Papur polisi

Cynllun Gweithredu Bregusrwydd GLlTEF - Hydref 2024

Diweddarwyd 11 Ebrill 2025

1.  Cyflwyniad

Gall bod angen defnyddio un o’n gwasanaethau fod yn brofiad brawychus i unrhyw un. Gall fod yn her fwy fyth i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rydym yn dweud bod pobl yn agored i niwed pan fyddant yn ei chael hi’n anodd ac angen cymorth ychwanegol. Gallai hyn fod yn anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu brofiad sydd wedi gwneud i rywun deimlo’n anniogel.

Mae “Sut rydym yn helpu defnyddwyr sy’n agored i niwed” yn dangos sut rydym yn anelu i wneud ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn hygyrch i bawb. Mae’n pennu beth rydym wedi’i wneud, fel bod ein defnyddwyr sy’n agored i niwed ddim dan anfantais neu’n destun gwahaniaethu wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau sy’n fwy agored i niwed, a’n partneriaid sy’n cefnogi grwpiau sy’n agored i niwed. Rydym yn gweithio i addasu a gwella ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac adrannau eraill y llywodraeth i sicrhau ein bod yn darparu’r lefel gywir o gymorth. Mae’n bwysig i ni y gall ein defnyddwyr agored i niwed bob amser gael mynediad i’r system gyfiawnder yn ddiogel ac yn hyderus.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal gwerthusiad cyffredinol o’r rhaglen Ddiwygio, sy’n canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder a materion agored i niwed ar draws pob awdurdodaeth. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn Gwerthusiad Cyffredinol Diwygio GLlTEF: Ymchwil

2. Cefndir

Bu i ni gyhoeddi ddiwethaf yn Ebrill 2024.

Gan fod Rhaglen Ddiwygio GLlTEF yn dod i ben ym mis Mawrth 2025, rydym wedi manteisio ar y cyfle i adolygu’r ffordd rydym yn darparu diweddariadau. Byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni ac wedi parhau i’w wneud ers ein diweddariad diwethaf. Rydym wedi newid teitl ein cyhoeddiad ym mis Hydref 2024 i “Sut rydym yn cefnogi defnyddwyr sy’n agored i niwed” i adlewyrchu’r newid hwn.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth. Y rhain yw:

  • darparu cymorth i’n defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad i wasanaethau llys a thribiwnlys a chymryd rhan ynddynt a chyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth pan fo angen
  • casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed
  • gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein defnyddwyr sy’n agored i niwed yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau a byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y canlynol:

Rydym yn parhau i gefnogi pobl sy’n agored i niwed i gael mynediad i wasanaethau llys a thribiwnlys a chymryd rhan ynddynt drwy wneud y canlynol:

  • sicrhau bod mesurau arbennig yn parhau i fod ar waith.

Mesurau arbennig yw darpariaethau y gellir eu rhoi mewn lle i gefnogi defnyddwyr sy’n agored i niwed. Bydd y math o gymorth yn dibynnu ar yr achos neu’r gwrandawiad oherwydd nid yw mesurau arbennig yr un peth ym mhob awdurdodaeth. Mae enghreifftiau o fesurau arbennig yn cynnwys darparu cyswllt o bell i roi tystiolaeth a defnyddio sgriniau yn y llys

  • darparu addasiadau rhesymol i ddefnyddwyr ag anableddau. Addasiad rhesymol yw’r enw a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 am rywbeth y gallwn ei roi ar waith i helpu defnyddwyr ag anableddau. Mae enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu ein gwybodaeth mewn fformat amgen e.e. ar ffurf sain neu hawdd ei darllen, helpu rhywun i lenwi ffurflen neu ddarparu cadair i ddiwallu angen penodol defnyddiwr

  • darparu gwasanaethau cyfryngol os oes angen cymorth cyfathrebu ar ddefnyddwyr mewn gwrandawiad llys neu dribiwnlys. Arbenigwyr cyfathrebu yw cyfryngwyr sy’n gweithio ar ran GLlTEF i gefnogi pobl sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad llys neu dribiwnlys. Maent yn darparu argymhellion diduedd i GLlTEF am anghenion cyfathrebu penodol unigolyn ac yn amlinellu’r camau sydd eu hangen i’w cyflawni.

