Canllawiau

Gwneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi’ch lleoli yn y DU

Dyma wybodaeth am sut i wneud cais am gymeradwyaeth i gael cyfrif gwasanaethau asiant, os yw eich busnes asiant wedi’i leoli y tu allan i’r DU.

Mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEM cyn i chi allu creu cyfrif gwasanaethau asiant:

  • os yw’ch busnes asiant wedi’i leoli y tu allan i’r DU
  • os ydych yn dymuno:
    • defnyddio gwasanaethau ar-lein newydd CThEM
    • defnyddio meddalwedd i gyfathrebu â CThEM ar ran eich cleientiaid

Bydd ceisiadau i gael mynediad at ein gwasanaeth yn cael eu mesur yn erbyn Safon CThEF ar gyfer asiantau.

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch busnes asiant yn cydymffurfio â chofrestriad Goruchwyliaeth Gwrth-wyngalchu Arian neu reoliadau tebyg yn eich gwlad
  • mae’r sawl sy’n gwneud cais yn gyfarwyddwr neu’n uwch swyddog y busnes

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw llawn
  • teitl swydd
  • enw masnachu’r busnes
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost
  • prif gyfeiriad masnachu, nid Blwch Post na chyfeiriad trydydd parti
  • manylion goruchwylio gwyngalchu arian, os yw’ch gwlad yn gofyn am hyn, gan gynnwys enw’r corff goruchwylio, eich rhif aelodaeth, a’r dyddiad y bydd angen i’ch aelodaeth gael ei hadnewyddu

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd hefyd angen llun neu sgan o’r canlynol arnoch:

  • tystiolaeth o’ch cyfeiriad masnachu, er enghraifft, cyfriflen banc neu fil cyfleustodau sydd wedi’i ddyddio yn ystod y 3 mis diwethaf
  • tystiolaeth bod eich busnes wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio gwyngalchu arian, megis llythyr oddi wrth eich corff goruchwylio sydd wedi’i ddyddio yn ystod y 12 mis diwethaf, os yw’ch gwlad yn gofyn am hyn
  • tystiolaeth eich bod wedi cofrestru ar gyfer treth, er enghraifft, llythyr oddi wrth awdurdod treth sydd wedi’i ddyddio yn ystod y 12 mis diwethaf

Efallai y bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • unrhyw godau asiant CThEM sydd gennych
  • eich rhif Yswiriant Gwladol yn y DU neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad, os oes gennych un
  • rhif cofrestru eich cwmni neu rif cyfatebol, os oes gennych un
  • unrhyw gyfeirnodau treth busnes sydd gennych yn eich gwlad eich hun

Sut i wneud cais

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Ni fydd modd i chi gadw’r hyn a wnewch yn ystod y broses felly gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth gennych cyn i chi ddechrau’ch cais.

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Dechrau nawr

Hefyd, gallwch weld beth yw hynt eich cais.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEM yn rhoi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod os yw eich cais wedi’i gymeradwyo, a beth fydd angen i chi ei wneud i greu’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd angen i chi orffen creu eich cyfrif gwasanaethau asiant cyn i chi allu ei ddefnyddio i weithredu ar ran eich cleientiaid.

Os caiff eich cais ei wrthod, byddwn yn rhoi’r rheswm dros hynny i chi.

Cyhoeddwyd ar 12 February 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 February 2024 + show all updates
  1. Your application to access our services will be measured against HMRC Standard for Agents.

  2. Added translation

  3. More information on what you will need when you apply for an agent services account has been added to the guidance.

  4. If HMRC approve your application for an agent services account, you’ll need to finish setting it up before you can use it to act on behalf of your clients.

  5. First published.