Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2023
Cyhoeddwyd 17 Ionawr 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £212,866
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.4%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2023 am 9.30am ddydd Mercher 14 Chwefror 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.4% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 3.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Hydref 2023 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 2.1% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 20.2% yng Nghymru a lleihaodd gan 24.2% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 6 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 2.2% i £264,000 yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 12.1% i £135,000 yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.
Yng Nghymru, dangosodd fflatiau a fflatiau deulawr y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan ostwng 0.5% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023 i £135,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan ostwng 4.0% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023, i’r pris cyfartalog o £165,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 2.4% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 3.3% yn y 12 mis hyd at Hydref 2023 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2023 | Tachwedd 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £194,705 | £198,264 | -1.8% |
Blaenau Gwent | £122,650 | £134,043 | -8.5% |
Bro Morgannwg | £308,855 | £309,991 | -0.4% |
Caerdydd | £268,479 | £265,492 | 1.1% |
Caerffili | £196,337 | £192,307 | 2.1% |
Casnewydd | £226,301 | £235,949 | -4.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £163,216 | £168,312 | -3% |
Ceredigion | £264,207 | £258,628 | 2.2% |
Conwy | £215,034 | £215,425 | -0.2% |
Gwynedd | £213,845 | £216,522 | -1.2% |
Merthyr Tudful | £135,214 | £153,806 | -12.1% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £200,187 | £213,605 | -6.3% |
Powys | £237,282 | £259,253 | -8.5% |
Rhondda Cynon Taf | £154,721 | £162,101 | -4.6% |
Sir Benfro | £241,560 | £237,875 | 1.5% |
Sir Ddinbych | £193,600 | £205,169 | -5.6% |
Sir Fynwy | £357,868 | £350,698 | 2% |
Sir y Fflint | £218,270 | £217,946 | 0.1% |
Sir Gaerfyrddin | £203,527 | £213,033 | -4.5% |
Torfaen | £181,658 | £201,799 | -10% |
Wrecsam | £199,929 | £208,755 | -4.2% |
Ynys Môn | £238,450 | £244,151 | -2.3% |
Cymru | £212,866 | £218,135 | -2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Nhachwedd 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £358,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £123,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Tachwedd 2023 | Tachwedd 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £328,448 | £332,916 | -1.3% |
Tŷ pâr | £207,264 | £211,483 | -2.0% |
Tŷ teras | £164,617 | £171,442 | -4.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £135,231 | £135,867 | -0.5% |
Holl | £212,866 | £218,135 | -2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Medi 2023 | Medi 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 163 | 272 |
Blaenau Gwent | 52 | 103 |
Bro Morgannwg | 100 | 151 |
Caerdydd | 250 | 445 |
Caerffili | 115 | 223 |
Casnewydd | 144 | 196 |
Castell-nedd Port Talbot | 112 | 180 |
Ceredigion | 48 | 81 |
Conwy | 106 | 169 |
Gwynedd | 108 | 133 |
Merthyr Tudful | 36 | 70 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 127 | 194 |
Powys | 85 | 142 |
Rhondda Cynon Taf | 215 | 275 |
Sir Benfro | 99 | 146 |
Sir Ddinbych | 86 | 132 |
Sir Gaerfyrddin | 136 | 215 |
Sir Fynwy | 59 | 116 |
Sir y Fflint | 122 | 179 |
Torfaen | 50 | 103 |
Wrecsam | 84 | 132 |
Ynys Môn | 46 | 81 |
Cymru | 2,343 | 3,738 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 20.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 15.6% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Fedi 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Medi 2019 | 3,923 |
Medi 2020 | 2,859 |
Medi 2021 | 4,281 |
Medi 2022 | 3,738 |
Medi 2023 | 2,343 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £321,729 | -5.3% | 8.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £210,256 | -0.3% | -2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £182,994 | -0.3% | -2.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | £248,199 | -0.4% | -2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Tachwedd 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £205,991 | 0.0% | -2.1% |
Morgais | £216,870 | -0.5% | -2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2023 |
---|---|
Cymru | 12 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288