  • defnyddio dolen i’r gwrandawiad a rhoi gwybodaeth am wrandawiadau fideo i ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys dolen gwefan, manylion am sut i ymuno â’r gwrandawiad  a beth i’w wneud os oes angen cymorth arnynt

  • cwblhau asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i ddeall effeithiau posibl newid ar ddefnyddwyr â nodweddion gwarchodedig. Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd oed, rhywedd, statws priodasol, ei bod yn feichiog, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol. Gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig

  • cyhoeddi ystod o wybodaeth a chanllawiau ar GOV.UK i baratoi defnyddwyr a thawelu eu meddwl ynghylch dod i lys neu dribiwnlys

  • cyfeirio pobl at gymorth ychwanegol a fydd yn eu helpu. Gyda’r wybodaeth gywir, gallwn nodi anghenion y defnyddiwr a’u cysylltu â gwasanaethau cymorth allanol

  • darparu cortynnau gwddf y Blodyn Haul ar gyfer Anableddau Cudd. Mae pobl sy’n dewis gwisgo’r Blodyn Haul Anableddau Cudd yn nodi’n ochelgar eu bod angen cefnogaeth ychwanegol, cymorth neu ychydig mwy o amser.
  • darparu cymorth i bobl yn ystod gwrandawiadau wyneb yn wyneb a gwrandawiadau o bell. Gall hyn fod yn darparu cyfieithwyr neu gynnig sesiynau i helpu pobl gwblhau eu ceisiadau ar-lein.

Mae rhai mathau o gymorth ond ar gael os bydd y Farnwriaeth yn cytuno, er enghraifft, mesurau arbennig neu gyfryngwr. Bydd y barnwr yn edrych ar yr holl wybodaeth am y cymorth sydd ei angen wrth wneud eu penderfyniad. 

3. Yr hyn yr ydym wedi’i wneud ers ein diweddariad diwethaf

3.1 Darparu cymorth i’n defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad i wasanaethau llys a thribiwnlys a chymryd rhan ynddynt a chyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth pan fo angen

Traws-awdurdodaeth

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • adolygu sut mae GLlTEF yn disgrifio’r cymorth mae’n gallu darparu i ddefnyddwyr. Rydym hefyd wedi adolygu sut rydym yn gofyn i bobl am eu hanghenion cymorth ar draws amrywiaeth o ffurflenni GLlTEF. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i adnabod ffyrdd i wella dealltwriaeth defnyddwyr o’u opsiynau cymorth a’i wneud yn haws i ofyn am gymorth.

Gwaith Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cyflwyno opsiwn sgwrsio dros y we ar gyfer Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS) yn yr Alban. Mae cymorth i ddefnyddio’r system ar gael drwy ganolfannau gwasanaeth y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant

  • gwella ein dull mewn perthynas â cham-drin domestig trwy: - mynychu Rhwydwaith Pencampwyr Cam-Drin Domestig aml-asiantaeth - parhau i weithio gydag OCS, un o’n partneriaid gwasanaethau dan gontract, i ddeall eu hyfforddiant ymwybyddiaeth cam-drin domestig ar gyfer Swyddogion Diogelwch y Llysoedd
  • parhau i brofi ceisiadau Cyfraith Teulu Preifat ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain i weld sut y gallwn wella’r system ar gyfer ymgeiswyr. Mae achosion Cyfraith Breifat rhwng aelodau’r teulu, megis rhieni neu berthnasau eraill ac nid ydynt yn ymwneud ag Awdurdod Lleol.

Gwaith Troseddol

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • gwneud gwelliannau i 13 o ystafelloedd aros i dystion yn llysoedd y Goron ledled Cymru a Lloegr. Mae’r rhain yn cynnwys ystafelloedd cyswllt fideo i hwyluso recordio tystiolaeth ymlaen llaw, mannau lluniaeth newydd, seddi mwy cyfforddus, ynghyd a gwaith atal lleithder, peintio a gosod carpedi newydd.

  • parhau i gefnogi llysoedd i ddarparu croesholi wedi’i recordio ymlaen llaw ar gyfer y bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gynnwys y rhai hynny gyda phroblemau iechyd difrifol neu salwch a allai effeithio ar dystiolaeth.

  • parhau i gefnogi safleoedd cysywllt o bell i gynnig croesholi wedi’i recordio ymlaen llaw, gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer dioddefwyr a thystion
  • gwella ansawdd y cyfathrebu a’r cymorth a gynigir i ddioddefwyr troseddau rhywiol ar draws y tri llys SSVS yn Leeds, Newcastle a Snaresbrook (Llundain)
  • wedi penodi cyflenwr i ddarparu gwasanaeth cwnsela i reithwyr yn 15 o safleoedd peilot. Bydd y cynllun peilot yn weithredol am chwe mis a bydd yn adnabod sut i ddarparu cymorth i reithwyr sy’n rhan o achosion anodd/heriol.

  • parhau i gefnogi’r broses o gyflwyno Gofynion Triniaeth Dedfrydau Cymunedol a Gofynion Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTR) yn yr holl lysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y gall y farnwriaeth ystyried Gofyniad Adsefydlu Defnyddwyr Cyffuriau, Gofyniad Triniaeth Alcohol a Gofyniad Triniaeth Iechyd Meddwl gofal eilaidd wrth ddedfrydu.

