Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2024
Cyhoeddwyd 18 Rhagfyr 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £222,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 163.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2024 am 9.30am ddydd Mercher 15 Ionawr 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.0% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, i £222,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 0.9% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 3.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Hydref 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 1.0% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.1% rhwng Medi 2024 a Hydref 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 5.0% yng Nghymru a lleihaodd gan 3.6% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 16 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Hydref 2024. Pen-y-bont ar Ogwr welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 10.8% i £227,000 yn y 12 mis hyd at Hydref 2024. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 5.1% i £202,000 yn y 12 mis hyd at Hydref 2024.
Yng Nghymru, fflatiau a fflatiau deulawr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 6.2% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, i’r pris cyfartalog o £149,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan gynyddu 2.5% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024, i’r pris cyfartalog o £328,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 4.0% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 0.9% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Yn Hydref 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £341,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £139,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 4.0% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 0.9% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Hydref 2024 | Hydref 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £206,269 | £200,245 | 3% |
Blaenau Gwent | £139,435 | £126,120 | 10.6% |
Bro Morgannwg | £300,519 | £287,981 | 4.4% |
Caerdydd | £281,107 | £264,851 | 6.1% |
Caerffili | £196,976 | £189,022 | 4.2% |
Casnewydd | £237,213 | £231,283 | 2.6% |
Castell-nedd Port Talbot | £165,513 | £167,301 | -1.1% |
Ceredigion | £251,559 | £255,780 | -1.7% |
Conwy | £222,009 | £221,553 | 0.2% |
Gwynedd | £201,861 | £212,604 | -5.1% |
Merthyr Tudful | £155,236 | £150,106 | 3.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £227,362 | £205,205 | 10.8% |
Powys | £250,612 | £245,891 | 1.9% |
Rhondda Cynon Taf | £162,669 | £156,966 | 3.6% |
Sir Benfro | £240,211 | £237,818 | 1% |
Sir Ddinbych | £207,137 | £197,506 | 4.9% |
Sir Fynwy | £341,156 | £341,987 | -0.2% |
Sir y Fflint | £212,055 | £217,933 | -2.7% |
Sir Gaerfyrddin | £206,669 | £202,558 | 2% |
Torfaen | £191,429 | £186,491 | 2.6% |
Wrecsam | £208,604 | £204,822 | 1.8% |
Ynys Môn | £238,389 | £245,782 | -3% |
Cymru | £222,316 | £213,842 | 4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Hydref 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £341,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £139,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Hydref 2024 | Hydref 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £327,991 | £319,932 | 2.5% |
Tŷ pâr | £216,109 | £208,537 | 3.6% |
Tŷ teras | £176,306 | £168,331 | 4.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £148,698 | £140,045 | 6.2% |
Holl | £222,316 | £213,842 | 4.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Awst 2024 | Awst 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 183 | 255 |
Blaenau Gwent | 48 | 59 |
Bro Morgannwg | 117 | 133 |
Caerdydd | 275 | 324 |
Caerffili | 128 | 171 |
Casnewydd | 114 | 170 |
Castell-nedd Port Talbot | 115 | 145 |
Ceredigion | 47 | 79 |
Conwy | 117 | 149 |
Gwynedd | 109 | 123 |
Merthyr Tudful | 40 | 53 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 132 | 162 |
Powys | 103 | 142 |
Rhondda Cynon Taf | 153 | 225 |
Sir Benfro | 102 | 127 |
Sir Ddinbych | 77 | 109 |
Sir Gaerfyrddin | 148 | 193 |
Sir Fynwy | 73 | 84 |
Sir y Fflint | 124 | 149 |
Torfaen | 47 | 94 |
Wrecsam | 103 | 118 |
Ynys Môn | 44 | 71 |
Cymru | 2,399 | 3,135 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 5.0% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Awst 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 11.7% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Awst 2020 | 2,525 |
Awst 2021 | 4,304 |
Awst 2022 | 4,237 |
Awst 2023 | 3,135 |
Awst 2024 | 2,399 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Awst 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £360,637 | 7.8% | 31.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £216,696 | 1.3% | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Hydref 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £193,455 | 2.2% | 4.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £255,444 | 1.8% | 3.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Hydref 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £215,608 | 2.1% | 3.9% |
Morgais | £226,298 | 2.0% | 4.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2024 |
---|---|
Cymru | 2 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288