Siart sefydliadol CThEF
Diweddarwyd 7 Ebrill 2025
Ysgrifenyddion Parhaol
Syr Jim Harra KCB – Prif Weithredwr, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Swyddog Cyfrifyddu
Angela MacDonald – Dirprwy Brif Weithredwr, Ail Ysgrifennydd Parhaol
Y Pwyllgor Gweithredol
Pwyllgor Gweithredol CThEF yw prif fforwm gweithredol yr adran. Mae’n goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF, ac mae’n gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Gweithredol.
Myrtle Lloyd – Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau i Gwsmeriaid (Hyrwyddwr Llesiant)
Penny Ciniewicz – Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydymffurfiad Cwsmeriaid (Hyrwyddwr Hil)
Jonathan Athow – Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid (Hyrwyddwr Symudedd Cymdeithasol)
Justin Holliday – Prif Swyddog Cyllid, Comisiynydd Sicrwydd Treth (Hyrwyddwr Crefydd neu Gred)
Daljit Rehal – grŵp y Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth (CDIO) (Hyrwyddwr Hygyrchedd)
Alan Evans – Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Cyfreithiol CThEF (Hyrwyddwr LHDT+)
Helen Pickles – Prif Swyddog Pobl
Carol Bristow – Cyfarwyddwr Cyffredinol Ffiniau a Masnach
Suzanne Newton – Cyfarwyddwr Cyffredinol y grŵp Cyflawni Newid (Hyrwyddwr Gofalwyr)
James Mitton – Cyfarwyddwr Cyffredinol dros y grŵp Trawsnewid Mentrau
Andrew Pemberton – Cyfarwyddwr Arweiniad a Gohebiaeth (Hyrwyddwr Cynaliadwyedd)
Jonathan Russell CB – Prif Weithredwr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Lucy Pink – Cyfarwyddwr Strategaethau CThEF
Aelodau Anweithredol CThEF
Mae ein Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cynnig safbwynt allanol i’r sefydliad ac yn defnyddio’u sgiliau a’u profiadau i gynghori’r adran.
Aelodau anweithredol y Bwrdd
Y Fonesig Jayne-Anne Gadhia (Arweinydd Anweithredol)
Michael Hearty (aelod anweithredol o’r Bwrdd gyda chyfrifoldeb dros yr Undeb)
Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Myrtle Lloyd
Yn helpu cwsmeriaid i dalu’r swm cywir o dreth, i gael y budd-daliadau cywir, ac yn helpu’r rhai sydd mewn dyled i dalu’r hyn sydd arnynt.
Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Gweithrediadau Treth Busnes a Thollau
Cyfarwyddwr: Andrew McConnell (dirprwy dros dro)
Yn rheoli ystod amrywiol o waith gweithredol, gan gynnwys gwaith TAW, trethi stamp, elusennau, cynilion a buddsoddiadau, Treth Gorfforaeth, tollau a masnach ryngwladol, ac ecséis.
Gweithrediadau Treth Bersonol
Cyfarwyddwr: Richard West
Yn helpu cwsmeriaid, asiantau a chyflogwyr gyda’u cwestiynau ynghylch Yswiriant Gwladol, Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad, ac yn rhoi help ychwanegol i’r cwsmeriaid sydd ei angen.
Rheoli Dyledion
Cyfarwyddwr: Sue Young
Yn gyfrifol am gasglu taliadau dyledion, yn rhoi cyfrif am dollau treth a rhwymedigaethau eraill, ac yn sicrhau bod datganiadau a thaliadau hwyr yn dod i law.
Gweithrediadau Budd-daliadau a Chredydau
Cyfarwyddwr: Tamsin Woodeson
Yn gyfrifol am y ddarpariaeth o ofal plant sy’n rhydd o dreth a Budd-dal Plant, ac yn cyd-weithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau i reoli’r trosglwyddiad o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol.
Rhagoriaeth Weithredol
Cyfarwyddwr: Richard Hawthorn
Yn gyfrifol am brosesau gweithredol a data ar gyfer mathau gwahanol o dreth, yn sicrhau effeithiolrwydd ac yn datrys problemau sy’n ymwneud â phrosesau. Perchnogion Gwasanaeth Busnesau ar gyfer prif wasanaethau cyfathrebu â chwsmeriaid CThEF.
