Canllawiau

Gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu ffurflen bost CF411 i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref Yswiriant Gwladol, neu i’w drosglwyddo oddi wrth briod neu bartner.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu’r ffurflen bost er mwyn:

  • gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
  • trosglwyddo Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref oddi wrth briod neu bartner

Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi wirio eich bod yn gymwys.

Bydd angen i chi ddarparu’r dystiolaeth ganlynol

Os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas

Bydd yn rhaid i chi anfon copi o lythyr o gadarnhad cyfredol oddi wrth yr awdurdod lleol neu’r asiantaeth faethu gyda’ch cais.

Os ydych yn gofalu am berson sy’n sâl neu’n anabl

Bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth gyda’ch cais, sy’n dangos y lwfansau neu’r budd-daliadau a dalwyd i’r unigolyn yr oeddech yn gofalu amdano yn ystod y cyfnod yr oeddech yn gofalu amdano.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos bod y lwfans neu’r budd-dal wedi’i dalu er mwyn cwmpasu o leiaf 48 wythnos ymhob blwyddyn rydych yn hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar ei chyfer.

Ffyrdd o wneud cais

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu.

Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Os ydych yn cyflwyno llythyr o gadarnhad neu dystiolaeth ategol, bydd angen i chi uwchlwytho llun o hyn a’i anfon gyda’ch cais. Dylai’r ffeil a anfonwch fod:

  • yn 5MB neu’n llai ei faint
  • ar ffurf PDF neu JPEG

Gwneud cais nawr

Gwneud cais drwy’r post

I wneud cais drwy’r post, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y blynyddoedd treth rydych yn gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar eu cyfer
  • y dyddiadau y gwnaethoch hawlio Budd-dal Plant
  • unrhyw ddyddiadau yr oeddech yn byw y tu allan i’r DU yn ystod y cyfnod yr ydych yn hawlio ar ei gyfer

Dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau gan na allwch gadw’ch cynnydd.

  1. Llenwch ffurflen CF411.

  2. Argraffwch y ffurflen.

  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Cael help i gyflwyno’ch cais

Gallwch ddefnyddio’r nodiadau hyn i’ch helpu i lenwi’ch cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

Nodiadau i’ch helpu i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb oddi wrth CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Ionawr 2025 show all updates
  1. Guidance has been added on how to check when you can expect a reply from HMRC after you've submitted your application.

  2. The link to the eligibility checker tool has been moved and made more prominent.

  3. 'Before you apply' has been updated to include that you must first check if you have any gaps in your National Insurance record and if you are eligible to apply for Home Responsibilities Protection. The instruction for parents or carers to check if they can apply for National Insurance credits using form CF411A has been removed. The 'You will need' section has been updated for clarification and to include only the things that you need.

  4. The apply by post form has been updated.

  5. A Welsh version of the form has been added.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon