Beth fydd yn digwydd os gwneir cwyn ffurfiol yn eich erbyn fel prynwr
Diweddarwyd 28 Chwefror 2025
Os bydd y dyfarnwr yn cael cwyn amdanoch chi y mae’n bwriadu ymchwilio iddi, bydd swyddog trin achosion yn cysylltu â chi i roi gwybod am y gŵyn. Bydd hyn yn cynnwys manylion y gŵyn, yn gofyn am eich ymateb i’r honiadau a wnaed yn y gŵyn ac yn nodi’r dyddiad erbyn pryd y mae angen eich ymateb. Y sawl sy’n delio â’r achos fydd eich prif bwynt cyswllt yn ystod yr ymchwiliad i’r gŵyn.
Ar ôl i chi roi eich ymateb cychwynnol i’r honiadau, bydd y dyfarnwr yn asesu eich ymateb ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen rhagor o fanylion arnom ar gyfer yr ymchwiliad.
Mae’r mathau o dystiolaeth y gallwn ofyn amdanynt yn cynnwys:
- dogfennau, gan gynnwys y rheini mewn fformat digidol
- tystiolaeth gan dyst, boed hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig neu ar lafar
- unrhyw dystiolaeth arall y mae’r ASCA yn ei hystyried yn berthnasol i’r gŵyn
Bydd ein cais am dystiolaeth yn ysgrifenedig a bydd yn cynnwys:
- datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan baragraff (7)(b)
- manylion y sawl y gofynnir am y dystiolaeth ganddo
- pa dystiolaeth y gofynnir amdani
- sut i gyflwyno’r dystiolaeth
- ble i gyflwyno’r dystiolaeth
- erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid cyflwyno’r dystiolaeth
Os byddwn yn gofyn am dystiolaeth gennych chi, gall y dyfarnwr ddechrau achos cyfreithiol i’w gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno’r wybodaeth. Gall methu â chyflwyno’r dystiolaeth y gofynnwyd amdani hefyd arwain y dyfarnwr i ddod i gasgliad anffafriol yn erbyn yr unigolyn ynghylch y gŵyn.
Wrth ymchwilio i gŵyn berthnasol, caiff y dyfarnwr hefyd ystyried methiannau eraill i gydymffurfio â’r rheoliadau nad oeddent yn rhan o’r gŵyn honno.
Mae’n bosibl y byddwn yn ymgynghori â thrydydd partïon, fel cyfreithwyr arbenigol, a Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd fel rhan o’r broses gwyno. Os yw eich busnes y tu allan i’r DU, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am fewnbwn gan yr awdurdodau yn eich awdurdodaeth yn ystod eich cwyn.
Ar ôl ymchwilio i’r gŵyn, bydd y dyfarnwr yn penderfynu a dorrwyd y rheoliadau ai peidio.