Gwasanaeth Strategaeth a Newid ar gyfer Cwsmeriaid
Cyfarwyddwyr: Richard Forster a Mike Beddington
Yn sbarduno gwelliannau ar draws gwasanaethau cwsmeriaid ac yn helpu’r adrannau gweithredol. Mae hyn, yn ei dro, yn galluogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth gwell mewn ffordd fwy effeithlon. Yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni blaenoriaethau CThEF.
Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad
Cyfarwyddwr: Steve Long (dirprwy dros dro)
Yn datblygu rhagolygon sy’n dangos llwythi gwaith a’r galw am y gwaith hwn, ac yn rhannu data ac adborth sy’n dod o gwsmeriaid. Yn helpu o ran y gwaith datblygu, yn monitro perfformiad a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac yn rhoi rheolaeth gyllid gadarn i’r Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Penny Ciniewicz
Yn sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu, ac yn cymryd camau pan na fydd hyn yn digwydd.
Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid
Gweithrediadau Cydymffurfio
Cyfarwyddwr: Janet Alexander
Yn arwain ar broffesiynoldeb, profiad y cwsmer, ac yn datblygu’r hyn y gall y gwasanaeth sifil ei wneud o ran cydymffurfiad, gan gynnwys cynllunio adnoddau a recriwtio ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid. Yn chwarae rôl allweddol yng ngwaith rheoli perfformiad a chynllunio gweithredol y CCG, yn ogystal â rheolaethau a dyluniadau’r risgiau cydymffurfio mwyaf arwyddocaol.
Cyflawni Strategaeth Cydymffurfio
Cyfarwyddwr: Chris Southworth
Yn diffinio strategaeth cydymffurfio ar draws CThEF, yn cefnogi penderfyniadau (ar sail tystiolaeth) sy’n ymwneud â gweithgarwch cydymffurfio, ac yn datblygu mesurau er mwyn mynd i’r afael â risgiau a’r bwlch treth ar draws polisïau, ac yn rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Gwrth-Arbed
Cyfarwyddwr: Jonathan Smith
Yn gyfrifol am ymyriadau cydymffurfio i gynlluniau arbed treth sydd wedi’u marchnata ar gyfer y farchnad dorfol, ac yn mynd i’r afael â’r rheiny sy’n hyrwyddo ac yn galluogi cynlluniau arbed treth, yn ogystal â chydymffurfiad ehangach asiantau. Yn datblygu polisïau er mwyn atal cynlluniau arbed treth rhag cael eu hyrwyddo.
Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll
Cyfarwyddwr: Richard Las
Yn gyfrifol am ymchwiliadau sifil ac ymchwiliadau troseddol CThEF i dwyll difrifol, yn defnyddio ystod lawn o bwerau (gan gynnwys cyfrifoldebau goruchwyliwr o dan Reoliadau Gwyngalchu Arian) er mwyn diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y DU.
Cydymffurfiad Unigolion a Busnesau Bach
Cyfarwyddwr: Marc Gill
Yn rheoli risgiau cydymffurfio ar draws y prif drethi a thollau, yn mynd i’r afael â’r economi gudd, yn hwyluso masnach ryngwladol ac yn gorfodi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Busnesau Mawr
Cyfarwyddwr: Nicole Newbury
Yn gweithredu rhwydwaith o Reolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid sy’n canolbwyntio ar reoli risgiau cydymffurfio ar draws busnesau mwyaf y DU, o ran maint a chymhlethdod.
Gwasanaethau Risg a Chudd-wybodaeth
Cyfarwyddwr: Andy Leggett
Yn chwarae rôl graidd o ran gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio, a hynny drwy alluogi CThEF i ddeall, i asesu ac i reoli risgiau ar draws y system dreth drwy gasglu gwybodaeth a dadansoddi data.
