12 mis
Os ydych yn cael taliadau sy’n llai na £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf, ni fydd angen i chi gofrestru hyd nes bod cyfanswm eich cyflenwadau trethadwy yn mynd y tu hwnt i’r swm hwnnw, a hynny dros gyfnod treigl o 12 mis.
Ni fydd taliadau a ddaw i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 yn agored i TAW tan ddiwrnod cyntaf y tymor neu 1 Ionawr 2025, p’un bynnag sydd hwyraf. Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW tan hynny.
Enghraifft
Mae’n 31 Ionawr 2025, ac rydych yn sylweddoli, ers y newid o ran triniaeth TAW ar 30 Hydref 2024, bod cyfanswm o £95,000 o ffioedd wedi dod i law ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025.
Gan eich bod wedi mynd dros y trothwy sef £90,000 yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW gyda CThEF cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd mis Ionawr (y mis pan aethoch dros y trothwy).
Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym fydd 1 Mawrth 2025.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddechrau codi TAW o 1 Mawrth 2025 ymlaen.
Cofrestru ar gyfer TAW yn wirfoddol
Os ydych yn ddarparwr addysg sydd eisoes yn darparu gwasanaethau neu nwyddau sy’n agored i TAW, ac os nad oes gofyn i chi gofrestru eto, gallwch gofrestru ar gyfer TAW ar unrhyw adeg.
Os ydych yn ddarparwr addysg nad yw’n darparu gwasanaethau neu nwyddau sy’n agored i TAW ar hyn o bryd, gallwch gofrestru ar gyfer TAW o 30 Hydref 2024 ymlaen os ydych yn darparu addysg breifat ar gyfer tymhorau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2025, neu’n bwriadu gwneud hynny.
Os byddwch yn cofrestru’n wirfoddol, bydd angen i chi fodloni ymrwymiadau TAW o hyd, megis cyflwyno Ffurflenni TAW a chadw cofnodion TAW. Bydd angen i chi hefyd codi TAW ar nwyddau a gwasanaethau trethadwy a gyflenwir gennych.
Bydd pryd y bydd angen i chi godi TAW ar ffioedd ysgol yn dibynnu ar yr ‘amser cyflenwi’ (neu’r pwynt treth). Ceir rhagor o wybodaeth am yr ‘amser cyflenwi’ yn adran 14 o Hysbysiad TAW 700 (yn agor tudalen Saesneg).
Sut i gofrestru
Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer TAW.
Pan fyddwch yn cofrestru, dylech wneud y canlynol:
-
nodi ‘Darparwr Addysg Breifat’ yn adran ‘Gweithgarwch busnes’ y cais ar-lein
-
defnyddio’r arweiniad sydd ar gael wrth i chi wneud y cais ar-lein i’ch helpu i ddewis y cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy’n berthnasol i chi
Sut i ddewis eich endid busnes
I gofrestru, bydd angen i chi wybod pa fath o endid busnes sy’n berthnasol i’ch ysgol.
Mae sefydliadau corfforedig elusennol yn strwythur corfforedig sydd wedi’i gynllunio ar gyfer elusennau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.
Cwmni cyfyngedig yw cwmni ‘cyfyngedig drwy gyfranddaliadau’ neu ‘cyfyngiedig drwy warant’.
Cofrestru fel sefydliad corfforedig elusennol
Os ydych yn cofrestru fel sefydliad corfforedig elusennol, ac mae Rhif Cofrestru eich Cwmni’n dechrau gyda’r rhagddodiad CE neu CS, dylech wneud y canlynol pan fyddwch yn cofrestru:
-
dewis ‘Arall’ pan ofynnir i chi pa fath o fusnes rydych chi’n ei gofrestru
-
dewis ‘Cymdeithas Anghorfforedig neu Elusen Berthnasol Arall’ pan ofynnir i chi pa fath penodol o endid ydych chi
-
gadael y blwch yn wag pan ofynnir i chi nodi Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu gyfeirnod CThEF
Os yw’ch ysgol yn sefydliad corfforedig elusennol ac mae ganddi Rif Cofrestru’r Cwmni nad yw’n dechrau gyda’r rhagddodiad CE neu CS, gallwch gofrestru gyda Rhif Cofrestru eich Cwmni. Os nad ydych yn siŵr beth yw’ch rhif cofrestru, gallwch chwilio’r gofrestr (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych wedi cofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol, mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch sefydlu elusen a’r gwahanol strwythurau y gallwch eu dewis (yn agor tudalen Saesneg).
