Atwrneiaeth arhosol: enghreifftiau dilys
Detholiad swyddogol o’r gwahanol fathau o atwrneiaeth arhosol gofrestredig ac esboniad o’r hyn sy’n eu gwneud yn ddilys.
Dogfennau
Manylion
Detholiad swyddogol o’r gwahanol fathau o atwrneiaeth arhosol gofrestredig ac esboniad o’r hyn sy’n eu gwneud yn ddilys.
Mae’r dogfennau ar y dudalen hon, yn rhannol yn enghreifftiau o atwrneiaeth arhosol gofrestredig, ac at ddibenion cyfeirio yn unig. Mae atwrneiaeth arhosol yn offeryn cyfreithiol sy’n galluogi rhywun (yr ‘atwrnai’) i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall (y ‘rhoddwr’) oherwydd diffyg galluedd meddyliol y person hwnnw neu am reswm arall.
Mae’n rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru’r atwrneiaeth arhosol cyn y gellir ei defnyddio. Y cyfan yw atwrneiaeth arhosol gofrestredig yw ffurflen atwrneiaeth arhosol gyda marciau penodol wedi’u hychwanegu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Gallwch ddweud os yw atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru drwy edrych ar dudalen flaen y ddogfen (gweler y llun yma). Bydd gan bob fersiwn o’r atwrneiaeth arhosol gofrestredig stamp tyllog ar waelod y dudalen flaen yn dweud ‘Validated’. Bydd stamp neu flwch – neu’r ddau – ar dudalen flaen y ffurflen hefyd yn dangos y dyddiad cofrestru. Mae marciau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu nodi’n goch mewn cylchoedd ar y dogfennau enghreifftiol fan hyn.
Cofiwch y bydd yr atwrneiaeth arhosol go iawn yn hirach na’r enghreifftiau hyn. Gwnewch yn siŵr bod y ddogfen gyfan gennych wrth ddefnyddio neu dderbyn atwrneiaeth arhosol, a chadarnhewch enw’r rhoddwr a’r atwrnai/atwrneiod o fewn y ddogfen. Bydd rhai atwrneiaeth arhosol hefyd yn nodi pwerau penodol i atwrneiod, neu’n gosod cyfyngiadau penodedig, y tu hwnt i’r awdurdod cyffredinol y gall atwrneiaeth arhosol ei darparu.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyhoeddi 3 fersiwn o’r ffurflenni atwrneiaeth arhosol ers 2007, adeg eu cyflwyno. Gallwch ddod o hyd i rif y fersiwn ar waelod tudalen flaen bob ffurflen. Mae pob fersiwn o’r atwrneiaeth arhosol yn cynnwys un ffurflen am benderfyniadau ynglŷn ag iechyd a lles (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘lles personol’ ar y ffurflen atwrneiaeth arhosol lles personol) ac un arall am benderfyniadau ynglŷn â materion eiddo ac ariannol (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘eiddo a materion’ ar y ffurflen atwrneiaeth arhosol eiddo a materion).
Y 3 fersiwn o’r atwrneiaeth arhosol, sy’n cael eu dangos ar y dudalen hon, yw:
- LPA PW a LPA PA (yn y Saesneg)
- LPA114 a LPA117
- LP1F a LP1H
Gallwch hefyd edrych ar Gofrestr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gadarnhau bod gan rywun ddirprwy yn gweithredu ar ei ran/rhan.
Gweler y dudalen hon ar weithredu fel atwrnai am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r pŵer y mae atwrneiaeth arhosol yn ei roi i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.
Mae tudalen ar wahân yn dangos enghreifftiau o atwrneiaeth barhaus.