Trawsnewid
Cyfarwyddwr: Ann Conway-Hughes
Yn sbarduno newidiadau (sy’n ymwneud â budd-daliadau) i weithgarwch cydymffurfio ar draws y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid, ac yn hwyluso’r drefn o ran gwneud gwaith cydymffurfio a chyflenwi newid o raglenni ehangach CThEF, gan sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu a’u rhoi ar waith.
Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog a Busnesau o Faint Canolig
Cyfarwyddwr: Philippa Madelin
Yn canolbwyntio ar unigolion cyfoethog, busnesau o faint canolig, cyrff cyhoeddus, ymddiriedolaethau ac elusennau. Mae hefyd yn delio â risgiau o ran statws cyflogaeth a chyfryngwyr, Treth Etifeddiant, a chymhellion a rhyddhadau amrywiol.
Cyllid a Chynllunio
Cyfarwyddwr: Francesca Roberts
Yn arbenigwr o ran gwneud gwaith cynllunio ar gyfer y busnes, rheoli risg, sicrwydd, gwaith ‘parhad busnes’ a diogelwch ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid, ac yn cefnogi rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad drwy ddarparu data a gwasanaethau cyfrifyddu.
Grŵp Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Jonathan Athow
Yn datblygu ac yn cyflawni diwygiadau i bolisïau system dreth y DU er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar waith dadansoddi, adborth o safon uchel gan gwsmeriaid, a thrwy gyd-weithio’n agos gyda Thrysorlys EF.
Cyfarwyddiaethau Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid
Strategaethau CThEF
Cyfarwyddwr: Lucy Pink
Yn arwain ar benderfynu cyfeiriad strategol CThEF, ac yn sicrhau bod y cyfeiriad strategol hwn yn cyd-fynd â’n nod o fod yn adran dreth a thollau sy’n fodern, ac y mae pobl yn ymddiried ynddi.
Dadansoddi Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth
Cyfarwyddwyr: Jane Whittaker ac Adrian Richards
Yn darparu dadansoddiadau, ymchwil ac ystadegau er mwyn llywio polisïau a phenderfyniadau ynghylch gwaith gweithredol, rhagolygon cyllidol ac adroddiadau CThEF, a dadansoddiadau traws-lywodraethol.
Cyfryngwyr
Cyfarwyddwr: Rob Jones
Yn gweithredu fel catalydd i sbarduno CThEF i newid ei ddull o gyfryngu’r system dreth, codi safonau a gwella cydymffurfiad, effeithlonrwydd, a phrofiad y cwsmer.
Pontio Polisi Strategol a Chyflawni
Cyfarwyddwr: Rosalind Kay
Yn gweithio ar draws CThEF, gydag adrannau eraill o’r llywodraeth yn ogystal â’r gweinyddiaethau datganoledig, er mwyn datblygu polisïau mewn ffordd strategol ac i gydlynu’r polisïau hyn. Yn goruchwylio digwyddiadau cyllidol, yn cyflwyno’r newidiadau i bolisïau ac yn sbarduno i’w gwella.
Gweinyddu Trethi
Cyfarwyddwr: Paul Riley
Yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw fframwaith deddfwriaethol a pholisïau at ddiben gweinyddu trethi mewn ffordd effeithlon, ac yn darparu arweiniad a chyngor technegol er mwyn cynnal y fframwaith hwn.
Materion Busnes, Asedion a Rhyngwladol
Cyfarwyddwr: Jon Sherman
Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a materion technegol sy’n ymwneud â busnesau, asedion (Treth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant a threthi stamp) ac ymddiriedolaethau sy’n cael eu trethi’n uniongyrchol, ac yn cyflawni ar waith o ran treth ryngwladol ac ymrwymiadau o ran tryloywder.
Treth Anuniongyrchol
Cyfarwyddwr: Rachel Nixon
Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a materion technegol sy’n ymwneud â TAW, Treth Premiwm Yswiriant, trethi trafnidiaeth ac amgylcheddol, tollau ecséis a hapchwarae.
Cyfarwyddiaeth Polisi Unigolion
Cyfarwyddwr: Cerys McDonald
Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a thechnoleg sy’n ymwneud â threthi a budd-daliadau sy’n cael effaith ar gwsmeriaid unigol.
