Cyfarwyddyd ymarfer 13: chwiliadau swyddogol o'r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau
Diweddarwyd 3 Ebrill 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw mynegai o ddisgrifiadau geiriol o ryddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig ac o faenorau cofrestredig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Caiff unrhyw un wneud cais, ar ffurflen SIF, am chwiliad swyddogol o’r mynegai (rheol 146 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Bydd tystysgrif y canlyniad yn dangos a oes unrhyw ryddfraint gysylltiedig neu faenor gofrestredig yn berthnasol i’r ardal(oedd) gweinyddol a chwiliwyd ynghyd â’r rhifau teitl sy’n effeithio a’r math o gofrestriad. Mae Mynegai disgrifiadau geiriol yn rhestru’r gwahanol fathau o gofrestriad y bydd modd eu datgelu trwy chwiliad swyddogol o’r mynegai.
2. Rhyddfraint
Hawl neu fraint a roddwyd gan y Goron yw rhyddfraint. Mae enghreifftiau’n cynnwys hawl i godi toll neu hawl i gynnal ffair neu farchnad. Mae’n hawl anniriaethol. Nid yw’n cynnwys perchnogaeth y tir diriaethol ac mae ar wahân i unrhyw rydd-ddaliad neu fuddion prydlesol yn y tir ei hun. Yn iaith y gyfraith, mae’n hereditament anghorfforol. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu cofrestru rhyddfraint gyda’i theitl ei hun. Yn y cyd-destun hwn nid yw rhyddfraint yn cynnwys unrhyw hawliau masnachol/masnachu na chreu corfforaeth siartredig nad oes ganddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar eiddo.
Yn 2003 byddai’n anodd diffinio rhyddfraint a roddwyd gan gyfeirio at ‘City of Sunlight’ yn 1189 oherwydd y bydd terfynau’r ddinas wedi newid yn sylweddol. Caiff y fath hon o ryddfraint ei galw’n ‘rhyddfraint gysylltiedig’ gan ei bod yn berthnasol dim ond yn gyffredinol i ardal. Nid ydym yn paratoi cynllun teitl ar gyfer cofrestru rhyddfraint gysylltiedig a bydd yn cael ei chofnodi yn y mynegai geiriol. Ar y llaw arall, caiff ‘rhyddfraint sy’n effeithio’, y gellir ei diffinio fel un sy’n effeithio ar ardal, ei mynegeio ar y map mynegai.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau: cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ryddfreintiau. Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: y map mynegai: chwiliad swyddogol yn egluro sut i chwilio’r map mynegai er mwyn gweld a yw rhyddfraint sy’n effeithio wedi ei chofrestru.
3. Maenor
Mae’r maenorau cofrestredig sy’n ymddangos yn y mynegai yn rhai ar gyfer teitlau arglwyddiaeth. Enw ar arglwydd y faenor yn unig yw arglwyddiaeth y faenor. Mewn llawer achos ni fydd unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrth y teitl mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol mae hefyd yn cael ei alw’n hereditament anghorfforol. Nid oes cynlluniau teitl ar gyfer y cofrestriadau hyn ac nid ydym yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau: teitlau a hawliau maenoraidd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am dir maenoraidd.
4. Mynegai disgrifiadau geiriol
Rhaid i Gofrestrfa Tir EF gadw mynegai sy’n fodd i gael gwybod a oes unrhyw ystadau cofrestredig neu rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn berthnasol i ddarn o dir (adran 68 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Am nad oes modd penderfynu maint rhyddfraint gysylltiedig neu faenor yn fanwl gywir, daliwn y wybodaeth mewn mynegai disgrifiadau geiriol yn dwyn yr enw mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Trefnwyd y mynegai yn ôl ardal weinyddol ac mae’n cynnwys rhifau teitl a manylion y mathau canlynol o gofrestriad.
- ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i ryddfreintiau cysylltiedig sy’n aros i’w prosesu
- ceisiadau sy’n aros i’w prosesu am rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
- rhyddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig
- maenorau cofrestredig
- rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
5. Sut i gael gwybodaeth sy’n cael ei dal yn y mynegai
5.1 Ffurflen SIF
Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen benodedig SIF i wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai.
Sylwer: byddwn yn gwrthod unrhyw gais am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig nad ydynt ar y ffurflen benodol.
Gallwch ddefnyddio ffurflen SIF i chwilio ardaloedd gweinyddol yn unig. Bydd cofnodion yn y mynegai yn cael eu cofnodi ar gyfer yr ardal(oedd) weinyddol sy’n berthnasol iddynt.
