Gwybodaeth ar reoli’r euogfarnau a ddilëwyd: 13 Mawrth 2025
Diweddarwyd 24 Ebrill 2025
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y cynnydd a wnaed gan y Llywodraeth wrth ganfod euogfarnau a orfodwyd yng Nghymru a Lloegr a gafodd eu dileu gan Ddeddf Troseddau Swyddfa’r Post (System Horizon) 2024 ar 24 Mai 2024.
Ym mis Chwefror 2024, bu i Swyddfa’r Post a Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) wneud y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol o fodolaeth 944 o gofnodion ar gyfer unigolion posibl a allai fod wedi’u cael yn euog oherwydd system gyfrifo ddiffygiol Horizon. O’r 944 yma, ni wnaeth 40 gynnwys digon o ddata i ni allu olrhain euogfarn yr unigolyn. Mae enghreifftiau o ddata annigonol yn cynnwys pan nad yw’r cofnodion yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis enw llawn neu ddyddiad geni.
Rydym wedi asesu 100% o’r 944 o gofnodion a gafwyd gan y Swyddfa’r Post a GEG ym mis Chwefror 2024 lle mae yna ddigon o ddata i olrhain unrhyw euogfarnau perthnasol.
Yn ogystal â’r cofnodion a gafwyd gan y Swyddfa’r Post a GEG ym mis Chwefror 2024, mae 58 o unigolion wedi nodi pwy ydynt drwy gysylltu a thîm gwaith achos euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu drwy wefan Cynllun Gwneud Iawn am Euogfarnau Horizon. Gan nad oes terfyn amser i unigolion nodi pwy ydynt, gall y rhif hwn gynyddu dros amser. O’r 58 o unigolion hyn, nid ydym wedi gallu olrhain cofnod ar gyfer euogfarn perthnasol i allu ystyried 8 unigolyn.
Hyd at 7 Mawrth mae yna 954 o achosion unigol, a gafwyd naill ai gan y Swyddfa’r Post a GEG ym mis Chwefror 2024 neu gan unigolion sydd wedi nodi pwy ydynt, sydd wedi cael eu hystyried neu sydd yn y broses o gael eu hystyried. Hyd at 7 Mawrth, rydym wedi asesu 99% o’r achosion unigol hyn.
Mae’r 1% o unigolion sy’n parhau i aros i gael eu hasesu o’r cyfanswm o 954 o achosion unigol i gyd yn unigolion sydd wedi nodi pwy ydynt ac nid oeddynt wedi’u cynnwys yn y cofnodion a gafwyd gan y Swyddfa’r Post a GEG ym mis Chwefror 2024. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth flaenorol gan y Swyddfa’r Post neu GEG am yr unigolion hyn, felly roedd rhaid i dîm gwaith achos Euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder gaffael data newydd o amryw o ffynonellau i’w galluogi i asesu p’un a oes ganddynt euogfarnau sydd yng nghwmpas y ddeddfwriaeth. Mae wedi cymryd mwy o amser i wneud hyn oherwydd faint o hir yn ôl y digwyddodd yr euogfarnau hyn. Rydym yn gweithio i gwblhau’r asesiadau sy’n weddill cyn gynted â phosibl.
Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth ar asesiadau a wnaed yn ogystal â llythyrau a anfonwyd, gan na fydd pob unigolyn yn cael llythyr. Eglurir hyn mewn rhagor o fanylder yn y nodiadau eglurhaol islaw’r tabl isod.
7 Chwefror 2025 i 7 Mawrth 2025 | Cyfanswm hyd yn hyn (Gorffennaf 2024* i 7 Mawrth 2025) | |
---|---|---|
Cyfanswm nifer yr unigolion yr aseswyd eu heuogfarnau (1) | 4 | 950 |
Nifer yr unigolion y nodwyd eu bod ag o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf. (2) | 5 | 594 |
Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (2a) | 8 | 565 |
Nifer yr unigolion a aseswyd ac yr ysgrifennwyd atynt (neu’r rhai hynny yr ysgrifennir atynt yn y man), i ofyn am ragor o wybodaeth i helpu i ganfod a yw eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf. (3) | -4 | 185 |
Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (3a) | 8 | 158 |
Nifer yr unigolion a gadarnhawyd nad oes ganddynt euogfarnau wedi’u dileu gan y Ddeddf. (4) | 3 | 171 |
Unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf ac/neu unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a) | 0 | 25 |
Unigolion sydd ond ag euogfarnau ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (4b) | 0 | 0 |
Unigolion sydd ag euogfarnau ar wahân i’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr (4c) | 3 | 19 |
Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u hystyried gan y Llys Apêl (4d) | 0 | 19 |
Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u dileu gan y llysoedd (4e) | 0 | 101 |
Unigolion y’u cafwyd yn ddieuog am y trosedd(au) sy’n cael eu hystyried (4f) | 0 | 7 |
Cyfanswm nifer yr euogfarnau a nodwyd fel rhai a gafodd eu dileu gan y Ddeddf (5) | 33 | 2141 |
*Nododd yr MoJ yr unigolion cyntaf sydd ag o leiaf un euogfarn yng nghwmpas y Ddeddf yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Gorffennaf.