Cyllid, Cynllunio, Perfformio a Risg
Cyfarwyddwr: Theresa Knowles
Yn goruchwylio gweithrediadau corfforaethol, gan gynnwys gwaith cynllunio i’r busnes, dyrannu adnoddau, rheoli ariannol, monitro perfformiad, rheoli risg a gwirio bod mesurau sicrwydd a rheolaethau priodol ar waith.
Newid a Chydweithio Corfforaethol a Strategol
Arweinydd: Andy O’Loughlin
Rydym yn galluogi CSTD i wreiddio Gweithio Hybrid a chyflawni Cynllunio Gweithlu Strategol, ac ar yr un pryd rydym yn cefnogi Diogelwch, Newid, Rheoli Busnes a gweledigaeth 5 mlynedd CSTD.
Adnoddau Dynol
Cyfarwyddwr: Dan Coughlin
Yn rhoi cyngor ynghylch Adnoddau Dynol i’r grŵp busnes.
Grŵp y Prif Swyddog Pobl
Prif Swyddog Pobl: Helen Pickles
Yn datblygu ac yn darparu goruchwyliaeth wrth i bolisïau AD CThEF (i wneud CThEF yn lle gwych i weithio) gael eu rhoi ar waith, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am gynllunio’r gweithlu, recriwtio, rheoli talent a gweithgareddau dysgu.
Cyfarwyddiaethau’r Prif Swyddog Pobl
Caffael Talent a Dysgu dros dro
Cyfarwyddwr: Nicky Pattimore
Yn gyfrifol am strategaeth a thrawsnewid CThEF o ran dysgu, ac yn arwain ar gaffael talent gan gynnwys recriwtio gweithredol a llafur wrth gefn.
Trawsnewid y Gweithle a Phartneriaethau
Cyfarwyddwr: Kate Tilley
Pennaeth y proffesiwn AD ac yn gyfrifol am alluogi CThEF i drawsnewid y sefydliad a’r gweithlu ar gyfer y dyfodol, a hynny drwy broses o ddylunio o ran y sefydliad a’r gweithlu, effeithiolrwydd sefydliadol, datblygu a gweithredu strategaeth pobl CThEF, a chynllunio’r gweithlu mewn ffordd strategol.
Partneriaid Busnes
Cyfarwyddwr: Simon Fryer
Yn arwain Cyfarwyddwyr AD a thimau Partneriaid Busnes AD wrth iddynt gefnogi Grwpiau’r Busnes a’r Gwasanaeth Cynghori Arbenigol, ein swyddogaeth sy’n cefnogi’r gwaith achos AD.
Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer Cwsmeriaid
Cyfarwyddwr: Bobby Chatterjee
Mae’r Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer Cwsmeriaid yn arwain ar ddarparu ystod ehangach o wasanaethau arbenigol sy’n creu fframwaith effeithlon a chynhwysol o gyflogai ar gyfer CThEF. Mae ein portffolio yn cwmpasu Polisi Cyflogai, Cysylltiadau â Chyflogai a Gwobrwyo, yn ogystal ag Amrywiaeth a Chynhwysiant Cydraddoldeb gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, Llesiant, a Diogelwch Corfforaethol.
Grŵp y Prif Swyddog Cyllid
Yn cynnwys ein swyddogaeth fasnachol ac ariannol, yn ogystal ag ystadau, cyllid, AD a gwasanaethau bancio y darperir i CThEF ac adrannau eraill o’r llywodraeth.
Prif Swyddog Cyllid: Justin Holliday
Cyfarwyddiaethau’r Prif Swyddog Cyllid
Newid, Sicrwydd a Buddsoddiad
Cyfarwyddwr: Mike Shipp
Yn gyfrifol am roi sicrwydd annibynnol o’r ffordd y mae CThEF yn cyflawni newid ac yn gwneud penderfyniadau o ran buddsoddi.
Masnachol
Cyfarwyddwyr: John Hayes, Andrew Wilson
Yn gyfrifol am yr holl drefniadau masnachol, gan weithio mewn partneriaeth â pherchnogion contractau ledled CThEF i sicrhau gwell canlyniadau drwy ein cyflenwyr, sicrhau gwerth am arian, galluogi arloesedd a chreu cyfleoedd ar gyfer Gwerth Cymdeithasol.
Strategaeth a Pherfformiad Ariannol
Cyfarwyddwr: Ian Clarke
Yn gyfrifol am gynllunio, monitro, ac adrodd ar berfformiad a’r sefyllfa ariannol yn gyffredinol sydd wrth wraidd yr hyn y mae CThEF yn ei gyflawni.
Rhaglen Unity
Cyfarwyddwr: Cath Rollo
Yn gyfrifol am y Rhaglen Unity a fydd yn cyflawni swyddogaeth o Gydwasanaethau AD a Chyllid gan ddefnyddio technoleg a phrosesau newydd i gefnogi CThEF, y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o fis Mehefin 2024 ymlaen.
Archwilio Mewnol
Cyfarwyddwr: Tim Addison
Yn darparu sicrwydd annibynnol i’r Prif Weithredwr drwy nodi bod y prosesau rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol yn gweithredu mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, a hynny er mwyn helpu i ddiogelu enw da CThEF.
Gwasanaethau Busnes Unity
Cyfarwyddwr: Toni Court
Yn gyfrifol am ddarparu cyswllt a gwasanaethau cymorth o ran caffael, cyllid ac AD gweithrediadol o safon uchel i holl gyflogeion CThEF, yr Adran Drafnidiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA).
Cyfrifyddu Ariannol, Risg a Rheoli
Cyfarwyddwr: Alison Bexfield
Yn gyfrifol am roi cyfrif am holl weithgarwch CThEF wrth wneud yn siŵr bod risgiau adrannol yn cael eu rheoli, bod rheolaethau effeithiol ar waith, a bod ein systemau ariannol wedi’u hachredu.
Rhaglen Ystadau a Lleoliadau
Cyfarwyddwr: Louis Roberts
Yn gyfrifol am ddarparu gweithleoedd arbenigol a swyddfeydd cynhwysol, sy’n fodern, diogel ac o safon uchel i gydweithwyr yn CThEF ac adrannau eraill o’r llywodraeth.
Cyfarwyddwr: Colin Cassé
Yn gyfrifol am gyflawni Rhaglen Lleoliadau CThEF.
Grŵp y Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol (CDIO)
Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol: Daljit Rehal
Yn cynllunio, datblygu, ac yn rhedeg gwasanaethau digidol a gwasanaethau gwybodaeth ar gyfer ein pobl a’n cwsmeriaid, tra bydd yn sicrhau ein bod yn cadw data mewn ffordd sy’n ddiogel ac yn bodloni gofynion cyfreithiol.
Cyfarwyddiaethau’r Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol
Cyfarwyddwr Cyllid
Cyfarwyddwr Cyllid: David Swainston
Yn gyfrifol am gymryd cyfrifoldeb am Fframwaith Llywodraethu CDIO, a’i ddatblygu, gan sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail y data sydd ar gael; datblygu ac olrhain achosion busnes cadarn, ac optimeiddio rheolaeth ariannol CDIO. Yn gyfrifol am wella Model gweithredu CDIO yn barhaus, a sicrhau bod perthynas strategol (cwsmer a chyflenwr) a gweithgareddau rheoli portffolio yn darparu’r gwerth mwyaf posibl i CThEF.
Prif Beiriannydd a Pherchennog Platfformau
Cyfarwyddwr Peirianneg a Phlatfformau: David Andrews
Yn gyfrifol am osod cyfeiriad a strategaeth ar gyfer y ddarpariaeth o blatfformau i fodloni anghenion gwasanaethau a chynhyrchion y busnes. Yn goruchwylio rheolaeth o blatfformau ac yn gosod ffiniau gwarchodol ar gyfer eu defnydd, gan fod yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw beth sy’n mynd yn fyw yn bodloni’r safonau gofynnol. Yn berchen ar holl raglenni a phlatfformau ar gyfer diogelwch, gwytnwch, at ddibenion ansawdd data, ac yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr holl blatfformau’n cael eu diweddaru’n aml.
