Pasbort Addasiad Iechyd
Gellir defnyddio’r ffurflen hon i’ch cefnogi i adnabod pa help a newidiadau sydd ar gael i’ch helpu i symud i waith neu aros mewn swydd.
Dogfennau
Manylion
Gellir defnyddio’r Pasbort Addasiad Iechyd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ei wneud yn anodd i chi symud i waith neu aros mewn swydd.
Gallwch ei ddefnyddio:
- i’ch cefnogi i adnabod pa gymorth a newidiadau (a elwir yn addasiadau rhesymol) gall fod angen arnoch pan rydych yn y gwaith neu’n symud i waith
- i wneud cais am gymorth gan Fynediad at Waith. Gall hwn gynnwys cyllido ar gyfer cyfarpar arbenigol i’ch cefnogi i wneud eich swydd, cymorth i fynd a dod i’r gwaith neu gymorth tra rydych yn y gwaith, fel hyfforddi gwaith
- i’ch helpu i siarad â’ch cyflogwyr am addasiadau a chefnogaeth yn y gwaith efallai bydd angen arnoch
Gall swydd hefyd gynnwys hunangyflogaeth, prentisaeth, profiad gwaith neu interniaeth gyda chefnogaeth.