** Gall y ffigurau yn y tabl uchod newid pan fydd achos wedi’i ail-asesu yn dilyn cael gwybodaeth ychwanegol.
Daw’r ffigurau yn y datganiad hwn o system fyw a gallant fod yn wahanol i’r wybodaeth a ryddhawyd yn flaenorol. Cafodd y methodolegau cyfrif ar gyfer pob ffigur eu diweddaru ym mis Tachwedd 2024. Gall gwahaniaethau hefyd fodoli rhwng ffigurau oherwydd gwahaniaethau yn yr amser yr echdynnwyd y data. Mae llythyrau a ddychwelwyd fel rhai na chafodd eu danfon yn cael eu tynnu o chyfansymiau 2a a 3a. Ers y cyhoeddiad diwethaf (13 Chwefror) nodwyd bod 6 unigolyn wedi cael eu cyfrif yn anghywir o dan gategori 4a. Mae hyn nawr wedi’i gywiro yn y datganiad hwn gyda’r unigolion hyn yn cael eu hychwanegu at gategori 3.
Nododd ein datganiad gwybodaeth rheoli blaenorol fod Grŵp y Post Brenhinol wedi hysbysu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am grŵp ychwanegol o unigolion sydd efallai ag euogfarnau wedi’u dileu gan y Ddeddf. Cafodd yr unigolion hyn eu darganfod yn dilyn adolygiad o euogfarnau hanesyddol a gynhaliwyd gan y Post Brenhinol i adnabod p’un a allai’r Ddeddf fod wedi effeithio unrhyw un ohonynt. Gallwn gadarnhau bod y grŵp hwn yn cynnwys 43 o unigolion sydd nawr angen eu hasesu ac nad oeddynt eisoes yn hysbys i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrthi’n casglu rhagor o wybodaeth am yr unigolion hyn i’n galluogi i asesu p’un a oes ganddynt euogfarnau sydd yng nghwmpas y ddeddfwriaeth.
Rydym hefyd yn casglu rhagor o wybodaeth i benderfynu a oes yna unrhyw unigolion pellach o’r grŵp o unigolion y dywedodd Grŵp y Post Brenhinol wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder amdanynt sydd angen i ni eu hasesu. Byddwn yn darparu diweddariad arall ar hyn yn ein cyhoeddiad nesaf.
Beth mae’r data hwn yn ei olygu?
(1) Mae’r rhif hwn yn cynrychioli pob unigolyn sydd a’u heuogfarnau wedi’u hasesu.
(2) Bydd yr unigolion hynny a adnabuwyd fel bod ganddynt o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf yn gymwys ar gyfer Cynllun Gwneud Iawn am Euogfarnau Horizon . Os yw’r unigolyn wedi marw, gall ei gynrychiolydd personol fod yn gymwys i gyflwyno hawliad. Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod gan rywun euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf, byddwn yn anfon llythyr atynt i’w hysbysu am hyn cyn gynted â phosibl. Gellir dod o hyd i nifer yr unigolion yr ydym wedi anfon llythyrau atynt yn (2a). Mae llythyrau’n cael eu hanfon allan mewn setiau ac efallai y bydd oedi byr rhwng asesiadau’n cael eu cynnal a llythyrau’n cael eu hanfon. Ar hyn o bryd mae yna 29 o unigolion sydd ag euogfarnau wedi’u dileu na allwn ysgrifennu atynt gan nad ydym wedi gallu cadarnhau eu cyfeiriad presennol.
(3) Mae’r rhif hwn yn cyfeirio at unigolion y mae’n ymddangos bod eu heuogfarnau allan o gwmpas yr ymarfer ond efallai y byddant yn gallu darparu rhagor o wybodaeth i’n helpu i nodi a yw eu heuogfarnau o fewn cwmpas y Ddeddf. Rydym yn ysgrifennu at yr unigolion hyn i ofyn am yr wybodaeth hon. Gellir dod o hyd i nifer yr unigolion y bu inni anfon llythyrau atynt yn (3a). Mae llythyrau’n cael eu hanfon allan mewn setiau ac efallai y bydd oedi byr rhwng asesiadau’n cael eu cynnal a llythyrau’n cael eu hanfon. Ar hyn o bryd mae yna 27 o unigolion yn y categori hwn na allwn ysgrifennu atynt gan nad ydym wedi gallu cadarnhau eu cyfeiriad presennol.