Cyfarwyddwr y Brif Swyddfa Technoleg a Chynllunio
Cyfarwyddwr y Brif Swyddfa Technoleg a Chynllunio: Tom Skalycz
Yn gyfrifol am y diffiniad o strategaeth TG, llunio cynlluniau a modelau a fydd yn galluogi platfformau a chynhyrchion i esblygu drwy ddatrysiadau TG. Yn sbarduno arloesedd ar draws adrannau technoleg CThEF.
Diogelwch CThEF
Prif Swyddog Diogelwch: Kelly Paterson
Yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth ddiogelwch CThEF a rhoi gweithdrefnau a rheolaethau diogelwch ar waith sy’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol, yn ogystal â dangos arfer da.
Prif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Ffiniau a Masnach
Prif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Ffiniau a Masnach: Nicolas Bourven
Yn gyfrifol am ddarparu’r dechnoleg ar gyfer gwaith Ffiniau a Masnach, ar draws y llywodraeth, a fydd yn datblygu strategaeth 2025 i gefnogi agenda uchelgeisiol y llywodraeth o ran sefydlu ymgyrch Ffiniau a Masnach yn y DU o’r radd flaenaf.
Cyfarwyddwr AD, CDIO
Cyfarwyddwr AD, CDIO: Breda O’Connor
Yn gyfrifol am, ac yn datblygu, Cynllun Gweithlu Strategol y CDIO, gan weithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gweithredu i sicrhau bod yr ymyriadau cywir ar waith er mwyn cynyddu gallu pawb yn barhaus.
Pennaeth Unity, Cyfarwyddwr Technoleg
Pennaeth Unity, Cyfarwyddwr Technoleg: Simon Smith
Yn gyfrifol am ddarparu cydrannau technegol y Saernïaeth Targed Unity ac yn cefnogi’r gwasanaeth ehangach. Yn berchen ac yn rheoli’r dechnoleg, yn gwneud gwaith adeiladu a gweithredu cysylltiedig, yn cyd-weithio â swyddogaethau CDIO eraill.
Prif Berchennog Cynhyrchion
Prif Berchennog Cynhyrchion: Sarah McMann
Yn atebol am ddatblygu a darparu gwasanaethau a chynhyrchion gan ddefnyddio cyfluniad o alluoedd presennol, strategaeth API a thrwy integreiddio gallu’r platfform. Yn datblygu cynhyrchion yn unol â’r cyfarwyddiadau a strategaeth y cytunwyd arnynt.
Prif Swyddog Data
Prif Swyddog Data: Aydin Sheibani
Yn atebol am y gwaith strategaeth ddata, llywodraethu, rheoli a chyflawni gwaith datrysiadau data, a hynny ar draws yr holl fenter. Yn datblygu gallu CThEF o ran gwyddor data, gan sicrhau ei fod wedi’i ymgorffori yn ein cylch bywyd datblygu.
Grŵp Cyfreithiol CThEF
Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyffredinol: Alan Evans
Darparu gwasanaethau cyfreithiol i CThEF.
Cyfarwyddiaethau’r Gwasanaethau Cyfreithiol
Ymgyfreitha
Cyfarwyddwr: Samantha Pullin
Yn gyfrifol am ymgyfreitha gan CThEF.
Cyfarwyddiaeth Adolygiadau a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyfarwyddwr: Mark Wilson
Yn cynnal adolygiadau statudol (penderfyniadau o ran cosbau/cydymffurfio) ac yn rheoli gohebiaeth weinidogol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth/ceisiadau gwrthrych am wybodaeth, cwestiynau seneddol a thrawsnewid. Yn darparu gwasanaethau cyfrifyddu ac ansolfedd i CThEF.
Ymgynghorwyr Treth Busnes a Chyfraith Ryngwladol
Cyfarwyddwr: John Evans
Yn darparu cyngor cyfreithiol i CThEF, ac yn llunio deddfwriaeth ar ei gyfer, sy’n cwmpasu’r holl drethi busnes, trethi amgylcheddol, ardrethi busnes, gwybodaeth gyfreithiol, tollau ac ecséis, masnach Ewropeaidd a masnach ryngwladol.