Ar unrhyw chwiliad rhaid i chi ddyfynnu’r holl ardaloedd gweinyddol presennol sy’n berthnasol i’r tir o dan sylw. At ddibenion ceisiadau ar ffurflen SIF, ardal weinyddol yw sir neu awdurdod unedol.
Mae rhestr o’r ardaloedd gweinyddol, ynghyd â manylion swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF sy’n eu gwasanaethu, i’w cael yn Atodiad A i’r cyfarwyddyd hwn. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais nad yw’n cyfeirio at ardal weinyddol ar y rhestr.
Byddwn yn anwybyddu unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd fel disgrifiad eiddo manwl neu gynllun. Byddwn yn prosesu’r cais trwy gyfeirio at yr ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd yn unig.
Os nad yw panel 1 ffurflen SIF wedi ei gwblhau, byddwn yn cwblhau’r cais ar gyfer rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.
5.2 Ffïoedd
Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w dalu am y gwasanaeth hwn.
5.3 Cyflwyno eich cais
I ganfod ble i anfon eich cais wedi’i gwblhau, gweler Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.
5.4 Tystysgrif canlyniad
Lle bo modd, bydd tystysgrif y canlyniad yn cael ei hanfon gyda throad y post. Lle bo’r chwiliad yn dangos bod cofnodion yn y mynegai’n ymwneud â’r ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd, bydd y dystysgrif yn cynnwys detholiad o’r mynegai. Lle nad oes unrhyw gofnodion i’w dadlennu, bydd y dystysgrif yn cynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.
6. Ymholiadau
Os oes gennych bryder arbennig sydd heb gael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF cyn unrhyw chwiliad. Os yw’r broblem yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well i chi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig yn swyddfa Cofrestrfa Tir EF fydd yn prosesu eich cais.
7. Atodiad A
Trefnwyd y mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau yn ôl ardal weinyddol. Dengys y tabl yr holl ardaloedd gweinyddol sy’n addas at ddibenion cais ffurflen SIF gyda swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF sy’n eu gwasanaethu.
Ardal weinyddol | Swyddfa Cofrestrfa Tir EF | |
---|---|---|
Lloegr | ||
Barnsley | Nottingham | |
Bedford | Peterborough | |
Birmingham | Coventry | |
Blackburn gyda Darwen | Fylde | |
Blackpool | Fylde | |
Bolton | Fylde | |
Bournemouth, Christchurch a Poole | Weymouth | |
Bracknell Forest | Caerloyw | |
Bradford | Nottingham | |
Brighton a Hove (Dinas) | Portsmouth | |
Bryste (Dinas) | Caerloyw | |
Bury | Fylde | |
Caerefrog | Durham | |
Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf | Plymouth | |
Caerlŷr | Caerlŷr | |
Caint | Nottingham | |
Calderdale | Nottingham | |
Cernyw | Plymouth | |
Cilgwri | Penbedw | |
Coventry | Coventry | |
Cumberland | Durham | |
Darlington | Durham | |
De Swydd Gaerloyw | Caerloyw | |
De Tyneside | Durham | |
Derby (Dinas) | Nottingham | |
Doncaster | Nottingham | |
Dorset | Weymouth | |
Dudley | Coventry | |
Dwyrain Essex | Coventry | |
Dwyrain Sussex | Portsmouth | |
Dwyrain Swydd Gaer | Penbedw | |
Dyfnaint | Plymouth | |
Essex | Peterborough | |
Gateshead | Durham | |
Glannau Mersi | Penbedw | |
Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln | Kingston upon Hull | |
Gogledd Gwlad yr Haf | Plymouth | |
Gogledd Swydd Gaerefrog | Durham | |
Gogledd Swydd Lincoln | Kingston upon Hull | |
Gogledd Swydd Northampton | Caerlŷr | |
Gogledd Tyneside | Durham | |
Gorllewin Berkshire | Caerloyw | |
Gorllewin Sussex | Portsmouth | |
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer | Penbedw | |
Gorllewin Swydd Northampton | Caerlŷr | |
Gwlad yr Haf | Plymouth neu Weymouth | |
