Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2024
Cyhoeddwyd 18 Medi 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £218,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 160.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2024 am 9.30am ddydd Mercher 16 Hydref 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024, i £218,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 2.1% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.1% rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024, o’i gymharu â chynnydd o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Mehefin 2024 a Gorffennaf 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.4% yng Nghymru a lleihaodd gan 2.2% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 14 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024. Sir Fynwy welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 10.0% i £363,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 3.8% i £196,000 yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024.
Yng Nghymru, tai pâr a fflatiau a fflatiau deulawr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf ar y cyd o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 2.4% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024, i’r pris cyfartalog o £213,000 a £144,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan gynyddu 1.2% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024, i’r pris cyfartalog o £324,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.0% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 2.1% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2024 | Gorffennaf 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £200,681 | £193,689 | 3.6% |
Blaenau Gwent | £131,157 | £127,159 | 3.1% |
Bro Morgannwg | £292,562 | £297,038 | -1.5% |
Caerdydd | £272,349 | £262,834 | 3.6% |
Caerffili | £191,369 | £184,021 | 4% |
Casnewydd | £234,556 | £235,443 | -0.4% |
Castell-nedd Port Talbot | £174,656 | £168,902 | 3.4% |
Ceredigion | £239,281 | £243,913 | -1.9% |
Conwy | £222,203 | £217,428 | 2.2% |
Gwynedd | £195,524 | £203,178 | -3.8% |
Merthyr Tudful | £151,658 | £155,426 | -2.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £214,671 | £204,899 | 4.8% |
Powys | £233,809 | £235,047 | -0.5% |
Rhondda Cynon Taf | £159,914 | £158,103 | 1.1% |
Sir Benfro | £233,745 | £224,452 | 4.1% |
Sir Ddinbych | £202,794 | £197,709 | 2.6% |
Sir Fynwy | £362,793 | £329,861 | 10% |
Sir y Fflint | £222,594 | £212,470 | 4.8% |
Sir Gaerfyrddin | £196,773 | £198,547 | -0.9% |
Torfaen | £187,784 | £191,283 | -1.8% |
Wrecsam | £201,514 | £200,499 | 0.5% |
Ynys Môn | £228,165 | £226,330 | 0.8% |
Cymru | £218,184 | £213,993 | 2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £363,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £131,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Gorffennaf 2024 | Gorffennaf 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £323,774 | £319,935 | 1.2% |
Tŷ pâr | £212,964 | £207,972 | 2.4% |
Tŷ teras | £172,392 | £169,010 | 2.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £143,515 | £140,129 | 2.4% |
Holl | £218,184 | £213,993 | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Mai 2024 | Mai 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 137 | 160 |
Blaenau Gwent | 32 | 47 |
Bro Morgannwg | 72 | 107 |
Caerdydd | 201 | 262 |
Caerffili | 99 | 134 |
Casnewydd | 85 | 124 |
Castell-nedd Port Talbot | 78 | 137 |
Ceredigion | 36 | 59 |
Conwy | 78 | 96 |
Gwynedd | 81 | 105 |
Merthyr Tudful | 33 | 31 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 77 | 129 |
Powys | 76 | 107 |
Rhondda Cynon Taf | 132 | 212 |
Sir Benfro | 61 | 115 |
Sir Ddinbych | 68 | 75 |
Sir Gaerfyrddin | 102 | 156 |
Sir Fynwy | 57 | 110 |
Sir y Fflint | 77 | 150 |
Torfaen | 30 | 68 |
Wrecsam | 56 | 72 |
Ynys Môn | 47 | 59 |
Cymru | 1,715 | 2,515 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2024, lleihaodd gan 10.4% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Mai 2024, fod nifer y trafodion CThEF wedi cynyddu gan 19.2% yng Ngogledd Iwerddon.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mai 2020 | 1,576 |
Mai 2021 | 4,027 |
Mai 2022 | 3,813 |
Mai 2023 | 2,515 |
Mai 2024 | 1,715 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £337,412 | 8.1% | 23.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £209,732 | 0.6% | 0.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Gorffennaf 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £189,571 | 1.1% | 2.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £251,157 | 1.0% | 1.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Gorffennaf 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £210,692 | 1.1% | 1.5% |
Morgais | £222,571 | 1.1% | 2.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2024 |
---|---|
Cymru | 4 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288