Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (CA8480)
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu’r ffurflen bost i wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
Dogfennau
Manylion
Er mwyn gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, gallwch:
-
defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, neu
-
llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF
Gwneud cais ar-lein
I wneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.
Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Gwneud cais drwy’r post
Gwnewch gais drwy’r post os ydych yn asiant neu os na allwch wneud cais ar-lein.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen bost yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i:
Cyllid a Thollau EF (CThEF)
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gwasanaethau Hunangyflogaeth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