Canllawiau

Newid y manylion mewngofnodi ar gyfer eich GOV.UK One Login

Sut i newid y cyfrinair, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i'ch GOV.UK One Login.

Newid neu ailosod eich cyfrinair

Newid eich cyfrinair

Gallwch newid eich cyfrinair yn eich GOV.UK One Login. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i ‘Diogelwch’.
  3. O dan ‘Eich manylion mewngofnodi’, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer ‘Cyfrinair’ a dewiswch ‘newid’.
  4. Rhowch eich cyfrinair cyfredol a dewiswch ‘Parhau’.
  5. Rhowch gyfrinair newydd a dewiswch ‘Parhau’.

Ailosod eich cyfrinair

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod. I wneud hyn:

  1. Ewch i Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Dewiswch ‘Mewngofnodi’.
  3. Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
  4. Ar y sgrin ‘Rhowch gyfrinair’, dewiswch y ddolen sy’n dweud ‘Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair’.
  5. Gwiriwch eich e-bost am god diogelwch.
  6. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch ‘Parhau’.
  7. Rhowch god diogelwch arall - cewch hwn trwy neges destun neu o’ch ap dilysu.
  8. Rhowch gyfrinair newydd a dewiswch ‘Parhau’.

Newid eich rhif ffôn

Gallwch newid y rhif ffôn rydych yn ei ddefnyddio i gael codau diogelwch i fewngofnodi. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i ‘Diogelwch’.
  3. O dan ‘Sut rydych yn cael codau diogelwch’, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer ‘Neges destun’ a dewiswch ‘newid’.
  4. Rhowch eich cyfrinair a dewiswch ‘Parhau’.
  5. Rhowch rif ffôn newydd a dewiswch ‘Parhau’.
  6. Gwiriwch eich ffôn am neges destun sy’n cynnwys cod diogelwch.
  7. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch ‘Parhau’.

Os ydych wedi colli mynediad i’ch ffôn

Os ydych chi wedi colli mynediad i’ch rhif ffôn neu wedi’i newid, gallwch newid sut rydych yn cael codau diogelwch, cyn belled nad oes angen i chi ailosod eich cyfrinair hefyd.

I newid sut rydych yn cael codau diogelwch:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Rhowch eich cyfrinair.
  3. Pan ofynnir i chi nodi’r cod diogelwch, dewiswch ‘Problemau gyda’r cod’.
  4. Dewiswch ‘newid sut rydych yn cael codau diogelwch’ - bydd hyn yn anfon cod i’ch cyfeiriad e-bost.
  5. Rhowch y cod o’ch e-bost.
  6. Dewiswch sut rydych am gael codau diogelwch - gall hwn fod yn rhif ffôn newydd neu’n ap dilysu.

Bydd eich hen rif ffôn yn cael ei ddileu o’ch GOV.UK One Login.

Newid eich cyfeiriad e-bost

Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost yn eich GOV.UK One Login. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i ‘Diogelwch’.
  3. O dan ‘Eich manylion mewngofnodi’, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer ‘E-bost’ a dewiswch ‘newid’.
  4. Rhowch eich cyfrinair a dewiswch ‘Parhau’.
  5. Rhowch gyfeiriad e-bost newydd a dewiswch ‘Parhau’.
  6. Gwiriwch eich e-bost am god diogelwch.
  7. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch ‘Parhau’.
Cyhoeddwyd ar 26 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 March 2024 + show all updates
  1. The instructions for changing your phone number if you have lost access to your phone or changed your number have been updated to include the rule that you can only do this if you are not also resetting your password.

  2. The steps for resetting your password have been updated.

  3. Added translation