Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2022

Cyhoeddwyd 14 September 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £292,118

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 15.5%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.0%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 153.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2022 am 9.30am dydd Mercher 19 Hydref 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 15.5% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, i fyny o 7.8% ym Mehefin 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.0% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2022, i fyny o ostyngiad o 4.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin a Gorffennaf 2021).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Ne Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 20.7% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 9.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Gorffennaf 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd yn parhau i leihau’n raddol a bod lefelau stoc yn dal i fod yn agos at y lefel isaf erioed.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 2 fod cynnydd cymedrol yn yr eiddo sydd ar gael i’w gwerthu ar draws y DU a bod chwyddiant prisiau tai yn dechrau cymedroli mewn rhai ardaloedd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Gorffennaf 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 104,470. Mae hyn 36.7% yn uwch na flwyddyn yn ôl (Gorffennaf 2021). Rhwng Mehefin a Gorffennaf 2022, lleihaodd trafodion gan 3.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu ychydig i 63,800 yng Ngorffennaf 2022, o 63,200 ym Mehefin 2022. Mae hyn yn parhau’n is na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,800.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 15.5% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, i fyny o 7.8% ym Mehefin 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 17.6%.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 16.4% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 9.9% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 9.6% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2022.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £219,951 2.8% 17.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2022) £169,063 3.2% 9.6%
Lloegr £311,583 2.2% 16.4%
Yr Alban £192,966 0.6% 9.9%
De Ddwyrain Lloegr £398,781 2.1% 15.8%
De Orllewin Lloegr £330,414 2.7% 20.7%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £247,740 0.6% 16.8%
Dwyrain Lloegr £358,413 1.2% 16.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £255,876 3.8% 18.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £163,237 3.7% 15.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £217,077 2.5% 18.1%
Llundain £543,517 1.1% 9.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £211,960 3.1% 17.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.0% rhwng Mehefin 2022 a Gorffennaf 2022, i fyny o ostyngiad o 4.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2021 a Gorffennaf 2021).

Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Mehefin 2022 a Gorffennaf 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2022 Gorffennaf 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £457,552 £390,180 17.3%
Tŷ pâr £283,077 £242,338 16.8%
Tŷ teras £239,906 £205,875 16.5%
Fflat neu fflat deulawr £234,000 £214,175 9.3%
Holl £292,118 £252,961 15.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mai 2022 Mai 2021
Lloegr 39,973 63,470
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2022) 1,933 2,652
Yr Alban 8,325 8,752
Cymru 2,331 3,644

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 49.5% yn Lloegr, lleihaodd gan 0.6% yn yr Alban a chynyddodd gan 48.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 3.3% yn Lloegr, 9.0% yng Ngogledd Iwerddon, 4.0% yng Nghymru ac wedi lleihau gan 1.0% yn yr Alban.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2018 i 2022 yn ôl gwlad: Mai

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2022, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 34.5% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 3.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £379,709 2.1% 22.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £276,627 1.2% 11.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £243,705 1.8% 15.1%
Cyn berchen-feddiannydd £342,250 2.2% 16.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £277,007 2.2% 15.4%
Morgais £305,102 2.0% 15.9%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915