Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024

Cyhoeddwyd 18 Rhagfyr 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2024

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £292,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.4%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 153.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2024 am 9.30am ddydd Mercher 15 Ionawr 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

Mae lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn deillio o gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 set gyfeirio o eiddo, a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu’r gyfres amser llawn. Gall y mathau o eiddo sy’n cael eu gwerthu newid dros amser, felly yn ein datganiad ar 19 Chwefror 2025, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ailgyfeirio i Ionawr 2023 fel y cyfnod sylfaen newydd. Bydd diweddaru’r set gyfeirio hon o eiddo yn sicrhau bod lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu’n well y math o eiddo sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd. Bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Bydd y gyfres lefel prisiau yn symud i fyny neu i lawr oherwydd ailgyfeirio, ond ni fydd cyfraddau chwyddiant yn newid, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yn Ansawdd a methodoleg CTEF.

2. Datganiad economaidd

3.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.8% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.

£292,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Hydref 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 yn Lloegr i £309,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £222,000 (4.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £197,000 (5.5%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.7% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.2% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Hydref 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ddarlleniad cadarnhaol yn eu cyfres galw gan brynwyr, gwerthiannau a gytunwyd a chyfarwyddiadau newydd. Adroddodd RICS hefyd ei fod yn disgwyl i bob rhan o’r DU weld cynnydd mewn prisiau tai yn y flwyddyn i ddod, wedi ei arwain gan dwf cadarn parhaus ar draws Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr -2024 Chwarter 3 fod y toriad diweddar yn y gyfradd Banc wedi arwain at y teimladau gwell yn y farchnad dai eilaidd. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi cael ei adlewyrchu eto yn y gwerthiannau neu’r prisiau a gytunwyd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Hydref 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 100,000. Mae hyn 21.0% yn uwch na 12 mis yn ôl (Hydref 2023). Rhwng Medi 2024 a Hydref 2024, cynyddodd trafodion y DU gan 9.5% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Hydref 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 68,300 yn Hydref 2024, y lefel uchaf er Awst 2022 (72,200).

3.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.8% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.

£292,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Hydref 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 yn Lloegr i £309,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £222,000 (4.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £197,000 (5.5%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

3.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.8% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.

£292,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Hydref 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 yn Lloegr i £309,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i £222,000 (4.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £197,000 (5.5%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £222,316 2.0% 4.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2024) £190,553 2.8% 6.2%
Lloegr £308,781 0.1% 3.0%
Yr Alban £197,451 0.2% 5.5%
De Ddwyrain Lloegr £381,566 -0.3% 1.7%
De Orllewin Lloegr £324,709 1.5% 2.7%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £250,605 0.9% 3.9%
Dwyrain Lloegr £344,434 0.7% 2.7%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £256,384 -0.3% 3.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £167,132 -1.6% 4.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £225,360 0.2% 4.4%
Llundain £519,579 -1.4% 0.2%
Swydd Gaerefrog a Humber £217,146 0.7% 4.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Hydref 2024 Hydref 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £443,974 £430,391 3.2%
Tŷ pâr £283,778 £273,494 3.8%
Tŷ teras £242,411 £233,469 3.8%
Fflat neu fflat deulawr £238,304 £231,986 2.7%
Holl £292,059 £282,389 3.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae cyfanswm nifer y trafodion a nifer yr adeiladau newydd sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cynyddu’n ddiweddar. Mae Cofrestrfa Tir EF wedi prosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU yn y misoedd diwethaf, er bod nifer y trafodion ar gyfer cyfnodau hŷn a nifer yr adeiladau newydd yn parhau’n is na chyfartaleddau hanesyddol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghrynodeb Mynegai Prisiau Tai Cofrestrfa Tir EF.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd system gronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am rai misoedd yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, cyflwynwyd gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddodd Cofrestrfa Tir EF brosesu Mynegai Prisiau Tai y DU, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu yn y misoedd nesaf.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Hydref 2024 yn seiliedig ar tua 41,700 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,200 ar gyfer yr Alban, a 2,100 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 47% o amcangyfrif gwerthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Hydref 2024, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.

Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad Ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygio, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Awst 2024 Awst 2023
Lloegr 41,726 59,192
Gogledd Iwerddon 1,991 1,998
Yr Alban 9,791 8,415
Cymru 2,399 3,135

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2023 â’r amcangyfrif dros dro nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 8.0% yn Lloegr, cynyddodd gan 18.5% yn yr Alban, a lleihaodd gan 5.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 8.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2024.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Awst 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 9.9% yn Lloegr, gan 18.6% yn yr Alban, gan 11.7% yng Nghymru a chan 11.9% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Awst

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 3.6%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF yn y DU wedi cynyddu gan 10.8% yn y 12 mis hyd at Awst 2024.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2024 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £441,118 6.1% 28.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £286,523 0.7% 1.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £245,419 0.3% 3.7%
Cyn berchen-feddiannydd £337,070 0.1% 2.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Hydref 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £276,432 0.3% 2.9%
Morgais £303,922 0.2% 3.5%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991