  • partneru â Labordy Polisi ac Arloesedd y Swyddfa Gartref (CoLab) sydd wedi cynnal adolygiad o wasanaethau Cyswllt a Dargyfeirio.

3.2 Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr agored i niwed

Traws-awdurdodaeth

Rydym wedi gwneud y canlynol:

Mae’r asesiadau hyn yn helpu i nodi rhwystrau cyffredin i gael mynediad at gyfiawnder, beth sy’n achosi’r rhwystrau hyn a beth allai helpu i’w dileu. Byddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau yn ddiweddarach eleni.

  • Bu i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) gyhoeddi astudiaeth ansoddol sy’n archwilio’r heriau y mae oedolion sy’n agored i niwed sydd â phroblemau cyfreithiol yn eu hwynebu, a pha gymorth a fyddai wedi eu helpu i gael mynediad at gyfiawnder.

  • parhau i gasglu data nodweddion gwarchodedig, a fydd yn ein helpu i gael dealltwriaeth lawnach o’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau

  • parhau i adolygu’r wybodaeth a ddarperir gan ddefnyddwyr wrth ddefnyddio’r Llinell Taliadau Awtomataidd, sy’n darparu ffordd arall i dal am warantau ar Ddyfarniadau Llys Sirol.

3.3 Gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch i ddefnyddwyr agored i niwed

Traws-awdurdodaeth

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • adolygu’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo i weld sut mae modd gwneud gwelliannau i gefnogi’r prosesau busnes unigryw yn yr awdurdodaethau troseddol. Mae cyfranogwyr yn gallu mynychu gwrandawiad o bell gyda chaniatâd y barnwr.
  • parhau i gyflwyno’r gwasanaeth cymorth digidol (We Are Group) i fwy o’n gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi defnyddwyr sy’n methu mynd ar-lein neu’n cael trafferth gwneud hynny.

  • cwblhau arolygon safle mewn nifer o’n hadeiladau i adnabod problemau o ran hygyrchedd a pharhau i wneud gwelliannau o ran hygyrchedd ffisegol ein hadeiladau drwy

    • sicrhau bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA) yn cael eu hystyried yn gynnar ym mhob prosiect mawr newydd
    • gweithio ar draws GLlTEF i fynd i’r afael â phryderon hygyrchedd sy’n cael eu codi gan randdeiliaid
    • adolygu data arolygon safle ynghylch hygyrchedd ein hadeiladau pan fydd yn dod ar gael
    • defnyddio arolygon arbenigol ychwanegol i ddeall cyflwr presennol ein hystad (arolygon peilot a ddechreuwyd ym mis Mawrth 2024, wedi’u cwblhau Medi 2024)

Gwaith Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • diweddaru a chyhoeddi Datganiad Hygyrchedd Gwneud Hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth sy’n cael ei wella ar hyn o bryd yn dilyn asesiad mewnol. Cynhelir asesiad allanol llawn ym mis Hydref

  • parhau i wneud gwelliannau i’r broses fflagiau achos yn ein systemau rheoli achosion sifil. Mae fflagiau’r achos yn hysbysu staff bod angen rhywbeth penodol mewn achos. Gallai hyn fod yn fesurau arbennig, addasiadau rhesymol, defnydd o’r Gymraeg neu unrhyw beth arall y mae angen i’r llys fod yn ymwybodol ohono

  • wedi gwneud gwelliannau pellach i’r gwasanaeth ysgariadau yn y llwybrau dinasyddion a chyfreithwyr trwy ymestyn y siwrne ddigidol i gwmpasu’r pethau canlynol:
  • gwella tudalennau hafan a’r bar cynnydd fel bod dinasyddion yn gwybod ym mha gam o’r siwrne y maen nhw
  • gall cyfreithwyr bellach wneud cais i newid cynrychiolaeth trwy’r porth yn lle gwneud hynny drwy e-bost.
  • gall defnyddwyr wneud ceisiadau cyffredinol o fewn achos yn ddigidol, ac ymateb i’r llys drwy’r porth yn hytrach na thrwy e-bost

  • parhau i adolygu’r wybodaeth a ddarperir gan ddefnyddwyr wrth ddefnyddio’r Llinell Taliadau Awtomataidd, sy’n darparu ffordd arall i dal am warantau ar Ddyfarniadau Llys Sirol.

4.  Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn parhau i adolygu unrhyw newidiadau a wnawn i ddeall beth yw’r effeithiau ar ddefnyddwyr agored i niwed. 

Byddwn yn parhau i siarad â rhanddeiliaid a phartneriaid allanol ac os byddwn yn canfod effeithiau negyddol ar bobl sy’n agored i niwed sy’n defnyddio ein gwasanaethau, byddwn yn cymryd camau i’w datrys.