Ffurflen

Sut i wneud cais am brofiant drwy'r post os oes ewyllys

Diweddarwyd 27 Chwefror 2025

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais os ydych naill ai:

  • yn ‘ysgutor’ - unigolyn a enwir yn ewyllys yr unigolyn sydd wedi marw
  • yn ymarferydd profiant sy’n cynrychioli’r ysgutor

Gwneud cais fel ysgutor heb ymarferydd profiant

Lawrlwythwch y ffurflen i ‘geiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais am brofiant ar-lein. Efallai y byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r ffurflen hon i wneud cais os:

  • ydych yn fuddiolwr sydd wedi’i enwi yn yr ewyllys ac nid oes unrhyw ysgutorion sy’n gallu gwneud cais am y grant
  • nad oes unrhyw ysgutorion wedi’u henwi yn yr ewyllys

Gwneud cais fel ymarferydd profiant

Lawrlwythwch y ffurflen i ‘ymarferwyr profiant yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais ar-lein os oes gennych chi neu’ch cwmni gyfrif MyHMCTS.

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen i chi:

I wneud cais am y grant:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen bapur cywir.
  2. Llenwch bob rhan sy’n berthnasol.
  3. Cwblhewch y rhestr wirio.
  4. Argraffwch y ffurflen.
  5. Llofnodwch a dyddiwch y cais.
  6. Dylech gynnwys siec gyda’ch cais (gweler Sut i dalu).
  7. Anfonwch eich ffurflen wedi ei llenwi ac unrhyw ddogfennau i gefnogi’ch cais i:

HMCTS Probate
PO Box 12625
Harlow
CM20 9QE

Beth i’w gynnwys yn eich cais

Yr ewyllys wreiddiol

Bydd angen i chi gyflwyno’r ewyllys wreiddiol a’r dystysgrif marwolaeth swyddogol. Ni dderbynnir llungopïau o’r dogfennau hyn.

Yn ôl y gyfraith, bydd yr ewyllys wreiddiol yn dod yn ddogfen gyhoeddus pan fydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn rhoi’r grant i chi. Ni fydd yn cael ei dychwelyd i chi gan fod rhaid i GLlTEM ei storio yn y cofnodion cyhoeddus.

Sut i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch dogfennau.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd

Gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu eich cais os byddwch yn anfon eich dogfennau’n brydlon.

Cysylltu â ni

Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 12 wythnos neu os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ni.

Llinell gymorth profiant
0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 1pm

Gwybodaeth am gost galwadau