Ymgynghorwyr Cyfreithiol Unigolion a Chroestoriadau
Cyfarwyddwr: Jo Greenidge
Yn darparu cyngor cyfreithiol i CThEF, ac yn llunio deddfwriaeth ar ei gyfer, ar drethi personol, budd-daliadau a chredydau, gwrth-arbed, materion troseddol a masnachol.
Grŵp Ffiniau a Masnach
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Carol Bristow
Yn cefnogi masnach ryngwladol y DU a’r casgliad o drethi a thollau ar fewnforion, ac yn gweithio’n agos gyda Llu’r Ffiniau ar ran y Swyddfa Gartref.
Cyfarwyddiaethau Ffiniau a Masnach
Polisi a Strategaeth Tollau
Cyfarwyddwr: Alex Pienaar
Yn gyfrifol am ddatblygu polisïau, rhoi’r datblygiadau hyn ar waith, cynnal a chadw a gwella cyfundrefn dollau’r DU, a hynny’n unol â blaenoriaethau’r llywodraeth ac amcanion gweinidogol.
Newid yn sgil Ffiniau
Cyfarwyddwr: Sarah Hartley
Yn cefnogi uchelgais y llywodraeth o ran sefydlu ymgyrch Ffiniau a Masnach yn y DU o’r radd flaenaf, a hynny drwy ddarparu un platfform tollau yn y DU, gwneud gwelliannau i reolaethau tollau, a sicrhau bod yr ymrwymiadau o ran cludo yn cael eu bodloni.
Gwasanaethau Wrth y Ffin, Data a Dylunio
Cyfarwyddwr: Gill Evans
Yn canolbwyntio ar wella’r gwasanaethau wrth y ffin (o’r dechrau i’r diwedd) drwy fynegi’r hyn y mae CThEF yn cynnig i gwsmeriaid a’i werthoedd mewn ffordd glir, ac yn datblygu dewisiadau dylunio (sy’n seiliedig ar dystiolaeth) i wella perfformiad a chydymffurfiad cwsmeriaid.
Cynllunio Strategol ar gyfer Cwsmeriaid a Seilwaith
Cyfarwyddwr: Claire Dartington
Yn gyfrifol am friffio gweinidogol a seneddol ynghylch materion CThEF sy’n ymwneud â’r ffiniau, rheoli cwsmeriaid y gadwyn gyflenwi mewn ffordd strategol, darparu’r gallu i ailasesu cyfleusterau mewndirol wrth y ffin presennol y DU a datblygu rhai newydd.
Rhaglen Ffiniau a Masnach a Chyflawni Gweithredol
Cyfarwyddwr: Julie Etheridge
Yn darparu’r gallu i fusnesau Gogledd Iwerddon gael mynediad at farchnad agored y DU. Yn gyfrifol am gyfleusterau mewndirol wrth y ffin, porthladdoedd rhydd, cydlynu Nawdd Cymdeithasol a’r Fframwaith Windsor.
Grŵp Cyflawni Newid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Suzanne Newton
Yn rheoli portffolio newid CThEF ac yn arwain ar rai o’r rhaglenni newid mwyaf, o ran maint a chymhlethdod.
Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Cyflawni Newid
Rhaglenni Trawsnewid Digidol
Cyfarwyddwr: Jade Ackers
Yn gyfrifol am ddarparu un profiad digidol i gwsmeriaid ar draws y we, a sianelu symudol, drwy integreiddio a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn Cyfrifon Treth Personol a Chyfrifon Treth Busnes, a hynny er mwyn cynyddu nifer y cwsmeriaid a gwmpesir.
Ffenestr Masnach Sengl
Cyfarwyddwr: Max Hacon
Yn cydweithio gydag arbenigwyr o fasnach a diwydiant i ddylunio porth digidol rhwng busnesau a systemau Ffiniau’r DU a fydd yn galluogi defnyddwyr i fodloni eu hymrwymiadau o ran mewnforio, allforio a chludo.
