Canllawiau

Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA)

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF i cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd fel cwrw cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill yn y DU.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych am i cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd yn y DU, bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch. Ni allwch ddechrau cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd hebddi.

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais i gael APPA.

Pryd ddylech wneud cais

Dylech wneud cais o leiaf 45 diwrnod gwaith cyn eich bod yn bwriadu dechrau cynhyrchu. Mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser na hyn i ni brosesu eich cais os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n fwy cymhleth

  • mae angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth oddi wrthoch

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn gwneud cais, mae angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich enw a’ch manylion cyswllt

  • manylion unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r busnes, neu a fydd yn gysylltiedig, gan gynnwys ei ID APPA

  • cyfeiriadau eich safleoedd, a chyfeiriad gohebu, os yw’n wahanol

  • eich statws busnes presennol — er enghraifft, a ydych yn gweithredu fel unig fasnachwr, mewn partneriaeth neu fel cwmni cyfyngedig

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

  • beth yw categorïau y cynhyrchion alcoholaidd y byddwch yn eu cynhyrchu ar y safle

  • y dyddiad y byddwch yn dechrau cynhyrchu

  • beth yw categorïau unrhyw gynhyrchion alcoholaidd yr ydych yn cynllunio mewnforio neu allforio

  • manylion unrhyw gynhyrchion alcoholaidd rydych yn eu hanfon at, neu’n eu cael gan fusnesau cymeradwy eraill neu warysau tollau, gan gynnwys y rhifau cymeradwyo a neilltuir i’r person cymeradwy hwnnw neu’r warws tollau

Os yw swyddog neu cyflogai’n gwneud y cais ar ran eich busnes, bydd angen iddo roi ei enw, rôl yn y busnes a manylion cyswllt.

Bydd angen i chi roi amcangyfrif i ni o faint o alcohol y byddwch yn ei gynhyrchu yn y flwyddyn galendr rydych yn gwneud cais. Mae’n rhaid i chi wneud nodyn yn eich cofnodion busnes o sut rydych wedi gwneud yr amcangyfrif hwn.

Bydd hefyd angen i chi roi cynllun o’ch safle i ni. Mae’n rhaid i hwn ddangos lleoliad a disgrifiad o’r holl gyfarpar y byddwch yn eu defnyddio i gynhyrchu ac i gadw cynhyrchion alcoholaidd. Mae’n rhaid i’r cynllun fod:

  • o faint A4 neu lai
  • mewn du a gwyn
  • â mannau y gohiriwyd tollau arnynt wedi’u harlliwio
  • ag allanfeydd tân sydd wedi’u marcio’n glir mewn coch

Pan fyddwch yn gwneud cais, dylech roi gwybod i ni am yr holl gynhyrchion, gweithgareddau ac adeiladau alcoholaidd y mae angen cymeradwyaeth arnoch ar eu cyfer. Os ydych yn mynd i gynhyrchu mwy nag un cynnyrch alcoholaidd, neu’n cynhyrchu mewn mwy nag un safle, cynhwyswch y manylion hyn yn eich cais.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn gwirio’ch cais ac yn cynnal gwiriadau cefndir. Gallai hyn gynnwys:

  • gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi yn gyflawn ac yn gywir

  • gwneud yn siŵr eich bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau treth

  • cysylltu ag adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth

  • cysylltu ag asiantaethau gwirio credyd

  • gwiriad cofnodion troseddol

  • gwiriad â Thŷ’r Cwmnïau

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ymweld â’ch safle i edrych ar eich gweithgareddau masnachu. Yn ystod yr ymweliad byddwn yn gofyn am fanylion ynghylch y canlynol:

  • eich cyflenwyr

  • eich cwsmeriaid

  • eich cynllun busnes

  • cyfrifyddu a systemau rheoli stoc

  • eich safle

  • eich hyfywedd ariannol

Tynnu eich cais yn ôl

Os nad oes angen APPA arnoch mwyach, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni yn ysgrifenedig i dynnu’ch cais yn ôl drwy’r canlynol:

Ni allwch dynnu’ch cais yn ôl os byddwn eisoes wedi’i gymeradwyo.

Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais

Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais, byddwn yn rhoi eich ID APPA i chi. Mae hwn yn 15 digid. Cyn gynted ag y byddwch yn cael hyn dylech mynediad at y gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol.

Os byddwn yn gwrthod eich cais

Os byddwn yn canfod bod yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi yn anwir neu’n anghyflawn, gallwn wrthod eich cais. Os byddwch wedi ein camarwain yn fwriadol, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Os byddwn yn gwrthod eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam.

Os byddwn yn gwrthod eich cais, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i ni adolygu’n penderfyniad

  • apelio ar dribiwnlys annibynnol

Gwneud newidiadau i’ch APPA

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch cynhyrchiad. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu:

  • cynhyrchu categori newydd o gynhyrchion alcoholaidd
  • defnyddio safle newydd i gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd
  • dod â chynhyrchu i ben

Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau:

Darllenwch ragor am wneud newidiadau i’ch APPA i adran 4 o’r canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydym yn newid neu’n dirymu’ch cymeradwyaeth

Mae’n rhaid i chi ddilyn yr amodau sydd wedi’u nodi yn y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg). Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn newid amodau’ch cymeradwyaeth, neu ei dirymu, ar unrhyw adeg.

Os ydym yn newid neu’n dirymu’ch cymeradwyaeth, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i ni adolygu’n penderfyniad

  • apelio ar dribiwnlys annibynnol

Gwneud cais ar-lein

I wneud cais, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a chyfrinair.

Dechrau nawr

Os na allwch wneud cais ar-lein

Cysylltwch ag ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis ar bapur i ofyn am ffurflen bapur, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiadur ar sail rhesymau crefyddol
  • ni allwch ddefnyddio cyfrifiaduron oherwydd eich oed, anabledd neu oherwydd nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd lle’r ydych yn byw

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch adran 4 y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu rhagor am y canlynol:

  • y broses gymeradwyo
  • gwneud newidiadau i’ch APPA

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mawrth 2025 show all updates
  1. The section 'When to apply' has been added. The section 'What you'll need' has been updated with new information. The section 'If you cannot apply online' has been added.

  2. A link to apply for alcoholic products producer approval (APPA) has been added to the section 'Apply online'.

  3. Information about what you'll need when you apply for an alcoholic products producer approval (APPA) has been updated. Contact details if you need to withdraw an application or make changes to your approval have been updated.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon