Canllawiau

Cynlluniwr Addasiadau: Cefnogi Myfyrwyr a Graddedigion i gynllunio ar gyfer y dyfodol

Cyhoeddwyd 15 November 2023

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Cyflwyniad

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu ofynion ychwanegol sy’n golygu bod angen addasiadau arnoch, i helpu sicrhau bod eich addasiadau wedi’u dogfennu dylech ystyried cwblhau Cynlluniwr Addasiadau.

Gallai Cynlluniwr Addasiadau fod yn arf defnyddiol i’ch cefnogi i symud ymlaen mewn addysg uwch, dechrau gweithio yn ystod y tymor neu symud i gyflogaeth drwy eich galluogi i gynllunio’ch dyfodol.

Gall y Cynlluniwr Addasiadau eich cefnogi drwy wneud fel a ganlyn:

  • Eich galluogi i nodi unrhyw gymorth neu drefniadau ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch tra byddwch yn fyfyriwr neu yn y gweithle
  • Codi ymwybyddiaeth o gymorth mewn addysg, gan gynnwys y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
  • Cefnogi cais Mynediad i Waith am gymorth ychwanegol

Mae Mynediad i Waith yn grant gan y llywodraeth sydd ar gael i helpu i dalu costau cymorth yn y gweithle.  Gallai cymorth gan Fynediad i Waith gynnwys:

  • Cyllid ar gyfer cyfarpar arbenigol i’ch cefnogi i wneud eich swydd
  • Cymorth i fynd i’r gwaith ac oddi yno a/neu gymorth pan fyddwch yn y gwaith •
  • Gweithiwr cymorth neu gymorth hyfforddi swydd

Mae’r Cynlluniwr Addasiadau yn ddogfen gyfrinachol, bersonol sy’n perthyn i chi, ac ni ellir ei rhannu ag eraill heb eich caniatâd. Gall y cynlluniwr wneud y canlynol:

Eich paratoi ar gyfer cyfweliad trwy ddarparu strwythur i’ch cefnogi i gael sgyrsiau mwy hyderus gyda darpar gyflogwyr am eich gofynion gweithio, addasiadau a chymorth yn y gwaith, a’ch cefnogi i wneud cais am Fynediad i Waith trwy leihau’r angen am asesiad Mynediad i Waith.

Gellir defnyddio’r Cynlluniwr Addasiadau i’ch cefnogi tra byddwch yn fyfyriwr, yn gweithio yn ystod y tymor, yn hunangyflogedig, yn brentis, neu’n gwneud profiad gwaith.

Sut rydych yn cwblhau eich Cynlluniwr Addasiadau?

Gallwch gwblhau’r Cynlluniwr Addasiadau eich hun, neu ofyn am help i gwblhau’r cynlluniwr oddi wrth un o’r canlynol:

  • aelod o’ch teulu
  • rhywun sy’n eich adnabod yn dda
  • swyddog myfyrwyr anabl

Ar ôl ei gwblhau, gallwch ddiweddaru’r Cynlluniwr Addasiadau ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau yn eich gofynion neu’ch anghenion cymorth.

Y Cynlluniwr Addasiadau

Amdanoch chi

Enw:

Meddyliwch pa gymorth y gallech chi ei gael i’ch helpu i symud ymlaen tra byddwch yn fyfyriwr neu i’ch cefnogi i symud i gyflogaeth. Cwestiynau y gallech fod am eu hystyried:

  • A yw eich anabledd neu ofynion ychwanegol yn amrywio yn dibynnu ar y diwrnod, yr amser o’r dydd neu’r amgylchedd yr ydych ynddo?
  • Os ydy/ydynt, pa mor aml mae hyn yn digwydd a pha help ychwanegol fyddai ei angen arnoch pan fydd pethau ar eu mwyaf anodd?
  • A ydych chi wedi cael unrhyw gymorth ychwanegol o’r blaen, fel amser ychwanegol mewn arholiadau, neu mewn swydd flaenorol, megis hyfforddwr swydd, y gallech chi elwa ohono tra’ch bod chi’n fyfyriwr?
  • A oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd a allai elwa o addasiadau?

Er enghraifft – efallai y bydd angen desg eistedd/sefyll arnoch os oes angen i chi eistedd am gyfnod hir a bodd gennych broblem gyda’ch cefn.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, neu os ydych wedi cael cymorth yn y gorffennol y mae arnoch ei angen o hyd, pa gymorth neu addasiadau ychwanegol sydd eu hangen arnoch?

Y mathau o gymorth y gallai fod eu hangen arnoch

Teithio i’r gwaith

A fyddai angen cymorth arnoch chi, neu a oes angen cymorth arnoch chi, i gyrraedd y gwaith?

Gallai hyn gynnwys:

  • Tacsi
  • Newidiadau i gerbyd
  • Cyfaill teithio
  • Arall, ychwanegwch

Os ydych, pa gymorth byddai ei angen arnoch chi?

Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y math o swydd yr ydych yn gwneud cais amdani a’r lleoliad. Gall eich helpu i feddwl am y mathau o rolau a lleoliadau a fyddai’n fwyaf addas i chi.

Mynediad i addysg neu adeiladau gwaith

A oes gennych chi ofynion penodol ar gyfer y safle ffisegol neu’r amgylchedd yn eich man astudio / gweithle?

Gall y rhain fod yn addasiadau unigol i chi, neu efallai eu bod yn rhywbeth y mae eich man astudio neu gyflogwr eisoes yn ei ddarparu i bawb.

Gallai hyn gynnwys:

  • Parcio hygyrch
  • Toiledau hygyrch
  • Ramp neu lifft
  • Drysau llydan neu awtomatig
  • Ardal dawel i fod eich prif fan gweithio
  • Desg wedi’i neilltuo’n barhaol mewn amgylchedd desg boeth
  • Addasiadau i oleuadau, e.e. i osgoi llacharedd, goleuadau is, neu oleuadau clir er mwyn eich galluogi i ddarllen gwefusau, er enghraifft.

Os oes, rhowch fanylion.

Cymorth cyfathrebu mewn addysg neu yn y gwaith

A oes angen cymorth neu addasiadau arnoch i siarad neu gyfarfod â phobl neu ar gyfer darllen, ysgrifennu, deall ac amsugno gwybodaeth neu ddilyn cyfarwyddiadau? Gallai addasiadau sy’n ymwneud â chyfathrebu gynnwys:

  • Amser prosesu ychwanegol, e.e. mewn cyfweliad neu brawf wedi’i amseru
  • Anogaeth i ddarparu mwy neu lai o wybodaeth
  • Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
  • Cymorth gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain neu siaradwyr gwefusau
  • Cymerwr cofnodion
  • Gwybodaeth mewn fformat gwahanol, e.e. sain, Braille, hawdd ei ddeall, print bras neu ar bapur lliw gwahanol

Rhaglenni TG arbenigol

Ydych chi wedi defnyddio unrhyw raglenni TG arbenigol o’r blaen? Os ydych, pa rai y gwnaethoch chi eu  defnyddio?

Gallai hyn gynnwys meddalwedd fel llais i destun neu destun i lais, meddalwedd chwyddo, neu wirwyr sillafu neu ramadeg fel y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

Jaws

Dragon

Zoom Text

Texthelp, Read & Write

A oes angen hyfforddiant arnoch i ddefnyddio’r cyfarpar/meddalwedd arbenigol?

Os nad ydych wedi defnyddio unrhyw raglenni TG arbenigol o’r blaen, a hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael a sut y gallai hyn eich cefnogi?

Os ydych, cysylltwch â Mynediad i Waith am gyngor – ewch i gov.uk/access-to-work neu ffoniwch 0800 121 7479.

Cyfarpar arbenigol ac ymdopi yn y gwaith

Ydych chi wedi defnyddio unrhyw cyfarpar arbenigol o’r blaen a oedd yn ddefnyddiol i chi? Os do, beth oedd hwn?

Gallai hyn gynnwys offer fel:

  • Caledwedd gyfrifiadurol arbenigol fel llygod, bysellfyrddau, padiau rhif neu fonitorau mawr,
  • Dodrefn arbenigol fel desgiau y gellir amrywio eu huchder, cadeiriau ergonomig, stoliau troed, a breichiau cadair
  • Chwyddwydrau, darllenwyr Braille neu gymhorthion clyw, a chadeiriau olwyn
  • Darllenydd Braille
  • Clustffonau dileu sŵn

Os nad ydych wedi defnyddio unrhyw offer arbenigol o’r blaen, a hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael a sut y gallai hyn eich cefnogi?

Os ydych, cysylltwch â Mynediad i Waith am gyngor – ewch i gov.uk/access-to-work neu ffoniwch 0800 121 7479.

Addasiadau i gyfarpar sydd gennych eisoes

Oes gennych chi gyfarpar arbenigol neu addasiadau ar hyn o bryd ac yn meddwl bod hyn yn eich helpu neu fod angen eu haddasu?

Os oes, rhowch fanylion.

Gallai hyn gynnwys:

  • Rheoli sensitifrwydd synhwyraidd
  • Goleuadau newidadwy
  • Mannau tawel

Cymorth tra byddwch yn y gwaith

Oes arnoch angen rhywun i’ch cefnogi wrth astudio neu yn y gwaith?

Os oes, pa fath o gymorth y mae’n ei ddarparu?

Gallai hyn gynnwys:

  • Eich helpu chi i ddysgu a chwblhau rhannau o’r swydd
  • Datblygu strategaethau ymdopi
  • Cyfarwyddiadau a phrosesau
  • Amser ychwanegol
  • Help i ddarllen neu weithio gyda chydweithwyr

Sefydliadau cefnogi

Efallai eich bod eisoes wedi cael cymorth gan elusen neu sefydliad, ac efallai eu bod eisoes wedi rhoi cyngor neu wedi nodi’r math o gyfarpar neu gymorth a allai eich cefnogi yn y gweithle.

Rhowch fanylion isod:

Argymhellion cymorth yn y gweithle

Cymhorthion a chyfarpar arbenigol

Cymorth Cyflenwr Cost (gan gynnwys TAW)
    £
    £
    £
    £
    £

Gwneud cais am gymorth

Os oes angen cymorth arnoch wrth astudio, siaradwch â’r tîm cymorth i fyfyrwyr, a all roi cyngor i chi am y cymorth y gallant ei ddarparu neu roi cyngor ar sut y gallwch wneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.

Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yw cymorth i dalu’r costau sydd gennych sy’n gysylltiedig ag astudio oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall.

Lloegr: https://www.gov.uk/disabled-students-allowance-dsa

Yr Alban: https://www.saas.gov.uk/guides/dsa

Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/beth-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl/

Mynediad i Waith

Cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd

Ydych chi wedi bod yn llwyddiannus yn cael cyfweliad swydd ac angen help i gyfathrebu?

Os ydych, gallwch wneud cais i Fynediad i Waith drwy fynd i https://www.gov.uk/guidance/apply-for-communication-support-at-a-job-interview-if-you-have-a-disability-or-health-condition-access-to-work.cy

Os oes angen cymorth arnoch i gael swydd ran-amser neu symud i gyflogaeth, gallwch gysylltu â Mynediad i Waith am gyngor neu wneud cais am gymorth.

(Cofiwch y gall swydd neu waith gynnwys hunangyflogaeth, prentisiaeth, profiad gwaith neu interniaeth â chymorth.)

Gallwch wneud cais am Fynediad i Waith yn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Sylwer: Gall rhywun eich cefnogi gyda’ch cais.

Cofnod o’ch ceisiadau Mynediad i Waith

Dyddiad cyflwyno’r cais:

Dyddiad cwblhau’r cais:

Oedd eich cais yn llwyddiannus?

Sylwer: Nid yw’r Cynlluniwr Addasiadau yn gwarantu dyfarniad Mynediad i Waith. Mae gwybodaeth ychwanegol am Fynediad i Waith ar gael yn:

Taflen ffeithiau Mynediad i Waith: www.gov.uk/government/publications/access-to-work-factsheet/access-to-work-factsheet-for-customers

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol, y dylid ei storio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Beth yw addasiad yn y gweithle?

Mae addasiadau yn y gweithle yn aml yn newidiadau syml sy’n gwaredu rhwystrau i bobl anabl ac yn eu galluogi i ffynnu yn y gwaith. Gall addasiadau gynnwys addasiadau i “gyfarpar” neu dechnoleg, fel meddalwedd gynorthwyol neu gyfarpar ergonomig, addasiadau “meddal” fel patrymau gwaith gwahanol neu le tawel i eistedd mewn swyddfa, ac addasiadau “dynol” fel gweithiwr cymorth neu ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Gelwir addasiadau yn y gweithle yn “addasiadau rhesymol” o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud bod gan gyflogwr ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol os yw’n gwybod bod eu hangen ar weithiwr anabl neu os oes “disgwyliad rhesymol” y byddai’n gwybod hynny.

Mae’r gair “rhesymol” yn bwysig ac mae profion cyfreithiol i benderfynu a yw addasiad yn rhesymol ai peidio. Nid yw pob addasiad yn rhesymol ar gyfer pob swydd neu ym mhob gweithle neu broffesiwn, ond mae llawer ohonynt yn rhesymol.

Nodyn defnyddiol – Wrth wneud cais am waith, dylid gofyn i chi a oes angen unrhyw addasiadau arnoch ar bob cam o’r broses recriwtio. Ni chaniateir i gyflogwyr ofyn i chi am anabledd neu gyflyrau iechyd yn ystod proses recriwtio neu gyfweld felly siaradwch yn unig am yr addasiadau sydd eu hangen arnoch, nid eich anabledd.

Rhestr y Swyddfa Ystadegau Gwladol o alwedigaethau safonol:

Math o gyflogaeth (gellir gweld rhestr o alwedigaethau yn:

www.ons.gov.uk/methodology/classificationsandstandards/standardoccupational

Rhestrir y galwedigaethau o dan naw pennawd grŵp:

  1. Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion
  2. Galwedigaethau proffesiynol
  3. Galwedigaethau proffesiynol cysylltiol
  4. Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol
  5. Galwedigaethau crefftau medrus
  6. Galwedigaethau gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill
  7. Galwedigaethau gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid
  8. Gweithredwyr prosesau, cyfarpar a pheiriannau
  9. Galwedigaethau elfennol

tegorïau amhariadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cysylltiadau defnyddiol ar gyfer addasiadau rhesymol -