Cofrestru fel cwmni cyfyngedig yn y DU
Os yw’ch ysgol yn gwmni cyfyngedig yn y DU ac nid yw’n sefydliad corfforedig elusennol, bydd angen eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth arnoch, yn ogystal â Rhif Cofrestru’ch Cwmni. Bydd y cyfeirnod hwn ar Ffurflenni Treth ac unrhyw ohebiaeth arall a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad ydych yn gwybod beth yw’ch UTR, gallwch ofyn am gopi o’ch UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth os oes gennych Rif Cofrestru’r Cwmni. Os nad oes gennych Rif Cofrestru’r Cwmni, bydd angen i chi gofrestru â Thŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) a bydd CThEF yn anfon eich UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth atoch cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Cofrestru fel grŵp TAW
Os oes gan eich ysgol fwy nag un endid busnes (er enghraifft, yn ogystal â busnes sy’n darparu addysg y mae busnes arall, sef siop sy’n gwerthu offer chwaraeon yr ysgol) efallai y bydd modd iddi gofrestru fel grŵp TAW.
Ceir rhagor o wybodaeth yn:
-
yr arweiniad ar gofrestru mentrau ar y cyd, grwpiau ac isadrannau ar gyfer TAW
-
Hysbysiad TAW 700/2 — Cofrestru grwpiau ac isadrannau (yn agor tudalen Saesneg)
Ychwanegu manylion am gyfarwyddwyr â’u cysylltiad â’r ysgol
Wrth lenwi’r adran hon o’r cais ar-lein, does dim angen i chi ychwanegu manylion am fwrsariaid neu lywodraethwyr eich ysgol.
Ar ôl i chi gofrestru
Byddwch yn cael llythyr gan CThEF a fydd yn cadarnhau’ch rhif cofrestru TAW ac yn esbonio’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud nesaf.
Dylech gyfeirio at eich cyfrif ar-lein am yr holl wybodaeth ynglŷn a’ch ymrwymiadau TAW, gan gynnwys manylion am ddyddiad eich Ffurflen TAW gyntaf.
Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i arweiniad am y canlynol:
Byddwch hefyd yn gallu adennill TAW ar dreuliau busnes.
Cael rhagor o wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth gyffredinol am y canlynol:
-
codi ac adhawlio TAW ar nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â ffioedd ysgolion preifat
-
llenwi a chyflwyno’ch Ffurflen TAW yn Hysbysiad TAW 700/12 (yn agor tudalen Saesneg)
-
meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW y gallwch ei defnyddio i gadw cofnodion TAW a chyflwyno’ch Ffurflenni TAW
Updates to this page
-
Welsh translation updated.
-
More guidance has been added about using your online account to find information about your VAT obligations once you are registered.
-
Information about education services and vocational training provided by private schools being subject to VAT at the standard rate of 20% has been updated. Information about finding out if you need to register for VAT if you run a private school has been added.
-
Welsh updated.
-
Guidance has been added to the "How to register" section to help you work out what business entity your school is.
-
Welsh updated.
-
More guidance has been added on how to calculate your taxable turnover from the past 12 months.
-
Guidance on how to register as a charitable incorporated organisation has been added.
-
Information about how to register for VAT has been updated to include further detail for charities and limited companies on what you'll need to do to register based on your school's circumstances.
-
The 'How to register' section has been updated with guidance on how to find your Unique Taxpayer Reference so you can register for VAT.
-
The 'When you must register' section has been updated with a link to a tool to help you check when you need to register for VAT for private school fees. Guidance has also been added for payments received by non-maintained special schools between 29 July 2024 and 29 October 2024.
-
Details on how to attend webinars about VAT on private school fees have been added to the ‘Get more information’ section.
-
The guidance has been updated to show private sixth form colleges will be affected by VAT changes on school fees. Information has also been added to show that affected education providers cannot include VAT on their invoices until they get their VAT registration number for school fee payments received from 29 July 2024.
-
The 'Who must register for VAT' section of the guidance has been updated to show private schools, independent schools and sixth form colleges will need to check if they must register for VAT.
-
Added translation