Cynllun hwyluso allforion cyfunol: hysbysiad preifatrwydd
Diweddarwyd 26 Mawrth 2024
Pwy sy’n casglu eich data personol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data.
Mae Siarter Gwybodaeth Bersonol Defra ar gael yn.
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Defra yn: data.protection@defra.gov.uk.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd rydym yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.
Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), sy’n un o Asiantaethau Gweithredol Defra, yn gallu defnyddio’r data hyn at ddibenion gweinyddu’r cynllun.
Pa ddata a gesglir gennym
Y data personol rydym yn eu casglu gennych yw eich:
- enw a’r cwmni rydych yn ei gynrychioli
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
Pam mae angen eich data arnom
Rydych yn gwneud cais ar ran y cwmni rydych yn ei gynrychioli i ymuno â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol. Mae angen eich manylion cyswllt arnom er mwyn i ni allu prosesu’r cais a gweinyddu aelodaeth eich cwmni o’r Cynllun.
Ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data
Am eich bod yn gwneud cais yn wirfoddol i ymuno â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol, ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data mewn perthynas â’r Cynllun yw eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.
A allaf dynnu fy nghaniatâd yn ôl?
Gallwch. Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy anfon neges e-bost atom sy’n nodi enw’r cwmni allforio, y rhif aelodaeth o’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol, eich enw a’r rheswm dros dynnu eich caniatâd yn ôl i GEFSteam@apha.gov.uk.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn tynnu’n ôl o’r cynllun?
Os byddwch yn gofyn am i’ch ffurflen gais gael ei dileu ac i’ch aelodaeth o’r Cynllun ddod i ben, yna ni fydd eich cwmni yn rhan o’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol mwyach. Fodd bynnag, os byddwch yn newid eich enw a’ch manylion cyswllt a ddarparwyd gennych gyda’ch cais, gallwn wneud y newid hwn a gall eich cwmni barhau i fod yn rhan o’r cynllun.
Beth byddwn yn ei wneud gyda’ch data
Byddwn yn defnyddio eich data yn y ffyrdd canlynol:
- er mwyn cadarnhau eich bod yn gymwys i fod yn aelod o’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol sy’n rhoi lefel ddigonol o hyder i Swyddogion Ardystio ac awdurdodau cymwys yng nghywirdeb yr Ardystiadau Cymorth a ddefnyddir yng nghanllawiau’r Cynllun Cyfunol
- sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau aelodaeth o’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol
Caiff y data a gasglwn eu rhannu ag APHA ac, o bosibl, ag adrannau eraill o’r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus megis Safonau Masnach, Swyddogion Allanol ac Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau aelodaeth o’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol
Ni fyddwn yn:
- gwerthu nac yn rhentu eich data i drydydd partïon
- rhannu eich data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata
Byddwn yn rhannu eich data os bydd yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith – er enghraifft, drwy orchymyn llys, neu er mwyn atal twyll neu drosedd arall.
Am faint o amser y byddwn yn cadw eich data
Byddwn ond yn cadw’ch data am gyhyd ag y:
- byddwch yn gweithredu fel llofnodai awdurdodedig y cwmni allforio
- bydd y Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol yn weithredol
Eich hawliau
Mae rhestr o’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018) i’w gweld yn.
Mae gennych yr hawl hefyd i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr awdurdod goruchwylio) ar unrhyw adeg. Os byddwch yn dymuno arfer yr hawl honno, mae manylion llawn ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.