Hysbysiad preifatrwydd OPG: goruchwylio Gwarcheidiaeth
Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar oruchwylio Gwarcheidiaeth a sut yr ydym yn casglu a phrosesu eich data.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn gyfrifol am oruchwylio gwarcheidwaid a benodir gan yr Uchel Lys, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu gwaith yn unol â Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio’r hyn a wnawn gyda’r data a gasglwn a sut i gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiwn. Mae’n nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gan OPG ac yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- pan fyddwn yn gwneud cais neu’n cadw gwybodaeth bersonol (‘data personol’) amdanoch
- sut y gallwch gael mynediad at gopi o’ch data personol
- beth allwch chi ei wneud os ydych o’r farn nad yw’r safonau’n cael eu cyflawni
Mae siarter gwybodaeth bersonol OPG yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.