(4) Mae’r rhif hwn yn cyfeirio at yr unigolion hynny nad yw eu heuogfarnau wedi cael eu dileu gan y Ddeddf yng Nghymru a Lloegr ac mae’n darparu dadansoddiad o’r rhesymau canlynol yn y categori hwn:
- Roedd yr euogfarn am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf neu roedd yr euogfarn am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a)
- Gorfodwyd yr euogfarn ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (a oedd ar 24 Mai 2024). (4b)
- Ni ddaethpwyd â’r erlyniad gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr. (4c*)
- Mae’r Llys Apêl eisoes wedi ystyried yr euogfarn. (4d)
- Mae’r llysoedd eisoes wedi dileu’r euogfarn. (4e)
- Cofnodwyd rheithfarn ddieuog am y trosedd(au) sydd dan ystyriaeth (4f)
*Mae euogfarnau a ddygwyd gan Grŵp Y Post Brenhinol Cyfyngedig wedi’u cynnwys o fewn diffiniad y ddeddf o “y Swyddfa Post”.
Nid ydym yn ysgrifennu llythyrau at yr unigolion yn y grŵp hwn oni bai eu bod wedi dweud wrthym pwy ydynt ac wedi gofyn inni ystyried eu heuogfarnau.
(5) Efallai y bydd gan unigolion fwy nag un euogfarn sy’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf. Felly, mae cyfanswm yr euogfarnau yn uwch na nifer yr unigolion yr aseswyd bod ganddynt o leiaf un euogfarn o fewn cwmpas y Ddeddf.
Mae unrhyw euogfarnau a roddwyd yng Ngogledd Iwerddon yn rhan o gwmpas y Ddeddf ond nid yw’r cyhoeddiad hwn yn berthnasol iddynt. Nid yw unrhyw euogfarnau a orfodwyd yn Yr Alban yn gysylltiedig â’r Ddeddf ac fe’u hystyrir fel bod o dan ddeddfwriaeth ar wahân.
Sut rydym yn adnabod pa euogfarnau sydd yng nghwmpas y ddeddf?
Mae’r Ddeddf yn gosod pum amod ochr yn ochr â meini prawf eraill.
Mae’r pum amod a ddylai gael eu bodloni er mwyn i euogfarn gael ei dileu yn cynnwys y canlynol: dyddiad y drosedd; math o drosedd; bod y cyfryw unigolyn yn gweithio mewn swyddfa bost neu’n cyflawni busnes ar ran Swyddfa’r Post ar adeg y drosedd honedig; yr honnir bod y drosedd wedi’i chyflawni mewn cysylltiad â chynnal neu weithio ar fusnes Swyddfa’r Post; a p’un a oedd system Horizon wedi’i gosod yn y gangen lle’r oedd yr unigolyn yn gweithio ar y pryd.
Mae tîm gwaith achos euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal gwiriadau cymhleth i ganfod p’un a oes gan yr unigolion hynny sy’n hysbys inni unrhyw euogfarnau sydd o fewn cwmpas y Ddeddf. Er mwyn cyfyngu’r baich ar unigolion i ddarparu gwybodaeth eu hunain i ddangos bod eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf, rydym yn gwirio nifer o ffynonellau data i gael gwybodaeth am ba euogfarnau sy’n bodloni meini prawf y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys cofnodion o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, Swyddfa’r Post Cyf, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, Cyllid a Thollau EF, a’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol. O ganlyniad i’r anghysondebau a ganfuwyd rhwng y gwahanol fathau o ffynonellau data, mae’r broses o ddod o hyd i euogfarnau a ddilëwyd yn cymryd yn hirach na’r disgwyl.
Unwaith bydd y tîm gwaith achos wedi gwirio fod pob euogfarn yn bodloni meini prawf y Ddeddf, byddant yn ysgrifennu at yr unigolion hynny i’w hysbysu am hyn. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd y llythyrau hyn yn gofyn i’r unigolyn am rhagor o wybodaeth fel y gellid asesu eu heuogfarnau yn llawn. Mewn rhai achosion rydym wedi asesu euogfarn o fewn cwmpas y ddeddf ond ni allwn gysylltu â’r unigolyn oherwydd nad ydym wedi gallu cadarnhau ei gyfeiriad presennol. Hyd yn oed pan na allwn gysylltu â’r unigolyn, bydd ei gofnodion troseddol yn cael eu diwygio i adlewyrchu’r euogfarn(au) perthnasol a ddilëwyd.
Os nad ydych eisoes wedi cael llythyr ac rydych yn credu bod gennych euogfarn cymwys, rydym yn eich hannog i gofrestru yma neu gysylltu a’r tîm gwaith achos drwy e-bost yn: PostOfficeConvictions@justice.gov.uk. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r tîm gwaith achos euogfarnau a fydd yn cadarnhau p’un a yw euogfarnau’r unigolyn eisoes yn cael eu hystyried ac – os nad oeddent eisoes yn hysbys i’r tîm – yn parhau gyda’r broses o gasglu data a chynnal asesiad.
Gellir dod o hyd i ddata ar iawndal ariannol sy’n gysylltiedig â Horizon yma.