Rhaglen Troi Treth yn Ddigidol
Cyfarwyddwr: Craig Ogilvie
Yn ceisio lleihau’r bwlch treth drwy ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid gadw cofnodion digidol, defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol, a chyflwyno diweddariadau bob chwarter, yn y gobaith y bydd hyn yn dod â’r system dreth yn agosach at fod yn amser real.
Rhaglenni Technoleg
Cyfarwyddwr: Paul Williams
Yn gyfrifol am gyflawni clwstwr o raglenni (sydd â sail dechnolegol) yn llwyddiannus, a fydd yn gwella iechyd technegol, trwsio hen systemau, a diweddaru technoleg sy’n heneiddio.
Rhaglenni Busnes a Pholisi
Cyfarwyddwr: Pete Walsh
Yn gyfrifol am arwain clwstwr o brosiectau yn CThEF a rhaglenni a fydd yn allweddol i gyflawni agenda treth y llywodraeth a strategaeth yr adran o ran gweinyddu trethi.
Grŵp Trawsnewid Menter
Cyfarwyddwr Cyffredinol: James Mitton
Yn cefnogi CThEF i greu busnes digidol effeithiol sy’n darparu profiad gwell i gydweithwyr a chwsmeriaid, tra bydd hefyd yn lleihau’r bwlch treth trwy drawsnewid ar draws y menter cyfan.
Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Trawsnewid Menter
Saernïaeth Fusnes
Cyfarwyddwr: Emma Court
Yn gyfrifol am ddiffinio’r newidiadau gofynnol i gefnogi cyfnod pontio CThEF yn unol â’i strategaeth.
Cwsmeriaid, Dylunio a Phroses
Cyfarwyddwr: Claire Walsh
Yn gyfrifol am gynrychioli llais y cwsmer wrth ddylanwadu ar benderfyniadau o ran polisi a dyluniad y cynhyrchion a’r gwasanaethau fel y byddant yn adlewyrchu mewnwelediad gan gwsmeriaid.
Rheoli Portffolio
Cyfarwyddwr: Oliver Fisher
Yn gyfrifol am optimeiddio’r broses o ddyrannu cyllid i newid mentrau, gan sicrhau bod CThEF yn cyflawni ei strategaeth ac yn cyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth, gan sylweddoli’r buddion ar gyfer ein pobl, ein gwaith a’n cwsmeriaid.
Arweiniad a Gohebiaeth CThEF
Cyfarwyddwr: Andrew Pemberton
Yn rhoi cyngor, cymorth a gwasanaethau gohebu i CThEF, yn ogystal â darparu a gwella arweiniad CThEF i gydweithwyr a chwsmeriaid. Yn ymgorffori Tîm Cynaladwyedd CThEF hefyd.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Prif Weithredwr: Jonathan Russell CB
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asiantaeth weithredol sy’n cael ei noddi gan Gyllid a Thollau EF.
Cyfarwyddiaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Prif Brisiwr
Prif Brisiwr: Alan Colston
Yn darparu cyngor technegol a chyngor o ran prisio, yn hyrwyddo a sicrhau safonau proffesiynol, cysondeb, gwrthrychedd a thryloywder i ddarparu prisiadau dibynadwy o eiddo fel rhan o’i swydd fel Pennaeth y Proffesiwn Syrfeio gyda’r VOA . Mae hefyd yn Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Systemau Busnesau.
Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol
Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol: Toby Nerval
Yn gyfrifol am Gyllid, Perfformiad, Llywodraethiant, Adnoddau Dynol ac Ystâd Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Prif Swyddog Gweithredu
Prif Swyddog Gweithredu: Paula Dixon
Yn gyfrifol am gyflawni gweithredol ledled y VOA o fewn 4 Uned Brisio Ranbarthol, 3 Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid, y Tîm Treth Gyngor Genedlaethol, y Gyfarwyddiaeth Rhagoriaeth Weithredol a’r Gyfarwyddiaeth Darparu Gwasanaethau.
Strategaeth a Thrawsnewid
Prif Swyddog Strategaeth a Thrawsnewid: Carolyn Bartlett
Yn gyfrifol am strategaeth, polisi, trawsnewid, gwybodaeth, data a dadansoddi. Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer rhaglen Diwygio Ardrethu Annomestig (Ardrethi Busnes).