Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 40: trosolwg o gyfarwyddiadau cynlluniau Cofrestrfa Tir EF

Diweddarwyd 25 Mehefin 2015

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Atodiad 1: sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF

Mae Atodiad 1 yn disgrifio tarddleoedd a graddfeydd mapiadau’r Arolwg Ordnans a sut y mae hyn yn cysylltu â chynlluniau sy’n cael eu paratoi gan Gofrestrfa Tir EF.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Mapiadau’r Arolwg Ordnans
  3. Graddfeydd a chywirdeb mapiadau’r Arolwg Ordnans
  4. Cynrychiolaeth nodwedd ar fapiadau’r Arolwg Ordnans
  5. Mapiadau’r Arolwg Ordnans sydd ar gael
  6. Hawlfraint
  7. Cysylltu â’r Arolwg Ordnans

2. Atodiad 2: paratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF

Lluniwyd Atodiad 2 i gynorthwyo wrth baratoi cynlluniau gweithredoedd.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Pam y mae cynlluniau o ansawdd dda yn bwysig
  3. Cynlluniau ar gyfer mathau penodol o geisiadau neu sefyllfaoedd
  4. Cynlluniau ar gyfer cofrestriadau cyntaf
  5. Cynlluniau ar gyfer trosglwyddiadau/prydlesi o ran ystad gofrestredig
  6. Cynlluniau ar gyfer meintiau tir anarferol
  7. Defnyddio disgrifiadau geiriol
  8. Cwblhau’r cynllun teitl yn lle codi ymholiadau
  9. Canllawiau ar baratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF
  10. E-gyflwyno cynlluniau

3. Atodiad 3: terfynau

Mae Atodiad 3 yn rhoi braslun ar derfynau gan gynnwys terfynau cyffredinol, perchnogaeth a chynnal a chadw terfynau.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Diffiniad terfyn
  3. Anawsterau wrth ddangos union leoliad terfynau diriaethol ar gynlluniau
  4. Dynodi lleoliad y terfyn cyfreithiol
  5. Terfynau cyffredinol
  6. Terfynau sefydlog
  7. Cytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennu
  8. Perchnogaeth a/neu gynnal a chadw terfynau
  9. Deddf Mur Cyd ayb 1996
  10. Ychwanegiadau a cholledion trwy ddŵr: afonydd a nentydd uwchlaw’r llanw
  11. Rhagdybiaethau cyfreithiol

4. Atodiad 4: cytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennu

Mae Atodiad 4 yn ymwneud â chytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennu ac yn egluro’n benodol yr hyn ydynt a phryd y gallent fod yn briodol.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Cyflwyniad
  2. Cytundebau terfyn
  3. Terfynau wedi eu pennu
  4. Sut i wneud cais i ddangos terfyn yn y gofrestr fel un penodedig Gwneud cais am derfyn wedi ei bennu
  5. Trosglwyddiadau a therfynau wedi eu pennu heb gais

5. Atodiad 5: cynllun teitl

Mae Atodiad 5 yn disgrifio diben cynlluniau teitl, a’r ffordd y cânt eu creu a’u cynnal.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Trosolwg
  2. Diben cynllun teitl
  3. Mathau o gynllun teitl
  4. Creu cynllun teitl
  5. Graddfeydd cynllun teitl
  6. Maint cynllun teitl
  7. Yr hyn y mae’n rhaid i gynllun teitl ei ddangos ar bob adeg
  8. Cynlluniau teitl lefel llawr prydlesol
  9. Mesuriadau
  10. Cyfeiriadau lliw
  11. Gwybodaeth arall ar gynllun teitl
  12. Diweddaru cynllun teitl
  13. Isrannu cofrestr teitl a chynllun
  14. Arolygon tir
  15. Atodiad 1: arferion cynllun teitl

Atodiad 2: enghraifft o gynlluniau teitl

6. Atodiad 6: gwasanaethau a chyfarwyddiadau eraill yn ymwneud â chynlluniau

Mae Atodiad 6 yn disgrifio gwasanaethau eraill yn ymwneud â chynlluniau a ffynonellau eraill o gyfarwyddyd mapio.

Y prif benawdau yn yr atodiad hwn yw:

  1. Chwiliadau o’r map mynegai
  2. Cynlluniau eglurhaol
  3. Data stent electronic (polygonau)
  4. Cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF

7. Pethau i’w cofio

Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar osgoi ymholiadau ar gael ar Gynlluniau Cofrestrfa Tir EF – Gweminarau a Chyfarwyddiadau Ymarfer.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.