Sut i lenwi ffurflen IHT100f
Diweddarwyd 6 Ebrill 2025
Pan ddylech gwblhau’r ffurflen hon
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i ni am y naill neu’r llall o’r canlynol yn dod i ben:
-
esemptiad amodol o Dreth Etifeddiant neu Dreth Trosglwyddo Cyfalaf
-
esemptiad o Doll Ystâd
Ni ddylech lenwi’r ffurflen hon os yw gwarediad yn arwain at dâl am Dreth Enillion Cyfalaf gohiriedig. Dylech gysylltu â Thîm Treftadaeth CThEF yn lle hynny (gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yn yr adran ‘Cael help’).
O dan ‘Cyfeirnod Treftadaeth’ rhowch y cyfeiriad ar unrhyw ohebiaeth y gallech fod wedi’ gael gyda Thîm Treftadaeth CThEF, bydd y cyfeiriad fel arfer yn dechrau gyda DP.
Cyn i chi ddechrau
Dylech gwblhau pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen.
Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn i chi ddechrau i lenwi’r ffurflen.
Gellid cynnwys rhai mathau o asedion mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, fel stociau a chyfranddaliadau. Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran.
Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc gyda’r balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych chi wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen gan y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.
Adran A: ynglŷn â pherchennog yr asedion
Mae’n rhaid i chi ddatgan os yw perchennog yr ased yn:
-
unigolyn neu grŵp o unigolion
-
ymddiriedolaeth
-
nid ymddiriedolaeth nac unigolyn neu grŵp o unigolion
Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion perchnogion yr asedion.
Os oes mwy na 4 unigolyn sy’n berchnogion yr asedion, yna gallwch barhau ar ddalen ar wahân.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r holl feysydd perthnasol. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen.
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
Rhif 10 digid yw hwn. Byddwch yn cael UTR pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer Treth Incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig.
Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch rhif UTR.
Os nad oes un gennych, gadewch y blwch 8 yn wag.
Adran B: manylion y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad hwn
Dylech gynnwys enw a manylion y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.
Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac eisiau i CThEF ysgrifennu atoch ond rhywun arall i ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.
Adran C: ynglŷn â’r digwyddiad trethadwy
Dylech dicio’r blwch perthnasol ar gyfer y math o ddigwyddiad trethadwy.
Os ydych chi’n rhoi gwybod am ddigwyddiad sy’n ymwneud â thir ac adeiladau, mae’n rhaid i chi ddarparu map sy’n amlinellu’r eiddo.
Marwolaeth y perchennog
Dylech dicio’r blwch hwn os yw perchennog yr ased wedi marw.
Gwerthiant masnachol
Dylech dicio’r blwch hwn os yw’r ased wedi’i werthu’n fasnachol. Er enghraifft drwy dŷ arwerthiant, deliwr celf neu asiant eiddo.
Gwerthiant preifat
Dylech dicio’r blwch hwn os gwerthwyd yr ased i berthynas neu ffrind mewn gwerthiant preifat.
Rhodd
Dylech dicio’r blwch hwn os nad oedd y digwyddiad trethadwy’n werthiant ac fe’i rhoddwyd i ffwrdd.
Tynnu oddi wrth y DU
Dylech dicio’r blwch hwn os yw’r ased wedi’i gymryd dramor. Nid yw hyn yn berthnasol os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’r ased wedi’i dynnu dros dro i’w arddangos i’r cyhoedd
-
mae CThEF wedi caniatâd bod yr ased yn gallu cael ei dynnu
Tynnu oddi wrth fynediad i’r cyhoedd
Dylech dicio’r blwch hwn os oedd mynediad cyhoeddus yn ofyniad o’r esemptiad amodol ac nad yw’r ased bellach yn hygyrch i’r cyhoedd.
Colled o ased
Dylech dicio’r blwch hwn os na ellir canfod yr ased bellach.
Arall
Dylech dicio’r blwch hwn os nad ydych chi’n siŵr am natur y digwyddiad.
Dynodydd unigryw CThEF
Mae rhif adnabod unigryw CThEF yn ymwneud ag eiddo personol yn unig a gellir dod o hyd iddo ar unrhyw lythyr monitro rydych wedi’i gael gan y Tîm Treftadaeth.
Gwerth ar y farchnad agored ar adeg y digwyddiad
Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedau fel pe bai pob eitem wedi’i gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn y ‘gwerth marchnad agored’.
Talgrynnwch werth yr asedion i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf.
Treth Enillion Cyfalaf sydd wedi’i thalu neu’n ddyledus
Os yw Treth Etifeddiant neu Dreth Ystâd yn daladwy ar y digwyddiad trethadwy ac mae hefyd yn arwain at dâl i Dreth Enillion Cyfalaf, caniateir y dreth honno fel didyniad yn erbyn y tâl. Os nad yw ffigur terfynol ar gael eto, dylech ddarparu un dros dro a rhoi gwybod i’r Tîm Treftadaeth pan fydd gennych y ffigur terfynol.
Adran D: awdurdod ar gyfer ad-dalu treth
Dylech ddarparu manylion y cyfrif rydych chi am i chi dalu ad-daliad iddo. Os yw cyfreithiwr neu asiant arall yn gweithredu ar eich rhan ac mae’r ad-daliad i’w fusnes yna dylech ddarparu eu manylion.
Adran E: datgelu cynlluniau arbed treth
Dylech gynnwys y ddau peth canlynol:
-
cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun os ydych wedi cael un
-
blwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth
Dysgwch am y rheolau ar gyfer datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).
Datganiad
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod unrhyw unigolion neu ymddiriedolwyr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol eraill yn gywir.
Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100f heb lofnod gwlyb gan asiant neu ymddiriedolwr, cyn belled â bod enwau a manylion personol yr ymddiriedolwyr a’r unigolion yn cael eu dangos ar y dudalen ddatganiad.
Os ydych yn asiant
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 8:
‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad ffurflen IHT100 hwn, wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 6 yr IHT100.’
Os ydych yn ymddiriedolwr
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr adran gwybodaeth ychwanegol ar dudalen 8:
‘Fel yr ymddiriedolwr (neu’r person â chyfrifoldeb) sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hwn yw’r ymddiriedolwyr (neu’r personau â chyfrifoldeb) ac wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 6 yr IHT100.’
Anfon eich ffurflen wedi’i lenwi atom
Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.
Os ydym wedi gofyn am unrhyw ddogfennau, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu cynnwys.
Dysgwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen wedi’i lenwi atom (yn agor tudalen Saesneg).
Help
Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen, gallwch gysylltu â Thîm Treftadaeth CThEF drwy:
-
e-bost: mailpoint.f@HMRC.gov.uk
-
anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen