Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2021
Cyhoeddwyd 24 Mawrth 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £178,907
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 9.6%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 131.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2021 am 9.30am ddydd Mercher 21 Ebrill 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau tai gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, yn ddigyfnewid er Rhagfyr 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 7.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021, gyda gostyngiad o 1.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.4% yng Nghymru, o 4,046 i 3,585. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.1% o 87,766 i 82,412 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Ionawr 2021 o’i gymharu ag Ionawr 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mhowys, gan godi 16.0% i £219,000 yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021. Mewn cyferbyniad, dangosodd Blaenau Gwent y twf arafaf yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, ar 2.2%, gyda phrisiau tai cyfartalog yn £93,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 11.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 i £275,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 4.3% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 i £120,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, yn ddigyfnewid er Rhagfyr 2020.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Ionawr 2021 | Ionawr 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £167,621 | £152,360 | 10% |
Blaenau Gwent | £92,888 | £90,884 | 2.2% |
Bro Morgannwg | £255,353 | £229,065 | 11.5% |
Caerdydd | £224,555 | £213,409 | 5.2% |
Caerffili | £149,358 | £141,484 | 5.6% |
Casnewydd | £199,843 | £187,940 | 6.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £135,134 | £123,757 | 9.2% |
Ceredigion | £200,147 | £184,545 | 8.5% |
Conwy | £188,111 | £171,569 | 9.6% |
Gwynedd | £175,287 | £160,893 | 8.9% |
Merthyr Tudful | £120,842 | £111,911 | 8% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £167,325 | £156,840 | 6.7% |
Powys | £218,959 | £188,772 | 16% |
Rhondda Cynon Taf | £126,752 | £116,090 | 9.2% |
Sir Benfro | £205,988 | £178,182 | 15.6% |
Sir Ddinbych | £174,724 | £161,290 | 8.3% |
Sir Fynwy | £307,041 | £275,831 | 11.3% |
Sir y Fflint | £192,791 | £177,425 | 8.7% |
Sir Gaerfyrddin | £162,338 | £153,222 | 5.9% |
Tor-faen | £161,950 | £149,412 | 8.4% |
Wrecsam | £170,972 | £154,094 | 11% |
Ynys Môn | £202,050 | £181,105 | 11.6% |
Cymru | £178,907 | £163,205 | 9.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ionawr 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £307,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £93,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Ionawr 2021 | Ionawr 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £274,858 | £246,545 | 11.5% |
Tŷ pâr | £175,235 | £158,726 | 10.4% |
Tŷ teras | £136,474 | £125,708 | 8.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £119,527 | £114,648 | 4.3% |
Holl | £178,907 | £163,205 | 9.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2020 | Tachwedd 2019 |
---|---|---|
Abertawe | 246 | 290 |
Blaenau Gwent | 48 | 78 |
Bro Morgannwg | 208 | 281 |
Caerdydd | 328 | 468 |
Caerffili | 191 | 235 |
Casnewydd | 172 | 242 |
Castell-nedd Port Talbot | 141 | 191 |
Ceredigion | 90 | 76 |
Conwy | 193 | 216 |
Gwynedd | 158 | 175 |
Merthyr Tudful | 63 | 86 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 168 | 258 |
Powys | 144 | 179 |
Rhondda Cynon Taf | 268 | 345 |
Sir Benfro | 142 | 181 |
Sir Ddinbych | 97 | 141 |
Sir Gaerfyrddin | 256 | 263 |
Sir Fynwy | 112 | 143 |
Sir y Fflint | 203 | 228 |
Tor-faen | 104 | 136 |
Wrecsam | 155 | 169 |
Ynys Môn | 98 | 113 |
Cymru | 3,585 | 4,494 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.4% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 0.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Tachwedd 2016 | 4,084 |
Tachwedd 2017 | 4,474 |
Tachwedd 2018 | 5,057 |
Tachwedd 2019 | 4,494 |
Tachwedd 2020 | 3,585 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Tachwedd 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £231,907 | -0.6% | 7.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £176,674 | 1.6% | 6.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ionawr 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £153,083 | -2.5% | 8.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £209,604 | -1.2% | 10.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ionawr 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £174,027 | -2.0% | 10.3% |
Morgais | £181,854 | -1.8% | 9.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2020 |
---|---|
Cymru | 24 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317