Halton | Penbedw | |
Hartlepool | Durham | |
Hampshire | Weymouth | |
Kingston upon Hull (Dinas) | Kingston upon Hull | |
Kirklees | Nottingham | |
Knowsley | Penbedw | |
Leeds | Nottingham | |
Lerpwl | Penbedw | |
Luton | Peterborough | |
Manceinion | Fylde | |
Medway | Nottingham | |
Middlesbrough | Durham | |
Milton Keynes | Caerlŷr | |
Newcastle upon Tyne | Durham | |
Norfolk | Kingston upon Hull | |
Northumberland | Durham | |
Nottingham (Dinas) | Nottingham | |
Oldham | Fylde | |
Peterborough (Dinas) | Peterborough | |
Plymouth (Dinas) | Plymouth | |
Portsmouth | Weymouth | |
Reading | Caerloyw | |
Redcar a Cleveland | Durham | |
Rochdale | Fylde | |
Rotherham | Nottingham | |
Rutland | Caerlŷr | |
St Helens | Penbedw | |
Salford | Fylde | |
Sandwell | Coventry | |
Sefton | Penbedw | |
Sheffield | Nottingham | |
Slough | Caerloyw | |
Solihull | Coventry | |
Southampton | Weymouth | |
Southend-on-Sea | Peterborough | |
Stockport | Fylde | |
Stockton-on-Tees | Durham | |
Stoke-on-Trent (Dinas) | Penbedw | |
Suffolk | Kingston upon Hull | |
Sunderland | Durham | |
Surrey | Durham | |
Swindon | Weymouth | |
Swydd Amwythig | Telford | |
Swydd Bedford Ganolog | Peterborough | |
Swydd Buckingham | Caerlŷr | |
Swydd Derby | Nottingham | |
Swydd Durham | Durham | |
Swydd Gaer | Telford | |
Swydd Gaergrawnt | Peterborough | |
Swydd Gaerhirfryn | Fylde | |
Swydd Gaerloyw | Caerloyw | |
Swydd Gaerlŷr | Caerlŷr | |
Swydd Gaerwrangon | Coventry | |
Swydd Henffordd (Sir) | Telford | |
Swydd Hertford | Caerlŷr | |
Swydd Lincoln | Kingston upon Hull | |
Swydd Nottingham | Nottingham | |
Swydd Rydychen | Caerloyw | |
Swydd Stafford | Penbedw | |
Swydd Warwig | Caerloyw | |
Tameside | Fylde | |
Thurrock | Peterborough | |
Torbay | Plymouth | |
Traean Dwyreiniol Swydd Gaerefrog | Kingston upon Hull | |
Trafford | Fylde | |
Wakefield | Nottingham | |
Walsall | Coventry | |
Warrington | Penbedw | |
Westmorland and Furness | Durham | |
Wigan | Fylde | |
Wiltshire | Weymouth | |
Windsor a Maidenhead | Caerloyw | |
Wokingham | Caerloyw | |
Wolverhampton (Dinas) | Coventry | |
Wrekin (Sir) (a elwir hefyd The Wrekin) | Telford | |
Ynysoedd Sili | Plymouth | |
Ynys Wyth | Weymouth | |
Awdurdodau Llundain | ||
Barking a Dagenham | Telford | |
Barnet | Abertawe | |
Bexley | Croydon | |
Brent | Abertawe | |
Bromley | Croydon | |
Camden | Croydon | |
Croydon | Croydon | |
Dinas a Sir Dinas Llundain | Abertawe | |
Dinas Westminster | Croydon | |
Ealing | Abertawe | |
Enfield | Abertawe | |
Greenwich | Telford | |
Hackney | Abertawe | |
Hammersmith a Fullham | Penbedw | |
Haringey | Abertawe | |
Harrow | Abertawe | |
Havering | Penbedw | |
Hillingdon | Abertawe | |
Hounslow | Abertawe | |
Islington | Abertawe | |
Kensington a Chelsea | Penbedw | |
Kingston upon Thames | Croydon | |
Lambeth | Telford | |
Lewisham | Telford | |
Merton | Croydon | |
Newham | Telford | |
Redbridge | Penbedw | |
Richmond upon Thames | Telford | |
Southwark | Telford | |
Sutton | Croydon | |
Tower Hamlets | Abertawe | |
Waltham Forest | Abertawe | |
Wandsworth | Telford | |
Y Deml Fewnol a’r Deml Ganol | Abertawe | |
Cymru | Ymdrinnir â phob ardal gan Swyddfa Abertawe | |
Abertawe | ||
Blaenau Gwent | ||
Bro Morgannwg | ||
Caerdydd | ||
Caerffili | ||
Casnewydd | ||
Castell-nedd Port Talbot | ||
Ceredigion | ||
Conwy | ||
Gwynedd | ||
Merthyr Tudful | ||
Pen-y-bont ar Ogwr | ||
Powys | ||
Rhondda Cynon Taf | ||
Sir Benfro | ||
Sir Ddinbych | ||
Sir Fynwy | ||
Sir y Fflint | ||
Sir Gaerfyrddin | ||
Sir Geredigion | ||
Tor-faen | ||
Wrecsam | ||
Ynys Môn |
8. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.